Ffeithiau Fferm Plas
Ffermwyr
- Mae Arwyn Jones yn ffermio mewn partneriaeth â’i fam. Mae’r busnes yn cyflogi tri aelod o staff llawn amser. Mae Arwyn yn byw gyda’i bartner, Sioned Wyn Roberts, ac mae ganddynt ferch 14 mis oed o’r enw Magi.
Tir
- Mae’r fferm yn cynnwys 900 erw - 420 erw yn berchen iddynt, gyda 480 erw ychwanegol yn cael ei rentu ar gytundeb tenantiaeth hir dymor.
- Glaswelltir yw mwyafrif y tir, gyda 160 erw o ŷd yn cael eu tyfu’n flynyddol, gan gynnwys ŷd gaeaf a gwanwyn.
Da byw
Bîff
- Mae’r fferm yn pesgi 700 o wartheg yn flynyddol, a phob un ohonynt wedi’u prynu fel anifeiliaid stôr ar oedrannau amrywiol, fel arfer yn amrywio o 18-22 mis oed.
- Mae amrywiaeth o fridiau yn cael eu prynu, gyda’r bwriad o gyrraedd y pwysau carcas sy’n talu uchaf.
- Silwair glaswellt yw sylfaen y dogn ar gyfer pesgi, gan ychwanegu ŷd wedi’i dyfu gartref ynghyd â ffynhonnell protein sy’n cael ei brynu i mewn, sy’n amrywio yn ôl prisiau.
- Mae’r gwartheg yn cael eu bwydo gan ddefnyddio cerbyd bwydo TMR.
Defaid
- Ar hyn o bryd, mae’r ddiadell yn cynnwys 1,450 o ddefaid – 1,100 mamog Suffolk croes a 350 mamog miwl.
- Defnyddir hyrddod Texel croes Beltex gyda’r mamogiaid Suffolk croes, gyda’r mamogiaid miwl yn cael eu troi at hyrddod Suffolk.
- Mae’r mamogiaid yn dechrau ŵyna yng nghanol mis Ionawr, gyda’r ŵyn benyw yn dechrau ŵyna o ganol Mawrth.
- Mae’r ŵyn i gyd yn derbyn dwysfwyd, ac yn cael eu pesgi hyd at bwysau mor agos â phosib at 21kg ar y bach.
Cnydau
- Tyfir 160 erw o ŷd bob blwyddyn gan gynnwys gwenith a haidd gwanwyn a gaeaf, ac mae’r rhan fwyaf ohono’n cael ei ddefnyddio i besgi’r gwartheg.
- Tyfir 30 erw o rêp a maip sofl fel rhan o gylchdro cnydau y fferm yn flynyddol.
- Tyfir 12 erw o feillion coch yn ogystal er mwyn cydymffurfio â rheoliadau gwyrdd.