Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif presenoldeb yn cael ei chyhoeddi ar ôl cyflawni’r gweithdy. Caiff y gweithdai eu darparu gan filfeddygfeydd lleol ledled Cymru. 

Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael y cyfle i gynyddu eu gwybodaeth am y rhesymau dros fastitis clinigol ac isglinigol mewn gwartheg llaeth a sut mae ei ganfod, ei fonitro, ei drin a’i atal. Bydd hyn yn cynnwys trafod y dulliau o ganfod a monitro mastitis, nodi ffactorau risg yn amgylchedd y gwartheg a’u parlwr godro, a’r mesurau bioddiogelwch a biogaethiwo angenrheidiol i atal pathogenau mastitis rhag cael eu cyflwyno a’u lledaenu o fewn buchesau. 

 

I weld dyddiadau nesaf y gweithdy hwn, cliciwch yma i fynd i’r dudalen ‘Digwyddiadau’. 


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Rheoli Parasitiaid mewn Defaid – Rhan 2: Y clafr, Llau a Llyngyr yr iau
Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif
Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD)
Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif
Cynllunio Iechyd Anifeiliaid
Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif