14 Mehefin 2018

 

Bydd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn annerch fforwm gyntaf Merched mewn Amaeth Cyswllt Ffermio eleni, a gynhelir yng Nghae Ras Bangor-is-y-Coed ar ddydd Iau’r 21ain o Fehefin. Bydd Ysgifennydd y Cabinet hefyd yn lansio ymgyrch newydd Cyswllt Ffermio, “Dechreuwch y sgwrs, mae werth ei chael”, sy’n ymwneud â chynllunio olyniaeth fferm.

Cynhelir yr ail fforwm Merched mewn Amaeth ar ddydd Iau’r 28ain o Fehefin yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod. Yn newid i flynyddoedd blaenorol, bydd y ddau ddigwyddiad yn rhedeg o 3yp i 9yh, yn cynnwys sesiwn ‘sgwrsio’n sydyn’ a swper gyda’r nos.

Bydd Dr Carrie Ruxton PhD yn cyflwyno ‘Manteision cig coch mewn diet iach a chytbwys’, pwnc sy’n addo cynnig newyddion da i gynhyrchwyr cig coch Cymru, yn y fforwm ym Mangor-is-y-Coed a bydd yr Athro Robert Pickard, Athro Emeritws ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cyflwyno’r pwnc yn yr ail fforwm yn Llandrindod.

Bydd cyfle i gael sgwrs un-i-un sydyn gyda nifer o wynebau cyfarwydd o fewn y byd amaeth trwy’r sesiwn sgwrsio’n sydyn, yn cynnwys biolegwr niwrolegol; cynrychiolwyr o fyrddau’r llywodraeth a’r diwydiant, y sector bancio, y cyfryngau, a marchnatwyr-amaeth arbenigol.

Bydd rhaglen y ddau ddiwrnod yn dod i ben gyda’r siaradwraig gyda’r nos Anna Jones, newyddiadurwraig a darlledwraig adnabyddus, a fydd yn cyflwyno ‘Helpu neu Rhwystro? Sylw ar Faterion Ffermio yn y Newyddion’.

Dywedodd Eirwen Williams, Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, mai nod y digwyddiad yw annog merched i arwain newid ac arloesedd o fewn amaethyddiaeth, yn enwedig wrth i fusnesau wynebu ansicrwydd Brexit.

“Mae merched yn chwarae rôl flaenllaw mewn nifer o fusnesau fferm a mentrau gwledig yng Nghymru ac mae’n bwysicach nag erioed bellach i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed,” meddai Mrs Williams, gan ychwanegu bod y digwyddiadau nid yn unig yn dod â merched o’r un anian ynghyd, ond yn cynnig cyfle unigryw i rwydweithio a chreu cysylltiadau newydd o fewn y diwydiant amaeth yng Nghymru.

Bydd gwahoddiad i’r rhai sy’n mynychu ddewis a mynychu dau weithdy wedi’u hwyluso o’r pedwar dewis canlynol:

  • Strategaeth Busnes
    Nigel Davies
    Ymgynghorydd Busnes Promar International
     
  • Iechyd a Diogelwch ar y Fferm
    James Chapman
    Ffermwr ac Ysgolhaig Nuffield
  • Gwrthfiotigau ac Ymwrthedd Gwrthficrobaidd
    Dr Gavin Watkins, Uwch Swyddog Milfeddygol a/neu Gosia Siwonia, Milfeddyg Ymgynghorol Swyddfa Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Llywodraeth Cymru
  • Olyniaeth Fferm (Bangor-is-y-Coed) Yr Athro.Matt Lobley,​ Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Polisi Gwledig, Prifysgol Caerwysg
  • Olyniaeth Fferm (Llandrindod)
    Siân Bushell
    Hwylusydd Olyniaeth Fferm

Mae archebu lle yn hanfodol ar gyfer y ddau ddigwyddiad.

Cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000813 neu cliciwch yma i archebu lle.

Os hoffech ragor o wybodaeth am yr ymgyrch olyniaeth, ewch i’r tudalennau cynllunio olyniaeth ar wefan Cyswllt Ffermio yn dilyn y digwyddiad.

Mae Cyswllt Ffermio wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn