21 Mai 2019

 

 

master grass glynllifon 2019 0

Rhaid i strategaethau pori sy’n manteisio ar hinsawdd Cymru i dyfu glaswellt fod yn flaenoriaeth i ffermwyr da byw yng nghanol y galw am ddefaid a bîff wedi eu magu ar laswellt.

Er nad yw’r farchnad yn gwobrwyo ffermwyr fel arfer am ansawdd y cig yn gysylltiedig â phori glaswellt o safon uchel, fel lefelau uchel o elfennau hybrin pwysig, mae’r arbenigwr pori James Daniel yn rhagweld y gall hynny newid.

Dywedodd wrth ffermwyr ar gwrs deuddydd dwys ‘Rhagori ar Bori’ Cyswllt Ffermio y bydd rheoli glaswellt yn dod yn bwysicach o hyd, nid yn unig i leihau costau cynhyrchu ond hefyd i fanteisio ar newidiadau i arferion bwyta defnyddwyr a galw am gynhyrchion sy’n cynnig manteision ychwanegol o ran iechyd.

Ar gyfer bîff a chig oen, gall hyn ddod o bori porfa o safon uchel, dywedodd Mr Daniel, o Precision Grazing Ltd. “Mae’r farchnad am gig yn newid a bydd glaswellt yn chwarae rhan bwysig yn hyn wrth symud ymlaen,” awgrymodd.

Mae pori cylchdro – system o symud grŵp o anifeiliaid trwy gaeau neu badogau penodol mewn ffordd wedi ei chynllunio – yn allweddol wrth dyfu glaswellt o safon, dywedodd Mr Daniel.

Mae ffensys parhaol a dros dro yn caniatáu cyfnodau pori byrrach, yn hyrwyddo tyfiant glaswellt ac yn gadael hyblygrwydd wrth reoli prinder glaswellt ac unrhyw ormodedd.

Dywedodd Mr Daniel mai nod cyntaf rheoli pori yw sicrhau bod gan anifeiliaid ddigon o borfa yn gyson, a hynny o’r safon gywir, i gyflawni eu potensial genynnol o ran llaetha neu dyfu.

Trwy bori cylchdro gellir cyfateb yr hyn y mae’r anifail yn ei fwyta a’i anghenion. “Nid yw gadael i famog grwydro trwy’r fferm gyfan yn system gynhyrchiol gan y bydd yn bwyta llawer mwy nag sydd arni ei angen,” nododd Mr Daniel.

“Fel rheolwyr glaswellt, defnyddiwch yr hyn y mae defaid neu wartheg yn ei adael ar ôl fel canllaw i beth sydd arnynt ei angen.’’

I gynhyrchwyr cig oen, mae’n argymell llunio calendr pori o gwmpas y cyfnod troi at yr hwrdd. “Pan fydd mamog yn mynd at yr hwrdd, rydych yn gosod amseriad ei hanghenion am y flwyddyn yn bendant,” dywedodd.

“Os byddwch yn troi at yr hwrdd ar adeg anaddas i’ch fferm byddwch yn tynnu llawer o gostau neu yn gosod llwybr i fethu.”

Dylai mamogiaid fynd at yr hwrdd fel eu bod yn ŵyna pan fydd y fferm yn cynhyrchu ei glaswellt gorau yn y tair wythnos yn dilyn hynny. “Dim ond un cyfle gewch chi, os na fydd y famog yn cael porthiant o’r ansawdd iawn yn y 21 diwrnod ar ôl ŵyna, bydd yr ŵyn yn ysgafnach wrth eu diddyfnu.”

Mae’r galw am borthiant yn cael ei bennu gan y cyfnod cynhyrchu. Mamog sy’n magu dau oen fydd â’r gofynion mwyaf - 4% o’i phwysau; i famog 70kg mae hynny’n gofyn am 2.8kg o gynnwys sych (DM).

Os bydd 50 o famogiaid ar badog 4 hectar (ha) bydd angen iddo dyfu ar 35kgDM/ha/dydd i borthi’r mamogiaid hynny, cyfrifodd Mr Daniel.  Ni welir y math hwn o dyfiant fel arfer tan ddiwedd Ebrill. 

Mewn systemau pori cylchdro, mae’n bwysig cael y seilwaith yn iawn – rhaid i bob padog fod â chyflenwad dŵr a phŵer dibynadwy ar gyfer y ffensys trydan i rannu’r caeau.

Trwy reoli’r glaswelltir yn dda, gall ffermwyr leihau’r nitrogen (N) fydd ei angen hefyd. N sy’n achosi mwyaf o allyriadau carbon ar fferm dda byw a all fod ag oblygiadau i’r diwydiant wrth symud ymlaen, dywedodd Mr Daniel.

Yn Seland Newydd, mae ffermwyr da byw yn cael eu trethu ar faint o N y maent yn ei ddefnyddio, system y gall gwledydd eraill ei mabwysiadu, rhybuddiodd.

Bydd tyfu gwndwn gyda 20-30% o feillion gyda’r gallu i sefydlogi 150 kg N/ha yn flynyddol.

Ymhlith y siaradwyr eraill yn y digwyddiad Rhagori ar Bori yng Ngholeg Glynllifon roedd Charlie Morgan o GrassMaster Ltd a Rhys Williams o Precision Grazing Ltd.

Mae gan y ffermwyr a ddaeth i’r cwrs Rhagori ar Bori gynlluniau yn eu lle i weithredu ar y cyngor defnyddiol a gawsant ar y cwrs yn barod.

Dywedodd Mark Evans, sy’n ffermio gwartheg bîff magu, defaid a moch ar Fferm Talyfan Fach, Llandeilo, ei fod wedi gwella ei ddealltwriaeth o bridd a chynhyrchu glaswellt yn sylweddol.

“Mae’r ddau yn mynd law yn llaw,’’ dywedodd. “Ches i erioed addysg ffurfiol mewn amaethyddiaeth ac felly mae cyrsiau Cyswllt Ffermio yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth a chyngor.

“Fe fues i ar y cwrs Priddoedd hefyd, wnes i ddim treulio’r holl wybodaeth bryd hynny felly rwyf wedi gallu adeiladu arno ar Rhagori ar Bori.”

Trefnwyd y cwrs gan Gwion Parry, swyddog technegol cig coch Cyswllt Ffermio yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd ei fod wedi rhoi’r offer a’r hyder i’r rhai a gymerodd ran i ymddiried yn y system bori cylchdro ac i ddynodi potensial eu ffermydd eu hunain, gan gynnwys tyfiant glaswellt a chyfraddau stocio.

“Amlygodd y cwrs bwysigrwydd gwneud pethau bach yn dda. Mesur ac archwilio cynhyrchiant eich pridd a'ch porfa yn ogystal â gofynion porthiant eich da byw, er mwyn helpu i reoli eich busnes.’’

Rhoddwyd arian ar gyfer y prosiect gan Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu