12 Medi 2018

 

Gall ffermwyr llaeth a da byw ddysgu sut i wella eu harferion rheoli pridd mewn gweithdy deuddydd yn trafod pridd a defnyddio gwrtaith  a gynhelir gan Cyswllt Ffermio yng Nghaerfyrddin y mis nesaf. 

Gall rheoli eich priddoedd yn fwy effeithiol wella cynhyrchiant y fferm gan gynhyrchu mwy o borthiant, a gyda hynny mewn cof, mae Cyswllt Ffermio yn cynnal gweithdy yng Ngelli Aur, ger Llandeilo ym mis Hydref.

Mae Meistr ar Briddoedd yn dilyn dau gwrs Meistr ar Borfa llwyddiannus a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio yn gynharach eleni.

Mae Meistr ar Briddoedd, a luniwyd ar gyfer ffermwyr llaeth, bîff a defaid, yn anelu at gynyddu dealltwriaeth mynychwyr o ffrwythlondeb pridd, gwahanol fathau o bridd a’u strwythur, a byddant yn edrych ar ddulliau i leihau faint o wrtaith a ddefnyddir ganddynt.

Bydd arbenigwyr wrth law i roi arweiniad ynglŷn â chwblhau asesiad o rinweddau’r pridd yn y cae.

Bydd trafodaeth ynglŷn ag egwyddorion gwasgaru nitrogen, ffosffad a photash a chynllunio rheoli maetholion, ynghyd â rôl maetholion eilaidd.

Cynhelir y cwrs, a fydd yn cael ei arwain gan yr arbenigwyr tir glas a phridd annibynnol, Charlie Morgan a Chris Duller, ar 1 a 2 Hydref rhwng 9.30yb a 4.30yp. Mae llety dros nos ar gael.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 26 Medi,  ac mae’r ffurflen gais ar gael yma.


Related Newyddion a Digwyddiadau

E-fwletin Garddwriaeth gan Cyswllt Ffermio - rhifyn Gaeaf 2025
Nid yw manteision amlwg torri padogau ymlaen llaw yn berthnasol i bob system bori, yn ôl astudiaeth
17 Rhagfyr 2025 Mae astudiaeth ar fferm yng Nghymru yn dangos nad
SUT Y GALL CYSWLLT FFERMIO EICH CYNORTHWYO I GWBLHAU GWEITHRED GYFFREDINOL 12 (IECHYD A LLES ANIFEILIAID) O’R CYNLLUN FFERMIO CYNALIADWY