25 Mehefin 2019

 

 

peredur owen and carine kidd 1 0

Mae ffermio cyfran wedi cynnig cyfleoedd i newydd ddyfodiad ac i berchennog fferm yn Sir Gaerfyrddin.

Mae teulu Carine Kidd wedi ffermio Glanmynys ger Llanymddyfri ers cenedlaethau. Roedd hi’n awyddus i ddiogelu dyfodol y fferm, rhannu’r cyfrifoldeb am redeg y fferm o ddydd i ddydd, a chaniatáu i’r fferm barhau i ddatblygu.

Roedd cytundeb ffermio cyfran cynnig yr ateb iddi, a hysbysebwyd y cyfle drwy’r cyfreithiwr Nerys Llewelyn Jones, o Agri Advisor, a thrwy raglen Mentro Cyswllt Ffermio, sef cynllun a luniwyd i baru newydd ddyfodiaid gyda pherchnogion tir.

Canlyniad hyn yw’r cytundeb sydd gan Carine erbyn hyn gyda Peredur Owen, mab i ffermwr o ogledd Cymru.

Roedd Peredur wedi bod yn gweithio i Dunbia ond roedd eisiau sicrhau troedle iddo’i hun yn y byd ffermio; roedd y potensial i ffermio yng Nglanmynys a maint y fferm sy’n ymestyn i oddeutu 500 o erwau, yn gyfle cyffrous.

I gychwyn, bu Agri Advisor a Mentro Cyswllt Ffermio’n helpu’r ddau gyda’r llythyr o ddiddordeb, cynllunio busnes a’r camau cyfweld.

Mae Carine yn dweud ei bod hi’n gwerthfawrogi’r ffaith y gallai’r broses gael ei chwblhau o fewn amserlen dynn iawn. “Cawsom gyfle i ddod i nabod ein gilydd ac roedd yn beth da bod hyn wedi’i gwblhau o fewn amser tynn iawn,” mae hi’n cofio.

Ar ôl derbyn argymhellion amdani a’i chlywed yn siarad yng nghyfarfodydd Cyswllt Ffermio, dewisodd Carine weithio gyda Ms Llewelyn Jones fel ei chynghorwr cyfreithiol.

Roedd Carine wedi cwrdd â Wendy Jenkins, Ymgynghorydd Busnes Ffermio yn CARA Cymru, rai blynyddoedd ynghynt. Roedd hi’n creu cynllun busnes i’r fferm gyda Cyswllt Ffermio er mwyn bod yn gymwys i dderbyn Gwasanaeth Cynghori Ffermydd Cyswllt Ffermio, a rhoddodd Wendy Jenkins gyngor technegol iddi.

Darparodd Mentro arian ar gyfer cynllunio busnes ac arweiniad cyfreithiol. “Cawsom gymorth gan Nerys a Wendy i roi cynllun gweithredu at ei gilydd oedd o fudd i bawb,” meddai Carine.

“Roedd y cytundeb wedi’i deilwra’n benodol i’n sefyllfa ni. Mae ffermio cyfran yn derm sy’n cynnwys nifer o wahanol drefniadau busnes.”

Mae Peredur yn dweud bod y gefnogaeth a ddarparwyd gan Mentro’n bwysig i’r broses. “Nid oedd unrhyw un ohonom wedi mynd i mewn i gytundeb fel hyn o’r blaen. Roedd Mentro wedi’i gwneud hi’n bosibl i ni gael y cymorth arbenigol gorau sydd ar gael i gynhyrchu contract realistig ac effeithiol.”

Dechreuodd y pâr ffermio gyda’i gilydd ym mis Tachwedd 2018 ac, erbyn hyn, maent yn rheoli 700 o famogiaid bridio Cymreig ac Aberfield x Cymreig, a 150 o ŵyn, 25 o wartheg sugno Simmental croes a 40 o stoc ifanc Angus croes. Y nod yw tyfu glaswellt yn effeithlon a throi porthiant o ansawdd da yn bwysau byw. “Gwyddom fod y blynyddoedd nesaf yn mynd i fod yn heriol,” meddai Peredur, sy’n gobeithio ail-fuddsoddi unrhyw elw y mae’n ei wneud i brynu ei stoc ei hun.

“Rydym yn parhau gwaith da’r gorffennol ac yn edrych i’r dyfodol i ehangu’r ddiadell a’r fuches ac i’n gwneud ein hunain yn gynaliadwy mewn byd heb gymorthdaliadau.”

Roedd ganddo ef a Carine gysylltiad agos yn barod gyda Cyswllt Ffermio, am eu bod yn cymryd rhan yn ei raglen Sgiliau a Hyfforddiant.

Llwyddodd Glanmynys i sicrhau Grant Busnes Fferm hefyd i brynu offer trin defaid, buddsoddiad oedd yn atyniad ychwanegol i Peredur pan wnaeth gais am y cyfle cyd-ffermio.

Roedd wedi cymryd rhan yng nghwrs Meistr ar Borfa Cyswllt Ffermio ac, yn awr, y rhaglen Rhagori ar Bori, sef dwy fenter sy’n rhoi gwybodaeth arbenigol bwysig iddo i’w helpu i gynllunio gwella glaswelltir yng Nglanmynys.

“Roedd y cyrsiau hynny o gymorth enfawr i helpu ein cynlluniau i fabwysiadu system bori cylchdro ac i weithredu system fewnbwn isel sy’n sicrhau’r elw mwyaf o’r porthiant,” meddai Peredur.

“Cyflwynodd ni i’r meddalwedd Farmax i gynhyrchu cyllidebau porthiant.”

Er bod Carine wedi samplu’r pridd yn rheolaidd ac yn hyderus o statws maeth y pridd ar y fferm, roeddent wedi defnyddio cefnogaeth Cyswllt Ffermio i wneud samplu pellach yn gynharach eleni.

Mae Peredur yn cydnabod ei bod hi’n bwysig gwneud i’r cytundeb weithio, bod yn rhaid iddo fod yn hyblyg ac na ddylid brysio’r newid.

Yn allweddol i’w perthynas waith lwyddiannus mae cyfarfod rheoli wythnosol a chyfarfod cyllid misol. Er bod Carine a Pheredur yn siarad am faterion dyddiol yn ystod y diwrnod gwaith, maent yn cytuno bod angen cynnal cyfarfod ffurfiol hefyd.

Maent yn trafod pethau pan maent yn pasio ar y buarth neu pan maent yn gwneud gwaith gyda’i gilydd, ond mae cyfarfod ffurfiol yn rhoi gwell dealltwriaeth i’r ddwy ochr o’r hyn sy’n digwydd, medden nhw.

Mae’r ddau’n credu bod y gefnogaeth y mae ffermwyr a choedwigwyr yng Nghymru’n ei derbyn gan Cyswllt Ffermio’n eithriadol fuddiol.

“Mae’n gynllun da iawn. Mae angen i Ffermwyr yng Nghymru wneud defnydd da ohono. Mae gen i ffrindiau yn Lloegr sy’n methu credu bod cymaint o gefnogaeth ar gael i ffermwyr yma yng Nghymru,” meddai Peredur.

Mae’n disgrifio’r cyfle hwn y mae wedi’i gael i gyd-ffermio fel cyfle sydd “bron yn berffaith”. “Rydw i wedi bod yn ffodus am nad oeddwn i erioed wedi disgwyl y byddwn i’n ffermio ar y raddfa hon yn 26 oed. Os ydych yn awyddus iawn i gychwyn ffermio, pan fydd cyfleoedd yn codi drwy Mentro, gallai olygu derbyn rhywbeth nad yw’n berffaith ar y dechrau er mwyn cael troedle ac yna weithio i’w wneud yn berffaith.”

Mae’r ôl-ofal y mae Mentro’n ei ddarparu wedi cynnwys gweithdai lle gellir cwrdd â phobl eraill sydd wedi bod drwy’r broses hefyd.

Mae’r ddau’n cytuno bod cyfarfod pobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg wedi dangos iddynt bod y model yn gallu darparu ar gyfer ystod eang o sefyllfeydd.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter