20 Medi 2018

 

Mae busnesau fferm yng Nghymru’n cael eu hannog i werthuso eu busnesau, a bod yn barod i wneud newidiadau er mwyn llwyddo yn dilyn Brexit.

Mae Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Cyswllt Ffermio, yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau agored ledled Cymru i ddarparu gwybodaeth bellach i ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir ynglŷn â’r cynigion a amlinellir yn yr ymgynghoriad ‘Brexit a’n Tir’.

Yn ystod y digwyddiad cyntaf yn y gyfres, cafodd ffermwyr a choedwigwyr yn y gynulleidfa eu cynghori i ddechrau cynllunio cyfeiriad eu busnesau at y dyfodol nawr.

Dywedodd Gary Haggaty, Pennaeth Is-adran Amaeth – Cynaliadwyedd a Datblygu Llywodraeth Cymru nad oedd disgwyl nes mis Mawrth pan fo’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn syniad doeth.

“Mae ansicrwydd ynglŷn â chytundebau masnach a threfniadau cyllid ar gyfer y dyfodol wrth gwrs, ond peidiwch da chi â disgwyl nes i bethau ddatblygu, os byddwch chi’n cymryd yr agwedd honno, mae’n bosibl y byddech yn ei gadael hi’n rhy hwyr,” meddai wrth bron i 100 o ffermwyr mewn sesiwn holi ac ateb yn ystod y cyfarfod yn Llanfyllin.

“Meddyliwch am gyfeiriad eich busnes at y dyfodol a meddyliwch beth sydd angen i chi ei wneud i’w wneud yn wydn.”

Pwysleisiodd Mr Haggaty ei bod yn bwysig i ffermwyr gymryd rhan yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygiad amaethyddol er mwyn darparu gwybodaeth i helpu i lywio’r trywydd at y dyfodol. Croesawodd y cyfle i siarad â ffermwyr wyneb i wyneb ynglŷn â’r ymgynghoriad a’r hyn a oedd yn cael ei gynnig.

Mae’r ymgynghoriad yn cynnig system ddwy haen o gefnogaeth i gymryd lle’r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS), Glastir a chynlluniau eraill y Rhaglen Datblygu Gwledig.

Dywedodd Hugh Morgan, Pennaeth Taliadau Gwledig Cymru, fod angen diwygio’r system, gan fod ffermwyr yn derbyn taliadau’n seiliedig ar erwau dan y system gefnogaeth bresennol, ac felly nid oes unrhyw gymhelliant i newid systemau amhroffidiol neu i ffermwyr ystyried gwytnwch eu busnesau, marchnadoedd y dyfodol ac arallgyfeirio.

Byddai’r cynllun a gynigir i gymryd lle’r BPS, sef y Cynllun Cadernid Economaidd, yn darparu buddsoddiad wedi’i dargedu at gynhyrchiant bwyd, a byddai’r Cynllun Nwyddau Cyhoeddus yn cynnig taliadau am allbynnau amgylcheddol.

“Dylai nifer o ffermwyr allu buddio o’r ddau pe byddent yn dymuno,” meddai Mr Morgan.

Dywedodd wrth ffermwyr y byddai dogfen ymgynghori fwy manwl gyda thystiolaeth gefnogol yn seiliedig ar waith modelu yn cael ei lansio yn ystod gwanwyn 2019.

Dywed Euryn Jones, Cyfarwyddwr Amaeth Rhanbarthol HSBC, a siaradwr yn ystod y digwyddiadau, nad oes ganddo unrhyw amheuaeth y byddai’n rhaid i rai ffermydd addasu i sicrhau cadernid a ffyniant ar ôl Brexit. Mae data incwm fferm yn dangos amrediad eang o berfformiad o fewn y sector ac yn dangos y potensial ar gyfer arbedion effeithlonrwydd.

Dywedodd Mr Jones y dylai ffermwyr ystyried y ffordd orau i ddefnydd eu hadnoddau fferm ar gyfer y dyfodol. “Er mwyn llwyddo, mae’n rhaid i unrhyw fusnes fod yn barod i newid”.

 

Cynhelir y gyfres o gyfarfodydd fel a ganlyn:

 

Rydym ni’n annog mynychwyr i ddarllen y ddogfen ymgynghori cyn mynychu’r cyfarfod.

 

25 Medi, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan

 

26 Medi, Ysgol Gyfun Brenin Harri VIII, Y Fenni

 

27 Medi, Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd

 

4 Hydref, Maes Sioe Llwyn Helyg, Hwlffordd

 

8 Hydref, Stadiwm Liberty, Abertawe

 

9 Hydref, Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun

 

10 Hydref, Ysgol David Hughes, Porthaethwy

 

11 Hydref, Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd (yn benodol ar gyfer coetir)

 

Cynhelir pob cyfarfod rhwng 7.30yh - 9.30yh


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cynllun gwrthsefyll newid hinsawdd ar gyfer Busnesau Garddwriaeth yng Nghymru
Ydych chi erioed wedi meddwl sut i wella perfformiad eich diadell? Sut gallai’r 2 cilogram o bwysau ychwanegol hwnnw fesul oen effeithio ar eich perfformiad ariannol? Meddyliwch am eneteg.
17 Hydref 2024 Mae Cyswllt Ffermio yn edrych ymlaen at ail-agor y
Ymweld ag Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio: Arddangosiad o Ragoriaeth Amaethyddol
14 Hydref 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi cwblhau cyfres