14 Mai 2019
Mae hi’n ddwy flynedd ers i’r newydd-ddyfodiad ifanc, Llŷr Evans, gael cyfle unigryw gan ei dad-cu a’i fam-gu John a Dailwen Vaughan sy’n ffermio Glasdir, fferm eidion a defaid ger Boncath yn Sir Benfro. Gyda chefnogaeth gan raglen Mentro Cyswllt Ffermio, sy’n cynorthwyo pobl a hoffai wneud llai o waith ffermio drwy roi’r cyfle busnes cyntaf hollbwysig hwnnw i bobl eraill, aeth John a Dailwen i gytundeb partneriaeth gyda Llŷr gan roi cyfran o 51% iddo yn y stoc da byw. Mae hyn yn golygu bod Llŷr, sy’n ddim ond 21 oed, yn cynhyrchu ei fuddsoddiad cyfalaf ei hun yn barod, gan ddysgu sut i reoli busnes fferm llwyddiannus ar yr un pryd ochr yn ochr â’i dad-cu hynod brofiadol.
I John a Dailwen sydd o oedran ymddeol, roedd mynd i gyfarfod Olyniaeth Ffermio lleol yn eu hardal, ac yna gael eu cynghori i fynd i gyfarfod Mentro, wedi rhoi’r arweiniad a’r gefnogaeth angenrheidiol iddynt i ffurfioli cytundeb partneriaeth gyda’u ŵyr ifanc. Roedd y rhaglen Mentro wedi rhoi fframwaith cyfreithiol a chyngor busnes wedi’i ariannu’n llawn i’r cwpwl drwy’r ymgynghorydd busnes fferm Wendy Jenkins o Cara Wales a’r gyfreithwraig cefn gwlad Manon Williams o Agri Advisor. Am y rheswm hwnnw, roedd y ddau’n teimlo’n ddigon hyderus i ddod â Llŷr i mewn yn swyddogol i ochr stocio’r busnes. Mae’r teulu cyfan yn cefnogi’r drefn bartneriaeth newydd hon ac mae hyn wedi cynnig ateb angenrheidiol iawn i ddiogelu dyfodol y fferm, lle mae John a Dailwen yn byw o hyd.
O oedran ifanc mae Llŷr wedi treulio pob munud sbâr yng Nglasdir, sydd ychydig filltiroedd o dŷ ei rieni yn Hermon gerllaw. Wedi iddo adael yr ysgol, cofrestrodd yng Ngholeg Gelli Aur lle enillodd ei Ddiploma Estynedig Lefel 3. Hefyd, prynodd ei ddiadell ei hun o 100 o ddefaid a’u cadw ar dir y bu’n ei rentu’n lleol, a phrynodd nifer fechan o wartheg sugno hefyd. Mae’r stoc yma i gyd yn rhan o fusnes Glasdir erbyn hyn.
Dim ond dwy flynedd yn ddiweddarach, mae Llŷr a’i dad-cu yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu Glasdir sy’n ymestyn dros 118 erw o dir sydd yn eiddo iddynt a 42 o erwau pellach sydd ar rent tymor byr. Mae eu system ffermio bresennol wedi’i seilio ar 120 o wartheg eidion sy’n cael eu gorffen o dan 30 mis a 100 o famogiaid iseldir sy’n wyna o ganol mis Chwefror. Mae’n system broffidiol yn barod, ond gydag egni a ffocws Llŷr, mae ef a’i dad-cu yn benderfynol yn awr o ddatblygu’r busnes ymhellach. Os bydd popeth yn digwydd yn ôl y cynllun, bydd Llŷr yn unig berchennog ar yr holl dda byw yn y pen draw ac yn berchennog rhannol ar y peiriannau.
Yn ôl John, mae cael fframwaith cyfreithiol gan Agri Advisor a chefnogaeth barhaus gan Wendy Jenkins wedi sicrhau bod holl aelodau’r teulu o’r tair cenhedlaeth berthnasol wrth eu boddau bod dyfodol y busnes teulu hwn wedi’i ddiogelu, a bydd manteision tymor hir iddynt i gyd.
Meddai Nerys Llewelyn Jones o Agri Advisor,
“Buom yn gweithio’n agos gyda Wendy Jenkins a’r teulu i baratoi cytundeb partneriaeth sy’n rhoi sylfaen i’r busnes hwn ffynnu arni.
“Mae pawb sy’n gysylltiedig â’r busnes yn deall yn glir beth yw eu rolau a’u cyfrifoldebau ac mae hyn yn hanfodol i lwyddiant unrhyw fenter gydweithredol.”
Am fod holl gyfranogwyr Mentro yn derbyn cyngor busnes wedi’i ariannu’n llawn drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, gallai Wendy Jenkins hefyd helpu Llŷr gyda’i gais am grant, a oedd ar gael bryd hynny drwy gynllun ‘Ymsefydlu mewn Amaeth i Bobl Ifanc’ Llywodraeth Cymru.
“Cyhoeddwyd y cynllun hwn tua’r adeg yr oeddwn yn gweithio gyda’r teulu i gynhyrchu cynllun busnes strategol, felly roedd yn amser perffaith i edrych i’r dyfodol a chanfod ffyrdd mwy effeithlon o weithio, gwella’r rheolaeth ar y pori a buddsoddi yn y cynlluniau rheoli maetholion cyn cynyddu nifer y stoc,” meddai Ms Jenkins.
I John a Dailwen, mae’r trefniadau hyn wedi dod â thawelwch meddwl iddynt, ynghyd â’r cyfle i ostwng cyfranogaeth John yn agweddau trymach y gwaith o ddydd i ddydd.
“Nid yn unig y mae Llŷr yn ŵyr i ni, mae’n ffermwr ifanc uchelgeisiol iawn. Mae’n canolbwyntio ar sicrhau bod y busnes yn perfformio ar ei orau ac, am ei fod yn gallu meincnodi gyda busnesau tebyg eraill, mae’n gwybod at beth mae’n anelu ac mae’n benderfynol o ddatblygu’r busnes ymhellach,” meddai John.
Dywedodd John mai ei obaith yw, os bydd y genhedlaeth ganol i gyd yn cytuno y dylid gwerthu’r fferm rywbryd yn y dyfodol, y bydd Llŷr wedi adeiladu ei fuddsoddiad cyfalaf ei hun o stoc a pheiriannau erbyn hynny ac y bydd mewn sefyllfa dda i ystyried prynu Glasdir neu fferm wahanol.
I Llŷr, mae’r dyfodol yn edrych yn llewyrchus a, diolch i’w deulu cefnogol a phell-weledol, mae wedi sicrhau’r troedle cyntaf hollbwysig hwnnw yn y broses o adeiladu ei fusnes ei hun.
“Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle y mae’r teulu cyfan yn ei ystyried yn hynod fuddiol a phositif, oherwydd mae’n ffordd o gadw’r busnes yn mynd ac o ddiogelu ei ddyfodol yn y tymor hir ac mae hefyd yn rhoi cyfle gwych i mi ar yr un pryd i gychwyn adeiladu fy musnes fy hun ar sail hunangyflogedig.”