Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif presenoldeb yn cael ei chyhoeddi ar ôl cyflawni’r gweithdy. Caiff y gweithdai eu darparu gan filfeddygfeydd lleol ledled Cymru. 

Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael y cyfle i gynyddu eu gwybodaeth am y rhesymau dros gloffni mewn gwartheg llaeth a sut mae ei drin a’i atal. Bydd cyfle i ddysgu am achosion heintus a rhai nad ydynt yn heintus o gloffni mewn gwartheg llaeth.  Bydd y gweithdy’n canolbwyntio ar sicrhau ymwybyddiaeth o’r wahanol resymau dros yr amrywiol achosion o gloffni a sut gallai fod angen dulliau gwahanol i'w rheoli.  Bydd pwyslais ar bwysigrwydd monitro symudedd a chymryd camau neu ddechrau triniaeth yn brydlon.
 

I weld dyddiadau nesaf y gweithdy hwn, cliciwch yma i fynd i’r dudalen ‘Digwyddiadau’.


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Lleihau Mastitis mewn Gwartheg Llaeth
Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif
Bovine Viral Diarrhoea (BVD) Workshop
Workshop attendees will learn about the clinical signs
Deall Clefyd Johne
Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif