Cwrs undydd sy’n cynnwys hyfforddiant ac asesiad. Dyfernir tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Mae rheoli gwiwerod llwyd yn hanfodol mewn nifer o fusnesau amaethyddol a choedwigaeth. Ond er mwyn sicrhau eich bod yn ymdrin â phroblemau’n ymwneud â rheoli gwiwerod llwyd mewn modd dyngarol ac effeithiol, mae angen hyfforddiant penodol. Bydd y cwrs yn darparu dealltwriaeth ymarferol o ddulliau rheoli ataliol ac iachaol. Byddwch yn dysgu sut i weithredu a monitro rhaglen reolaeth briodol. Bydd asesu a defnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol a diogel o ran yr amgylchedd yn ganolog i’r hyn y byddwch yn ei ddysgu. Sesiynau’r cwrs: rhesymau dros reoli gwiwerod llwyd, deddfwriaeth, bioleg ac ymddygiad gwiwerod llwyd, defnyddio trapiau i reoli gwiwerod llwyd a dulliau eraill o reoli.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: