17 Mai 2018
Mae cynhyrchwyr cig oen ar ucheldir Cymru yn cael eu hannog i ystyried plannu gwrychoedd a choed
newydd ac adfer coetiroedd sydd wedi eu hesgeuluso i gynyddu’r cysgod ar ôl i un o’r gwanwynau caletaf a gofnodwyd erioed gael effaith ar gynhyrchiant diadelloedd.Er bod cysgodfeydd wedi bodoli ers degawdau, mae amlder y tywydd difrifol a’r symud tuag at systemau ŵyna allan wedi ail godi’r diddordeb yn eu rôl o ran goroesiad ŵyn ifanc.
Gall rhai systemau, fel pori cylchdro, effeithio ar ba mor rhwydd y gellir cyrraedd cysgod, fel y clywodd ffermwyr yn ystod diwrnod agored Cyswllt Ffermio yn ddiweddar yn Peithyll, fferm ucheldir Innovis yng Nghapel Dewi, Ceredigion.
Nod Peithyll, Safle Arloesedd Cyswllt Ffermio, yw gwneud y mwyaf o gynhyrchiant o laswellt sy’n cael ei bori, gan reoli’r gorchudd trwy fesur glaswellt a ffensys trydan. Dywed Dewi Jones, rheolwr gyfarwyddwr Innovis, bod hyn yn creu amgylchedd gwahanol i ddefaid yn y cae hwnnw.
“Trwy osod ffensys trydan, yn arbennig yn yr ucheldir, rydych yn newid deinameg y cae hwnnw,” esboniodd.
“Rydym yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor i sefydlu sut y mae llif y gwynt a bod yn agored iddo yn gweithredu ar ein fferm a sut yr ydym yn effeithio ar hynny trwy ddefnyddio pori cylchdro a systemau eraill sy’n weithredol yma.”
Defnyddiwyd peth o’r ymchwil gan y Brifysgol i ddatblygu ap newydd ar y we sy’n gadael i ffermwyr weld ble mae’r lle gorau i osod cysgod coed neu wrych mewn caeau sy’n agored.
Datblygwyd yr ap ‘Cysgod y Gwynt’ fel rhan o Multi-Land, partneriaeth ymchwil sy’n edrych ar ffyrdd o gynyddu proffidioldeb ac effeithlonrwydd ffermydd trwy amaethyddiaeth gynaliadwy, gan wella gwytnwch y dirwedd amaethyddol.
Dywedodd Andy Smith, uwch ddarlithydd coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor, a siaradwr yn y diwrnod agored Cyswllt Ffermio, trwy roi data penodol am y fferm i mewn i’r ap gall benderfynu ar y siâp a’r lleoliad gorau i’r gysgodfan ar y dirwedd i dda byw.
Oerfel yw un o’r rhesymau pennaf am golli ŵyn newydd eu geni ond mae caeau cysgodol yn cynnig amodau da ar gyfer ŵyna a magu’r ŵyn.
Dywedodd Prysor Williams sydd hefyd yn darlithio ym Mhrifysgol Bangor bod ffermwyr yn cydnabod gwerth cysgod yn ystod y tywydd caled yn ddiweddar.
“Gall cysgodfeydd gynnig manteision yn ystod ŵyna ond hefyd yn yr haf, maen nhw’n wirioneddol amhrisiadwy,” dywedodd wrth ffermwyr yn y diwrnod agored.
“Dydyn nhw ddim yn bethau newydd, rydym wedi eu gweld ers degawdau, ond dwi’n meddwl ein bod ni wedi troi yn ôl gan fod diddordeb cynyddol ynddyn nhw gan ein bod yn cael gaeafau caletach a mwy o dywydd eithafol.”
Mae’r cynnydd ym mhoblogrwydd ŵyna allan a newid o ran y gweithwyr sydd ar gael i leihau costau cynhyrchu wedi bod yn ddylanwadol o ran hynny.
Nid yn unig mae cysgod yn bwysig o ran cynhyrchiant anifeiliaid yn yr ucheldir ond felly hefyd y mae mesur a monitro.
Defnyddiodd Innovis ddata a gasglwyd yn ystod prosiect pwyso aml Cyswllt Ffermio i gefnogi ei bolisïau pori cylchdro.
Trefnir y prosiect hwn gan Cyswllt Ffermio sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig.
Dywedodd Dr Janet Roden, o Innovis, bod pwyso aml ynghyd ag EID yn rhoi cyfle i’r fferm fonitro twf yr ŵyn a newid rheolaeth y ddiadell yn ôl y galw.
“Un enghraifft o hyn yw pan oeddem ni’n pwyso'r llynedd. Fe wnaethom sylwi bod rhai o’r ŵyn yn mynd ar ei hôl hi o ran y pwysau targed felly fe aethant ymlaen i’r padog nesaf ar ddwyster stocio is ac fe wnaethant gynyddu eu pwysau cyn ymuno â’r prif grŵp eto,” dywedodd.
“Trwy gadw llygad ar gynnydd yn y pwysau yn ystod y tymor a’u mesur mewn cymhariaeth â’r cynnydd pwysau targed a gwybodaeth arall, fe wnaethom roi hwb pasteurella ynghynt na’r bwriad gan ein bod yn teimlo bod angen hynny. Roedd y pwysau yn rhoi ychydig o dystiolaeth i seilio’r penderfyniad arno.
“Hefyd, gyda chyfrif wyau ysgarthol y criwiau, mae’r pwyso yn ein helpu i wneud penderfyniad o ran yr amser gorau i drin llyngyr neu efallai i beidio.”
Er bod gan Innovis y seilwaith i bwyso ŵyn yn aml, bydd pwyso sampl o’r ŵyn gydag offer sylfaenol yn rhoi syniad da o’u perfformiad, yn arbennig ar tua wyth wythnos, wrth ddiddyfnu a hyd at eu gorffen.
“Bydd gwybod faint o bwysau’r dydd y maent yn ei ennill yn tynnu sylw at unrhyw broblemau fel y baich o barasitiaid cyn i hynny gael effaith sylweddol ar yr ŵyn,’’ dywedodd Lisa Roberts, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio, a hwylusodd y diwrnod agored.
Gall ffermio yn yr ucheldir ddwyn ei sialensiau ei hun ond gall plannu coed a gwrychoedd yn strategol wella lles anifeiliaid a chynyddu cynhyrchiant.
Er mwyn cynorthwyo hyn, mae’r Cynllun Rheoli Cynaliadwy (SMS) yn cynnig grantiau ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau sy’n gwella rheolaeth ar adnoddau naturiol Cymru, dywedodd Geraint Jones, Swyddog Technegol Coedwigaeth Cyswllt Ffermio.
“Mae cyfleoedd i wneud gwaith cyfalaf a gwella perfformiad amgylcheddol y fferm, fel gosod coed i hwyluso trin anifeiliaid a’u hel, cau ceunentydd a llechweddau serth er budd yr anifeiliaid. Gall yr ap Cysgod y Gwynt eich helpu i ddylunio a gosod y rhain,” dywedodd Mr Jones.
Mae’r gwasanaeth cefnogi sy’n helpu grwpiau sy’n gwneud cais am gyllid yn cael ei gyflwyno gan Menter a Busnes dan y rhaglen Cyswllt Ffermio ar ran Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei ariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd dros Ddatblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.