13 Mai 2019

 

 

kyle holford and lauren forest coalpit farm brecon beacons 0

Os ydych yn ffermwr moch, yn wenynwr, neu’n dyddynwr sy’n rhedeg menter arddwriaethol neu unrhyw fenter arbenigol arall ar dyddyn, dylech ymweld â Cyswllt Ffermio yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad Sioe Frenhinol Cymru (Llanelwedd, May 18 ac 19).

Os ydych wedi hen sefydlu neu’n dechrau arni, gall Cyswllt Ffermio gynnig y lefel briodol o gymorth, cyfarwyddyd a hyfforddiant i’ch helpu i ddatblygu eich menter, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â nhw yn yr ŵyl eleni.

Bydd Cyswllt Ffermio’n cynnal cyfres o sesiynau galw heibio am hanner awr yng Nghornel y Siaradwr yn Neuadd De Morgannwg drwy gydol yr ŵyl ddeuddydd ar bynciau’n amrywio o iechyd y pridd i barasitiaid mewn defaid ac o ffermio cyfran i gyngor i dyddynwyr ‘newydd’ sydd eisiau cyngor ynglŷn ag ennill bywoliaeth ar ddeg erw!

Bydd ffermwyr moch yn anelu’n syth am yr Adran Foch. Mae Cyswllt Ffermio, ar y cyd â Hybu Cig Cymru a Menter Moch Cymru (cynllun sy’n cael ei ariannu gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020) wedi gwahodd pedwar o arbenigwyr uchel eu parch i roi cyfres o gyflwyniadau bob dydd ac arddangosiadau ymarferol.

Targedir sbectrwm eang o ffermwyr moch o’r rhai sy’n newydd yn y sector i rai mwy profiadol, dyma eich cyfle i ddarganfod beth i chwilio amdano wrth brynu perchyll; sut i gadw eich moch yn iach; rheolaeth tir a marchnata. Bob dydd bydd cynhyrchwyr moch sydd wedi ennill gwobrau’n rhannu eu profiadau personol wrth ddechrau arni a sut maent wedi datblygu.

Bydd Kyle Holford, enillydd gwobr Great Taste Fferm Forest Coalpit ym Mannau Brycheiniog, sy’n gwerthu ei borc arbenigol o Foch Du Mawr a Dwroc wedi’u croesi, i brif gogyddion a chigyddion Llundain, yn rhannu ei gynghorion ynglŷn â magu moch yn llwyddiannus.

Mae’r ffenestr ymgeisio ar gyfer hyfforddiant Sgiliau a Hyfforddiant Cyswllt Ffermio ar agor tan 5pm ar 28 Mehefin, felly os oes gennych ddiddordeb mewn cael hyfforddiant i helpu i wella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth, galwch heibio i Adeilad Lantra (Rhodfa K) i weld beth allwch chi ei ddysgu i wneud eich busnes yn fwy cynaliadwy a chynhyrchiol.

Mae cymhorthdal o hyd at 80% ar gael ar gyfer hyfforddiant gwella busnes a hyfforddiant technegol, ac mae cymhorthdal o hyd at 40% ar gael ar gyfer hyfforddiant yn ymwneud â pheiriannau ac offer. Hefyd, mae hyfforddiant newydd ar iechyd a lles anifeiliaid, sgiliau TG a’r holl fodiwlau e-ddysgu wedi’u hariannu’n llawn.

Bydd Lantra hefyd yn hybu negeseuon pwysig ar ran Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru. Bydd ymwelwyr yn cael eu hannog i gymryd taflenni gwybodaeth am ddim yn cynnwys ‘Gweithio gyda’n gilydd i wneud ffermio’n fwy diogel – cynghorion ynglŷn â diogelwch fferm’ a ‘Sut olwg sydd ar fferm dda’ gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, a chânt eu hannog hefyd i wneud cais am hyfforddiant yn ymwneud â diogelwch fferm.

Gyda thîm o staff Cyswllt Ffermio wrth law ym mhob un o’r tri lleoliad i hybu holl elfennau rhaglen Cyswllt Ffermio, mae’n gyfle rhy dda i’w fethu – galwch heibio i gael gair, cewch wybod sut i fanteisio ar yr holl gymorth a gwasanaethau sydd ar gael – ac os nad ydych wedi cofrestru’n barod, neu wedi cwblhau eich Cynllun Datblygu Personol – a allai ddatgloi’r allwedd i lwyddiant yn y dyfodol – byddan nhw’n sicrhau hynny hefyd!

Yn ogystal â staff Cyswllt Ffermio, bydd aelodau o Dîm Cysylltwyr Fferm hefyd ar gael i gynnig cyngor am ddim ar bolisïau a grantiau Llywodraeth Cymru.

Caiff Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Fenter a Busnes a Lantra Cymru, ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

 

Amserlen yr Adran Foch:

 

amserlen adran moch 2019

Related Newyddion a Digwyddiadau

Cynllun gwrthsefyll newid hinsawdd ar gyfer Busnesau Garddwriaeth yng Nghymru
Ydych chi erioed wedi meddwl sut i wella perfformiad eich diadell? Sut gallai’r 2 cilogram o bwysau ychwanegol hwnnw fesul oen effeithio ar eich perfformiad ariannol? Meddyliwch am eneteg.
17 Hydref 2024 Mae Cyswllt Ffermio yn edrych ymlaen at ail-agor y
Ymweld ag Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio: Arddangosiad o Ragoriaeth Amaethyddol
14 Hydref 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi cwblhau cyfres