4 Mai 2018

 

Mae’r cyntaf mewn cyfres o gyfarfodydd sy’n anelu at drechu llygredd dŵr wedi cael ei gynnal gan Cyswllt Ffermio ger Pentywyn ar y ffin rhwng Sir Gâr a Sir Benfro.  

Mae 28 o gyrff dŵr yng Nghymru wedi cael eu henwi fel ardaloedd nad ydynt yn bodloni’r safonau gofynnol. Mae’r cyfarfodydd yn rhan o ymgyrch cenedlaethol ehangach sydd wedi’i anelu at sicrhau ymrwymiad gan y diwydiant i  waredu llygredd er mwyn dangos safonau uchel ac enw da ffermio yng Nghymru.

Mae Dŵr Cymru yn defnyddio dŵr o dwll turio Morfa Bychan i samplu dŵr yfed ar gyfer oddeutu 8,000 o bobl yn yr ardal. Er mwyn ceisio diogelu’r twll turio pwysig hwn, mae Cyswllt Ffermio, a ariennir trwy Raglen Datblygu Gwledig 2014 -2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru yn cynnig nifer o wasanaethau i helpu lleihau’r perygl o lygredd amaethyddol.

Mae oddeutu 1100 ha o dir o fewn Parth Gwarchod Ffynhonnell Morfa Bychan, heb gynnwys coedwigoedd a phentrefi. Mae’r ffermwyr a fynychodd y cyfarfod yn rheolwyr gweithredol ar 991 ha o’r tir. 

“Rydym ni’n hapus iawn gyda’r ymateb gan y gymuned ffermio,” meddai Carys Thomas, Rheolwr Rhanbarthol Cyswllt Ffermio. “Mae’n dangos bod ffermwyr yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i’r mater a’u bod wedi ymrwymo i wella ansawdd dŵr yn yr ardal hon. Roedd y cyfarfod hwn yn ychwanegol i’r grŵp Agrisgôp sydd eisoes wedi cael ei sefydlu i greu a gweithredu dull i ddiogelu a gwella ansawdd dŵr a buddio busnesau ffermio.”

Yn ystod y digwyddiad, bu Keith Owen, ADAS, yn rhoi cyngor ac arweiniad i ffermwyr yn ymwneud â thrin a storio silwair a slyri, effaith dŵr glaw a throsolwg o ddeddfwriaeth bresennol a materion at y dyfodol.

“Un o brif negeseuon Keith yn ei gyflwyniad oedd bod gwelliannau bychain, sy’n aml yn gymharol rad, yn gallu arwain at fuddion sylweddol yn economaidd ac yn amgylcheddol,” eglurodd Carys.

“Er enghraifft, mae cafnau a pheipiau glaw sydd wedi torri’n cael eu diystyru neu eu hanwybyddu’n aml ar ffermydd, ond byddai peipiau glaw wedi torri ar sied nodweddiadol 100m x 60m yn gallu arwain at 180 metr ciwbig o ddŵr glaw yn cyrraedd eich storfa slyri, sy’n gyfwerth ag 11 taith ychwanegol gyda thancer 2000 galwyn i waredu beth oedd yn ddŵr glaw glân.”

Cafodd mynychwyr gyfle i ddysgu am y ffyrdd y gall Cyswllt Ffermio gefnogi ffermwyr Cymru i wneud newidiadau cadarnhaol. Gall Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio ddarparu cyllid 80% ar gyfer cyngor arbenigol, annibynnol, cyfrinachol wedi’i deilwra ynglŷn â chynllunio rheoli maetholion, rheoli a storio slyri a thail buarth ac isadeiledd fferm. Gall busnesau cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio hefyd gael mynediad at gyllid 100% (hyd at uchafswm o €1500) fel rhan o grŵp o 3 neu fwy.

Mae Cymorthfeydd Cynllunio a ddarperir gan Cyswllt Ffermio yn galluogi ffermwyr i drafod eu hymholiadau cynllunio gydag arbenigwr cynllunio am hyd at awr, a hynny am ddim. Mae hyn yn gyfle delfrydol i drafod materion cynllunio sy’n benodol i’ch fferm a sicrhau eich bod yn derbyn digon o wybodaeth ac wedi paratoi’n ddigonol cyn mynd at eich awdurdod cynllunio lleol.

Mae cefnogaeth arall gan Cyswllt Ffermio yn cynnwys; gwasanaeth mentora un i un, lle gall ffermwyr dderbyn hyd at 22.5 awr o fentora gan ffermwr profiadol arall sydd wedi mynd i’r afael â materion ac wedi cyflwyno atebion newydd ar eu ffermydd;

gwasanaeth cefnogi Cynllun Rheoli Cynaliadwy, sy’n rhoi cefnogaeth i ffermwyr i ymgeisio am gymorth ariannol am amrywiaeth o weithgareddau a fydd yn gwella rheolaeth o’n hadnoddau naturiol; ac

EIP Wales, sy’n cynnig cefnogaeth ariannol i grwpiau sydd â syniadau arloesol ynglŷn â sut i drechu llygredd amaethyddol.

 

Am ragor o fanylion ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael gan Cyswllt Ffermio i fynd i’r afael â’r mater pwysig hwn, cliciwch yma neu cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio