15 Hydref 2019
Fe wnaiff buddsoddi mewn seilwaith i atal dŵr glaw rhag cyrraedd storfeydd slyri leihau’r capasiti storio slyri sydd ei angen ar ffermydd Cymru a’r gost o’i chwalu ar y tir.
Hysbyswyd ffermwyr oedd yn mynychu digwyddiad ar y cyd rhwng Cyswllt Ffermio ac AHDB Dairy yn Fferm Coleg Gellir Aur, Llandeilo, bod y dŵr glaw sy’n disgyn ar do sied giwbiclau nodweddiadol ar gyfer 100 o fuchod yn cynhyrchu 1200m3 o slyri bob blwyddyn os caniateir i’r dŵr hwnnw ddraenio i fuarth brwnt.
“Ar ôl i’r dŵr gyrraedd y system slyri, bydd yn rhaid ei storio a’i chwalu,” meddai Uwch Reolwr Amgylchedd ac Adeiladau AHDB, David Ball.
“Mae mesurau y gallwch eu gweithredu i leihau’r capasiti storio sy’n ofynnol trwy ddargyfeirio dŵr glaw o lecynnau brwnt; os nad oes yn rhaid i chi ei storio, ni fydd yn rhaid i chi ei chwalu.”
Fe wnaeth Mr Ball annog ffermwyr i flaenoriaethu hyn. “Bwriedir cyflwyno rheolau newydd yn 2020, felly bydd yn rhaid i’r capasiti storio gynyddu ar nifer o ffermydd, ond mae camau y gallwch chi eu gweithredu i leihau’r capasiti y bydd arnoch chi ei angen,” meddai.
Mae angen ystyried allyriadau amonia hefyd, yn ôl Mr Ball, oherwydd mae’n sicr fwy neu lai y caiff deddfwriaeth ei chymeradwyo er mwyn rheoli’r rhain.
Gall gorchuddio storfeydd slyri helpu i sicrhau lleihad o 60-80% yn y nitrogen a gollir trwy allyriadau amonia, a sicrhau na fydd dŵr glaw yn cyrraedd y slyri, meddai Mr Ball.
Yn gyffredinol, mae metr ciwbig o slyri yn cynnwys 2.6kg o nitrogen (N), ond ar y gorau, dim ond 50% o’r cyfanswm hwn sydd ar gael yn rhwydd. Trwy fynd ati’n ofalus i gynllunio’r amser chwalu, pennu’r cyfraddau chwalu, sicrhau bod yr hyn a chwalir yn cyd-fynd ag anghenion cnydau a dadansoddi gwrtaith, gellir defnyddio rhagor o’r maetholion sydd wedi’u cynnwys yn y slyri i hybu twf cnydau, meddai Mr Ball.
“Os na chaiff ei ddefnyddio neu ei gadw yn pridd, caiff ei golli, ac mae hynny’n golygu y dylid ei chwalu pan wnaiff y planhigyn ei ddefnyddio.”
Mae nitrogen yn y slyri a gynhyrchir gan fuches o 200 o fuchod yn gyfystyr ag 22 tunnel fetrig bob blwyddyn, sy’n cyfateb i 58 tunnell o amoniwm nitrad. Yn ariannol, gan ystyried pris amoniwm nitrad (£292 fesul tunnell fetrig), mae’r nitrogen hwnnw yn werth £16,936 y flwyddyn, neu £85 y fuwch, heb ystyried y gwerthoedd ffosffad a photash (P a K). Ni ellir sicrhau’r gwerth hwn heb reoli’r gwrtaith yn ofalus.
Fe wnaeth Mr Ball annog ffermwyr i brofi eu slyri i ganfod beth yw gwerthoedd y maetholion sydd ynddo. “Y lle gorau i samplu yw allan yn y cae, pan fydd y slyri yn cael ei chwalu. Os bydd y slyri wedi cael ei gymysgu’n dda yn y storfa, bydd y sampl hwn yn nodweddiadol o gynnwys y storfa a beth fydd y cnwd yn ei gael.
“Er y bydd ar y cae yn barod erbyn hynny, ar ôl cymryd nifer o samplau, bydd gennych chi syniad o beth yn union sydd gennych chi.”
Fe wnaeth Mr Ball argymell anfon samplau i labordy i’w profi, oherwydd darperir adroddiad llawn am y gwerthoedd.
Ar sail gwerthoedd nodweddiadol, mae cyfanswm yr N, P a’r K mewn slyri yn werth £3.98/m3 neu £119.10/ha os chwelir cyfanswm nodweddiadol o 30m3/ha, ychwanegodd. “Mae hynny’n gyfanswm sylweddol o faetholion had oes yn rhaid i chi eu prynu i mewn i’r fferm; ceisiwch ystyried defnyddio cymaint ag y gallwch chi o’r £3.98.”
Yn yr un modd, mae gwerth yr N, P a’r K mewn tail fferm yn £10.94/t neu £218.80/ha os chwalir cyfanswm nodweddiadol o 20t/ha.
“Ni ddylech ddiystyru; mae’n ffordd dda o arbed costau gwrtaith,” meddai Mr Ball.
Rhagwelodd Mr Ball y byddir yn gwahardd y dull plât tasgu o chwalu slyri, sy’n gallu arwain at golli 80% o’r cynnwys N yn y slyri yn yr amgylchedd.
“Mae’r golled hon yn gyfystyr â £50/ha os chwelir 30m3/ha, felly ceir buddion ariannol os caiff ei chwalu gan ddefnyddio’r dull bar diferu neu chwistrellu,’’ meddai