29 Awst 2018

 

jamie mccoy elizabeth stockdale ellie sweetman and andrew rees assessing root structure 1
Gallai ail hadu caeau ar ôl y cyfnod sych parhaus a welwyd yng Nghymru yn ddiweddar fod yn fuddsoddiad annoeth gan fod posibilrwydd bod planhigion sy’n edrych fel eu bod wedi marw o ganlyniad i ddiffyg dŵr ynghwsg mewn gwirionedd.

Yn ystod diwrnod iechyd pridd a gynhaliwyd ar y cyd rhwng Cyswllt Ffermio ac AHDB yn Sir Benfro, cynghorwyd ffermwyr i asesu gwreiddiau’r planhigion glaswellt mewn caeau’n ofalus mewn mannau ble mae cynhyrchiant wedi cael ei atal o ganlyniad i ddiffyg glaw.

“Gallai cae edrych fel ei fod wedi marw, ond wrth balu planhigion glaswellt ac edrych ar y gwreiddiau - os maen nhw’n ystwyth ac yn gallu plygu ychydig, mae’r planhigyn wedi goroesi,” eglurodd Ellie Sweetman o NIAB (National Institute of Agricultural Botany).

Mae ail-hadu yn ddrud, a dim ond pan fo gwir angen y dylid gwneud hynny – mae ffigyrau ymchwil o Iwerddon yn nodi’r costau yn £600-£700/hectar.

“Ystyriwch ble rydych chi eisiau aredig. Gallai fod yn bosibl  hau mewn slotiau neu dros-hau os ydych chi eisiau canolbwyntio ar ardaloedd penodol yn unig mewn cae,” meddai Ms Sweetman wrth ffermwyr a fynychodd y diwrnod agored a gynhaliwyd ar fferm Moor Farm, un o ffermydd Arddangos Cyswllt Ffermio yn Nghastell Gwalchmai.

Ni ddylid hau hadau newydd dan yr amodau presennol, yn enwedig gyda mwy o dywydd sych yn y rhagolygon, rhybuddiodd.

Mae hadau angen cyswllt da gyda gronynnau’r pridd er mwyn amsugno dŵr a sbarduno adwaith cemegol er mwyn iddynt egino a thyfu.

“Mae angen digon o leithder o gwmpas er mwyn i’r eginblanhigion sefydlu,” meddai Ms Sweetman.

Roedd hi’n annog ffermwyr i sicrhau gwell dealltwriaeth o’u priddoedd, i wybod beth sy’n gyrraeddadwy ar eu ffermydd.

“Nid yw’n ymwneud o reidrwydd gyda sicrhau’r pridd perffaith, mae’n  golygu gwybod beth sy’n dda ar eich fferm eich hun, eich pridd, a deall y potensial,” awgrymodd Ms Sweetman.

“Bydd ffermwyr yn gwybod ble mae’r twf yn dda ar eu ffermydd, o dan wrychoedd o bosibl. Edrychwch ble mae’r cynhyrchiant gorau a’r gwaethaf, palwch dyllau a gwiriwch i weld beth yw’r pH ac adolygu sut ydych chi wedi rheoli’r caeau hynny.’’

Ond nid yw nawr yn amser da i edrych ar y pridd i ganfod cywasgiad, rhybuddiodd Dr Elizabeth Stockdale, Pennaeth Ymchwil Systemau Ffermio NIAB yn ystod y digwyddiad pridd  GREATsoils (Growing Resilient Efficient and Thriving).

Mae craciau sydd wedi ymddangos yn y pridd yn ystod yr haf o ganlyniad i dywydd sych yn dda ar gyfer cywasgiad gan eu bod yn gallu datrys y broblem yn naturiol, meddai.

“Ceisiwch osgoi rhoi metal yn y tir a chwalu’r pridd ble nad oes angen,” meddai.

“Peidiwch â thrin cywasgiad am eich bod yn meddwl ei fod yn broblem i chi. Gwiriwch y pridd ac ystyriwch sut ydych chi wedi rheoli’r cae – meddyliwch am faint y peiriannau a’r anifeiliaid sydd wedi bod yno.

“Os mae cywasgiad yn broblem, defnyddiwch beiriant, ond gosodwch y peiriant yn benodol ar gyfer y broblem sydd gennych chi, yn yr amodau lleithder cywir ac i’r dyfnder cywir.’’

Er mwyn dewis y mathau cywir o hadau, mae’n awgrymu y dylai ffermwyr fynd â’r Rhestr Glaswellt a Meillion a Argymhellir ar gyfer Cymru a Lloegr at eu cyflenwr wrth brynu hadau a gofyn iddyn nhw egluro pam eu bod yn argymell hadau penodol.

“Mewn mannau lle bo clefydau’n bresennol, dewiswch rywogaethau sydd ag ymwrthedd i’r clefydau hynny,” meddai Dr Stockdale.

Cafwyd trafodaeth hefyd ynglŷn â gwasgaru gwrtaith yn dilyn cyfnod sych.

Dywedodd Abigail James, Swyddog Technegol Llaeth Cyswllt Ffermio (De Orllewin Cymru) fod ffermwyr yn cael eu cynghori na fyddai gwrtaith yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol os oedd yn cael ei wasgaru tra bod y glaswellt yn dal i dyfu oherwydd cyfraddau twf isel.

“Cyngor y siaradwyr oedd peidio â rhuthro i wasgaru gwrtaith ar gaeau sydd wedi ei dderbyn ar ddechrau’r cyfnod sych gan y bydd yn dal i fod yno os nad yw’r glaswellt wedi tyfu,’’ meddai.

 

Mae’r ffermwr llaeth, Andrew Rees, wedi sicrhau tir pori ychwanegol ar gyfer yr hydref i’w fuches gan dynnu dau badog o’r gylchred pori a phlannu rhywogaethau glaswellt sy’n tyfu’n sydyn.

Roedd cynhyrchiant glaswellt ar Moor Farm wedi gostwng i ddim yn ystod mis Gorffennaf ac roedd y fuches o 263 o wartheg yn derbyn dogn silwair cyflawn, wedi’i borthi yn y caeau.

Er mwyn ymestyn y tymor pori, tynnodd Mr Rees ddau badog o’r gylchred a hau un gyda chymysgedd rhygwellt Eidalaidd a rêp a’r llall gyda chymysgedd Westerwold a rêp.

“Llynedd, bûm yn tyfu rhygwellt Eidalaidd a rêp ar 18 erw ar gyfer y stoc ifanc, gan ddilyn hynny gyda chnwd cyfan yn y gwanwyn, a gweithiodd hynny’n dda,” eglurodd.

Mae’n hyderus y dylai fod ganddo ddigon o borthiant i fwydo’r fuches drwy’r gaeaf gan fod y silwair y mae wedi bod yn ei fwydo’r haf hwn yn gnwd o’r llynedd. I roi hwb i’r clamp yn ystod y gaeaf, mae hefyd wedi prynu cnwd 15 erw o haidd y gwanwyn ar ei draed fel cnwd cyfan.

Cymerwyd dau doriad silwair yr haf hwn, ac yn dilyn y glaw diweddar, mae Mr Rees yn gobeithio cael trydydd toriad.

Wrth ail hau, mae’n ffafrio defnyddio diploid sy’n blaguro’n hwyr mewn caeau pori a thetraploid sy’n blaguro yn hwyrach mewn caeau silwair.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o