25 Hydref 2019
Gallai rheoli dail tafol wella deunydd sych (DM)/hectar (ha) y glaswellt ar ffermydd glaswelltir Cymru gymaint â dros 10%.
Yn ystod digwyddiad Fferm Ffocws Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd ar Fferm Newton ger Aberhonddu, hysbyswyd ffermwyr o'r ffaith mai dail tafol yw un o'r mathau o chwyn sy'n achosi'r difrod economaidd mwyaf i laswelltir, gan gystadlu'n uniongyrchol â glaswellt a lleihau'r cnwd.
Os bydd cae yn cynnwys 2.5 deilen dafol ym mhob 1m2, collir 10% o'r cae hwnnw i ddail tafol; ac o ystyried y ffaith bod gwerth rhentu tir amaethyddol yng Nghymru yn £284/ha ar gyfartaledd yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae hyn yn cyfateb â cholled o
£28.40/ha, yn ôl gwaith cyfrifo Sarah Hughes, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio (De Orllewin Cymru).
Gallai hyn, gyda'r ffaith y collir deunydd sych glaswellt o 0.6t mewn cae sy'n tyfu 6t/ha/blwyddyn, gyfateb â chost o £118.20 i ddisodli'r porthiant ar sail ffigurau gan brosiect Gwerthoedd Glaswellt Llaeth yng Ngelli Aur, Sir Gaerfyrddin.
“Mae'n fwy cost-effeithiol i reoli dail tafol na rhentu mwy o dir neu brynu porthiant ychwanegol,” dywedodd wrth y ffermwyr.
Mae dail tafol yn egino yn y gwanwyn a'r hydref ar y cyfan, ond ar adegau eraill hefyd, o hadau a gwreiddiau; gall pob planhigyn gynhyrchu 60,000 o hadau y flwyddyn, ac mae'r rhain yn hadau sy'n gallu bod yn fyw am 80 o flynyddoedd.
Mae rhywfaint o werth porthiant i ddail tafol – 65% o werth porthiant glaswellt – ond ni fydd stoc yn pori'r planhigion pan fyddant yn aeddfed.
Mae tocio yn aneffeithiol yn gyffredinol gan bod planhigion yn adfer ac yn gosod hadau byw, ond mae amrediad o ddulliau rheoli cemegol ar gael.
Bu prosiect dan arweiniad Cyswllt Ffermio yn Fferm Newton, fferm bîff a defaid teulu Roderick, yn archwilio effeithlonrwydd defnyddio gwahanol ddulliau rheoli cemegol i drin dail tafol – gan gymharu cynnyrch safonol gydag un nad yw'n niweidio meillion.
Yn y cae lle y defnyddiwyd cynnyrch a oedd yn cynnwys Fluroxypyr a Tricloypyr ar hanner y gyfradd ym mis Mai, rheolwyd dros 95% o'r dail tafol. “Pan adolygwyd hwn yn ystod yr hydref eleni, teimlwyd bod y rheolaeth yn dda o hyd ac na fyddai ail ddefnydd hanner y gyfradd yn cael ei wneud,” dywedodd Mrs Hughes.
Penderfynwyd trin cae arall gydag Amidosulfuron ar raddfa lawn, cynnyrch nad yw'n niweidio meillion. Gwelwyd aildyfiant y dail tafol mewn dros hanner y gwndwn a blodeuo wrth waelod y dail tafol crebachlyd er, yn ôl y disgwyl, ni niweidiwyd y meillion.
“Roedd y cynnyrch hwn yn gweithio mewn ffordd lawer yn arafach ac fe allai'r dail tafol fod wedi tyfu ohono oherwydd y defnyddiwyd hwn yn hwyr yn ystod y gwanwyn pan oedd hi'n gynnes,” dywedodd Mrs Hughes.
Dywedodd bod y prosiect wedi dangos bod amseriad y defnydd ar gyfnod tyfiant y dail tafol yn hollbwysig – nid yw chwynladdwyr a ddefnyddir yn rhy gynnar neu'n rhy hwyr yn gweithio mewn ffordd mor effeithiol.
“Argymhellir y dylid ei ddefnyddio ar ddail tafol sy'n tyfu, ar ddiamedr o tua 20cm,” esboniodd.
Mae defnyddio chwynladdwr yn ystod y cyfnod ailhadu yn bwysig hefyd gan eu bod yn gweithio mewn ffordd fwy effeithiol ar ddail tafol yn ystod cyfnod yr eginblanhigion. “Mae'n fwy cost-effeithiol ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod hwn,” dywedodd Mrs Hughes.
Yn ogystal, mae dewis cynnyrch sy'n rheoli dail tafol i lawr i'w gwreiddiau – a elwir trawsleoli – yn cynnig rheolaeth well dros y tymor hir, ychwanegodd.
“Mae dail tafol yn fath o arch-chwyn a bydd strategaeth reoli wedi'i chynllunio'n ofalus, gan weithio gyda'ch arddull bori ac ailhadu dros nifer o flynyddoedd, yn dangos y canlyniadau gorau wrth eu rheoli,” dywedodd Mrs Hughes.
Mae arweiniad yn dod gyda phob cemegyn am y parth clustogi angenrheidiol rhwng ardaloedd trin a chyrsiau dŵr; mae'n hanfodol cydymffurfio â hwn gan bod rhai cynhyrchion yn wenwynig iawn i fywyd dyfrol ac mae'r effeithiau yn parhau am gyfnod hir, dywedodd Mrs Hughes.
“Gellir eu defnyddio mewn ffordd ddiogel ar yr amod eich bod yn gofalu na fydd sgeintiad sydd wedi drifftio yn cyrraedd dŵr wyneb,” cynghorodd.
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.