Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif presenoldeb yn cael ei chyhoeddi ar ôl cyflawni’r gweithdy. Caiff y gweithdai eu darparu gan filfeddygfeydd lleol ledled Cymru. 

Bydd y rhai sy’n bresennol yn dysgu am arwyddion clinigol clefyd Johne a sut mae’n cael ei drosglwyddo, ei ddiagnosio a’i fonitro. Bydd y gweithdai’n canolbwyntio’n bennaf ar strategaethau bioddiogelwch a biogaethiwo y gellir eu rhoi ar waith mewn ymgynghoriad â’r milfeddyg i gyfyngu gymaint â phosibl ar y risg o gyflwyno clefyd Johne i fuches naïf, neu i atal y clefyd rhag lledaenu os yw eisoes yn bodoli ar y fferm. 
Bydd atal clefyd Johne rhag cael ei gyflwyno a’i ledaenu yn gwella iechyd, cynhyrchiant a phroffidioldeb y fuches. 
 

I weld dyddiadau nesaf y gweithdy hwn, cliciwch yma i fynd i’r dudalen ‘Digwyddiadau’.


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Lleihau Mastitis mewn Gwartheg Llaeth
Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif
TB Mewn Gwartheg
Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif
Ymwrthedd i Wrthfiotigau
Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif