8 Hydref 2018
Gall deunydd i’w roi dan anifeiliaid fod yn gost sylweddol ar systemau llaeth ond rhaid peidio â seilio’r dewis ar bris yn unig.
Mae deunyddiau gwahanol yn amrywio o bapur a llwch lli i dywod a sglodion coed yn cael eu defnyddio yn llwyddiannus ar ffermydd llaeth Cymru.
Ar Fferm Pelcomb, ger Hwlffordd, mae’r brodyr Peter a Mike Smith yn defnyddio solidau tail wedi eu hailgylchu (RMS) dan eu buches o 450 o fuchod Holstein.
Yn ystod diwrnod agored ar y cyd rhwng Cyswllt Ffermio ac AHDB Llaeth ar y fferm, dywedodd y milfeddyg llaeth arbenigol yr Athro Andrew Bradley y gall y rhan fwyaf o ddeunyddiau dan anifeiliaid weithio mewn systemau llaeth ond rhaid i’r patrymau rheoli gael eu haddasu yn ôl y deunydd os ydych am osgoi sialensiau o ran pa mor gyfforddus yw’r gwartheg ac ansawdd y llaeth.
Yn ddelfrydol bydd buchod yn gorwedd am 12-14 awr y dydd ac felly mae’n bwysig cynnig arwyneb iddynt sy’n eu hannog i orwedd am y cyfnodau yma. Mae’r deunydd dan y fuwch hefyd yn cael effaith sylweddol ar iechyd y pwrs/gadair, ansawdd y llaeth ac iechyd yr anifail.
Deunydd nad yw’n cynnal twf bacteria sy’n ddelfrydol, a dylai hefyd fod yn gyfforddus i’r buchod, yn ddiogel i fuchod a phobl ac yn gyfreithlon i’w ddefnyddio, dywedodd yr Athro Bradley o Quality Milk Management Services (QMMS).
“Gall fod yn demtasiwn defnyddio sgil-gynnyrch rhad ond os nad ydynt yn cydymffurfio â’r rheoliadau amgylcheddol neu os byddant yn effeithio ar iechyd yr anifail byddant yn gostus yn y tymor hwy,” dywedodd.
“Fe allwch, er enghraifft, gael cynnig sglodion coed am bris rhad iawn, ond os yw’n cael ei gynhyrchu o balets wedi eu malu neu geginau ac yn cynnwys metel gall achosi cloffni.
“Mae deunyddiau gwastraff fel byrddau plaster hefyd yn rhad ond byddant yn torri rheoliadau amgylcheddol os byddwch yn eu gwasgaru ar dir amaethyddol a bydd yn costio llawer o arian i chi os byddwch yn gorfod ei waredu fel gwastraff.”
Er bod cyfrif bacteria uwch gan rai deunyddiau na’i gilydd, gellir atal y bacteria rhag trosglwyddo i’r llaeth trwy drin y tethi yn briodol cyn godro, dywedodd.
“Rhaid addasu patrwm y parlwr yn ôl y deunydd sy’n cael ei ddefnyddio,” dywedodd yr Athro Bradley, sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Nottingham.
Pan fydd buchod yn barod i’w godro, mae’n argymell, stripio, dipio a sychu tethi mewn grwpiau o 6-8 o fuchod cyn rhoi’r clystyrau.
Mae rhai deunyddiau, RMS a chynnyrch coed yn neilltuol, yn dod â risg o fastitis Klebsiella, heintiad parhaus a thymor hir, ond gall gael ei reoli trwy ddipio cyn godro a glendid da yn y parlwr, dywedodd yr Athro Bradley.
Ni ellir defnyddio RMS os oes gan fferm TB gwartheg neu salmonela.
Ar Fferm Pelcomb, dechreuwyd defnyddio RMS yn lle llwch lli dan yr anifeiliaid pan osododd y busnes wahanydd slyri gwasgedd sgriw.
Mae RMS wedi lleihau costau ac mae’r buchod yn fwy cyfforddus ac ni fu unrhyw effaith ar ansawdd y llaeth, dywedodd Peter Smith, sy’n ffermio 650 erw gyda’i frawd, Mike, a’u rhieni.
Defnyddir y deunydd mewn haen dew ac ychwanegir ato gyda pheiriant bob dydd. Er mwyn atal i’r deunydd rhag chwalu i’r llwybrau, gosodwyd teiars yn y corau.
“Mae’n syniad a welsom ar fferm arall ac mae’n gwneud gwahaniaeth mawr i faint o ddeunydd sy’n disgyn oddi ar y corau. Mae’r deunydd yn ddwfn ac felly mae’n eistedd ar ben y teiars,” dywedodd Peter.
Ers cyflwyno’r RMS fe wnaiff y buchod orwedd yn hapus mewn unrhyw gôr.
Mae’r fuches gaeedig ar hyn o bryd yn cynhyrchu cyfartaledd llaeth blynyddol o tua 9,000 litr ar 4.1% braster llaeth a 3.4% protein gyda’r llaeth yn cael ei werthu i First Milk. Ar hyn o bryd mae’r cyfrif celloedd somatig ar gyfartaledd o 180,000 cell/ml.
Er bod y deunydd yn cael dylanwad ar ba mor gyfforddus yw’r buchod felly mae dyluniad y ciwbicyl hefyd.
Dywedodd David Ball, Uwch Reolwr yr Amgylchedd ac Adeiladau yn AHDB, y dylai’r arwyneb fod yn feddal, wedi ei glustogi yn dda ac yn sych.
Mae’n annog ffermwyr i wneud y prawf ‘penlinio a migwrn’. “Sefwch yng nghefn y ciwbicyl lle bydd y fuwch yn sefyll. Ewch ar eich gliniau a rhwbio eich dwylo ar draws y deunydd i weld pa mor feddal ydy o. Os yw’r croen ar eich dwylo yn gyfan a’r pengliniau ar eich trowsus yn lân a sych, mae hynny’n arwyddo o arwyneb da i orwedd.”
Bydd maint yr ardal orwedd yn dibynnu ar faint y buchod, gan amrywio rhwng 1150-1200mm o led, 1750-1850mm o hyd, 750-900mm o le i symud ymlaen wrth orwedd ac uchder rheilen y gwar o 1200-1600mm.
“Mae’n anodd bod yn fanwl gywir am fesuriadau gan y bydd y rhain yn dibynnu ar faint y fuwch ond bydd gwylio sut y bydd y buchod yn defnyddio’r ciwbiclau ac yn gorwedd ynddynt yn rhoi cliwiau pwysig pa mor dderbyniol ydynt,” dywedodd Mr Ball.
“Dylai’r lle symud ymlaen wrth orwedd, er enghraifft, fod tua 40% o hyd y gwely. Os nad oes ganddynt ddigon o le ni fyddant yn gorwedd yn gyfforddus, yn gywir nac am cyn hired ag y dylent,” dywedodd.
Ar unrhyw adeg, dylai 70% o’r buchod fod yn gorwedd. “Pan fyddwch yn cerdded i mewn i sied dylai saith o’r 10 buwch cyntaf a welwch chi fod yn gorwedd,” dywedodd Mr Ball.
Yng Nghymru, mae Cyswllt Ffermio yn cynnig clinigau un i un wedi eu hariannu yn llawn am amrywiaeth o bynciau gan gynnwys arwyddion gan fuchod i fusnesau fferm sydd wedi cofrestru gyda’r gwasanaeth.
Dywedodd Abigail James, Swyddog Technegol Cyswllt Ffermio yn Ne Orllewin Cymru, bod cael cydbwysedd rhwng pa mor gyfforddus yw’r buchod, eu lles, glendid a chostau yn gallu bod yn anodd, yn arbennig wrth i’r deunyddiau fynd yn ddrytach.
“Mae’n anochel y bydd tethi yn cyffwrdd y deunydd dan yr anifail a gall y deunydd hwnnw gael effaith anferth ar y nifer o facteria sy’n bresennol,” dywedodd.