Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif presenoldeb yn cael ei chyhoeddi ar ôl cyflawni’r gweithdy. Caiff y gweithdai eu darparu gan filfeddygfeydd lleol ledled Cymru. 

Bydd y rhai sy’n bresennol yn dysgu am y cylch bywyd a’r arwyddion clinigol sy’n gysylltiedig â phrif rywogaethau llyngyr main yn y DU, yn ogystal â chynrhoni. Bydd y gweithdai’n canolbwyntio’n bennaf ar reoli’r parasitiaid hyn, defnyddio cyffuriau gwrthlyngyrol yn gyfrifol, a phwysigrwydd ymgynghori â milfeddyg wrth lunio cynllun rheoli parasitiaid ar gyfer ffermydd unigol.
Bydd rheoli parasitiaid mewn modd cywir ac effeithlon yn gwella iechyd, cynhyrchiant a phroffidioldeb y ddiadell.
 

I weld dyddiadau nesaf y gweithdy hwn, cliciwch yma i fynd i’r dudalen ‘Digwyddiadau’.


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Lleihau Mastitis mewn Gwartheg Llaeth
Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif
TB Mewn Gwartheg
Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif
Ymwrthedd i Wrthfiotigau
Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif