25 Medi 2019

 

Dyddiad: 30/09/2019

Lleoliad: Coleg Gelli Aur, Llandeilo, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA32 8NJ

Amser: 10:00 - 15:00

 

Hoffai Cyswllt Ffermio estyn gwahoddiad i ffermwyr fynychu digwyddiad Prosiectslyri, sydd yn cael ei gynnal mewn partneriaeth gyda AHDB, yng Ngelli Aur.

Bydd y diwrnod yn cael ei rannu i ddwy ran, cyflwyniadau ffurfiol tu mewn yn y bore, gan y canlynol: Rick de Vor – Rheoli Maetholion yn yr Iseldiroedd. Bydd y ffermwr Iseldiraidd ac ysgolhaig Nuffield yn rhannu ei brofiad ffermio o fewn rheolaethau a deddfwriaethau sydd wedi eu gosod ar hyn o bryd.

Bydd David Ball hefyd yn bresennol a bydd yn trafod – Gwerth slyri. Bydd David Ball o AHDB yn sôn am werth maetholion a sut i wneud y defnydd gorau o’r maetholion yno i leihau gwariant.

Bydd Lorna Davies, NFU, yn rhoi cyflwyniad am ennill eich cydnabyddiaeth a bydd hefyd yn trafod dull sy’n cael ei weithredu gan ffermwyr yn ogystal â rheoli maetholion.

Yn y prynhawn, bydd lleoliadau ar gyfer arddangosfeydd ymarferol ar gael tu allan.

Bydd Chris Duller yn arddangos technegau rheoli maetholion ymarferol, ac yn cynllunio asesiadau risg.

Bydd Keith Owen yn pwysleisio pwysigrwydd isadeiledd da a chadwraeth a chynnal a chadw er mwyn lleihau ymyrraeth dŵr glaw glân i storfeydd slyri, gyda’r nod o leihau’r angen am fuddsoddiad cyfalaf.

Bydd Gareth Morgan, Prif Weithredwr Power & Water yn arddangos perfformiad presennol a datblygiad. Bydd hefyd yn diweddaru cynrychiolwyr am gynlluniau masnacheiddio.

Dywed Abigail James, Swyddog Technegol Cyswllt Ffermio:

“Gall y digwyddiad yma fod yn hynod ddefnyddiol ar gyfer ffermwyr sydd eisiau datblygu eu dealltwriaeth a chynyddu eu gwybodaeth o fewn y maes hwn.”

Bydd cinio ar gael ac felly mae’n hanfodol eich bod yn archebu eich lle ar gyfer y digwyddiad hwn.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Coeden a dyfir ar fferm Rhwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio yn cyflenwi Rhif 10
19 Tachwedd 2024 Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o
Estyn allan i’r genhedlaeth iau – Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn targedu’r ifanc mewn ymgais i wneud ffermydd Cymru yn fwy diogel
18 Tachwedd 2024 Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth ffermwr
Gwella’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy gyrsiau Cyswllt Ffermio
13 Tachwedd 2024 Gall hyfforddiant a sgiliau newydd helpu