20 Medi 2018
Mae asesu stoc silwair ar sail deunydd sych (DM) a defnyddio’r un dechneg i lunio costau bwyd a brynir i mewn yn ddull dibynadwy a chost effeithiol o wneud iawn am brinder porthiant, yn ôl maethegydd anifeiliaid cnoi cil annibynnol.
Er bod glaw diwedd yr haf wedi rhoi hwb i gnydau silwair mewn rhannau o Gymru, bydd rhai’n dal i wynebu prinder porthiant sylweddol i fodloni eu gofynion dros y gaeaf.
Er mwyn helpu ffermwyr i wneud penderfyniadau cynnar ynglŷn â sut i gau’r bwlch, mae Cyswllt Ffermio wedi derbyn cyngor gan y maethegydd, Hefin Richards.
Yn ystod seminar yn Rhaglan, bu Mr Richards yn cynghori ffermwyr mai un o’r camau cyntaf pwysig er mwyn cyfrifo faint o fwyd sydd angen ei brynu yw asesu faint o borthiant sydd ganddyn nhw ar y fferm eisoes mewn tunelli o ddeunydd sych.
Mae hyn yn golygu mesur clampiau yn gywir neu bwyso byrnau a dadansoddi eu hansawdd.
Y ffactor mwyaf amrywiol mewn silwair clamp yw’r dwysedd, meddai Mr Richards, gyda DM, hyd y glaswellt wrth dorri a chywasgiad oll yn dylanwadu arno.
“Peidiwch â chymryd yn ganiataol fod dwysedd yr holl silwair clamp yn 800kg y metr ciwbig, neu gallwch weld eich bod yn rhedeg allan o borthiant,” rhybuddiodd.
Gellir amcangyfrif dwysedd gan ddefnyddio DM y silwair ac uchder y clamp.
Ond nid yw dwysedd a chyfaint yn unig yn rhoi asesiad cywir o’r bwyd sydd ar gael -mae pennu’r cynnwys DM yn hanfodol gan fod cymeriant bwyd anifail wedi’i gyfyngu i faint o DM y mae’n gallu ei fwyta, meddai Mr Richards.
“Ar lefel o 25% DM, byddai angen i fuwch odro fwyta 48kg o borthiant ffres i fodloni ei gofynion dyddiol o 12kg DM ond ar 40%, dim ond 30kg o borthiant ffres fyddai angen iddi ei fwyta. Byddai angen bwyta mwy os bydd y silwair yn wlyb er mwyn bodloni ei gofynion o ran DM.”
Dywedodd Mr Richards y byddai silwair a gafodd ei gynaeafu yn 2018 yn debygol o gynnwys mwy o ddeunydd sych na’r arfer oherwydd yr amodau sych eithriadol.
Bydd gofynion DM yn amrywio yn ôl pwysau anifail, statws llaetha a chyfnod twf.
Yn nodweddiadol, bydd cymeriant DM buwch odro oddeutu 3.5% o’i phwysau ond bydd heffer gyfnewid angen 2.5-3%.
Pan fyddwch chi wedi canfod faint o DM sydd ar gael ac wedi cyfateb hynny gyda nifer yr anifeiliaid sydd angen ei fwyta, gallwch gyfrifo’r diffyg.
Mewn blwyddyn fwy arferol, byddai dewisiadau ar gyfer cau bylchau DM yn cynnwys prynu silwair
a phorthiant arall, ond gyda’r gost mewn nifer o achosion bellach yn ddwbl yr hyn y byddai’r ffermwyr yn disgwyl ei dalu mewn blwyddyn gyfartalog, a’r cyfanswm sydd ar gael yn amrywio, dywedodd Mr Richards wrth ffermwyr i ystyried opsiynau amgen, ac i gyfrifo costau’r rhain ar sail DM.“Mae’n bosibl bod y gost pwysau ffres yn edrych yn atyniadol, ond mae’r canran DM yn amrywio yn ôl y cynnyrch. Er enghraifft, mae cynnwys DM uchel mewn grawn sych ac mae DM yn isel mewn betys porthiant, ac er bod tatws yn gallu gweithio’n dda er mwyn ymestyn porthiant, dŵr yw 80% ohonynt, felly dylid cyfrifo costau’r cynnyrch yn ôl faint o DM mae’n gallu ei ddarparu ym mhob achos,” meddai Mr Richards.
“Mae triog yn gynnyrch cymharol uchel o ran DM - 65-75% - ac mae’r byd yn llawn siwgr felly mae prisiau presennol yn fwy deniadol nag arfer. Mae hylifau llawn protein sy’n seiliedig ar driog yn ddefnyddiol ar gyfer cydbwyso lefelau uwch o wellt, ond nid ydynt yn addas ar gyfer gwartheg sych yn gyffredinol oherwydd cynnwys potasiwm.
Mae cyfle sylweddol i fwydo gwellt a gwair i wartheg sych ac anifeiliaid sy’n tyfu, awgrymodd, ac yn nogn y gwartheg godro hefyd.
“Mae cyflenwad da yn y system gan fod llawer o wellt a fyddai fel arfer wedi cael ei dorri bellach wedi cael ei roi mewn byrnau ac mae’r cynnyrch wedi bod yn dda.
“Fy nheimlad i’n bersonol yw y bydd y pris yn dechrau codi’n raddol oherwydd galw o Iwerddon a Sgandinafia.”
Mewn system laeth sy’n bwydo swm canolig o ddwysfwyd sydd ag ychydig o brinder porthiant, roedd Mr Richards yn awgrymu bwydo mwy o ddwysfwyd yn lle silwair gan fod modd talu amdano wrth ei ddefnyddio.
Opsiwn arall yw ail lunio cymysgeddau i gynnwys 2-3kg o gynnyrch ffibrog megis plisg soia, cnewyll palmwydd, pelenni maglys rhuddlas a gwellt sydd wedi’i wella o ran maeth (NIS), neu fwydo grawn unigol. “Mae bwydo 2-4kg o geirch yn rhatach na phrynu silwair indrawn.”
Mewn buchesi cynhyrchiol iawn ble mae dwysfwyd yn cael ei fwydo ar gyfradd uchel, roedd Mr Richards yn argymell bwydo mwy o ffibr treuliadwy i leihau mewnbynnau silwair.
“Mae bwydo 1.5kg o wellt a 1.5kg o ddogn cymysg yn darparu 2.6kg DM sy’n gyfwerth â 9kg o silwair 30% DM,” eglurodd.
“Os allwch chi wneud mân newidiadau yn gynnar yn y flwyddyn, mae’n well na chael eich gorfodi i wneud newidiadau sylweddol yn hwyrach os bydd eich silwair yn dod i ben.
“Mae hefyd yn rhoi hyblygrwydd i chi gynyddu’r dogn os byddwch chi’n gweld eich bod mewn gwell sefyllfa o ran porthiant na’r hyn a ragwelwyd.”
Ar gyfer stoc ifanc, roedd Mr Richards yn awgrymu diet yn seiliedig ar wellt neu wair ynghyd â 4kg o gymysgedd neu fwyd cyfansawdd 20% protein gyda mwynau. “Bydd stoc ifanc yn tyfu 0.8kg y dydd yn gyfforddus ac mae’n ffordd gyson a dibynadwy o arbed silwair.’
Ar gyfer gwartheg bîff sugno, mae’n cynghori diddyfnu gwartheg sy’n lloia yn y gwanwyn yn gynnar a bwydo gwellt ad lib gyda 2.5kg/dydd o ddwysfwyd os maen nhw wedi magu cyflwr da ar y borfa.
Mewn systemau bîff, cyfeiriwch y porthiant gorau tuag at anifeiliaid sy’n tyfu, meddai.
Mewn systemau pesgi bîff dwys, dyblwch faint o gymysgedd a roddir yn y diet er mwyn pesgi anifeiliaid 6-8 wythnos yn gynnar.
Yn ôl Imogen Ward, Swyddog Technegol Llaeth Cyswllt Ffermio a drefnodd y cyfarfod, mae’r neges yn glir - mae cyllidebu porthiant yn hanfodol. “Nid yw’n dasg anodd nac yn un fydd yn cymryd amser maith i’w wneud - edrychwch beth sydd gennych chi yn y clamp a chyfrifwch a oes gennych chi ddigon ar gyfer y gwahanol grwpiau da byw. Os ydych chi’n deall beth sydd gennych chi a’r hyn sydd arnoch ei angen, gallwch baratoi ar gyfer y prinder a chanfod y dull mwyaf cost effeithiol i ymdrin ag ef.”
Ewch i wefan Cyswllt Ffermio i gael mynediad at ein hadnoddau cyfrifo cyllidebau porthiant.
Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.