Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif presenoldeb yn cael ei chyhoeddi ar ôl cyflawni’r gweithdy. Caiff y gweithdai eu darparu gan filfeddygfeydd lleol ledled Cymru. 

Bydd y rhai sy’n bresennol yn y gweithdai yn dysgu am arwyddion clinigol BVD a sut mae’n cael ei drosglwyddo, ei ddiagnosio a’i fonitro. Bydd y gweithdy’n canolbwyntio’n bennaf ar arwyddocâd anifeiliaid sydd â haint barhaus o ran trosglwyddo haint, a’r mesurau bioddiogelwch a biogaethiwo y gellir eu cymryd i leihau’r perygl o gyflwyno BVD i fuches naïf a lleihau lledaeniad haint sydd ar y fferm yn barod.
Bydd atal BVD rhag cael ei gyflwyno a’i ledaenu yn gwella iechyd, cynhyrchiant a phroffidioldeb y fuches.

 

I weld dyddiadau nesaf y gweithdy hwn, cliciwch yma i fynd i’r dudalen ‘Digwyddiadau’. 


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

TB Mewn Gwartheg
Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif
Ymwrthedd i Wrthfiotigau
Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif
Lleihau Cloffni mewn Gwartheg Llaeth
Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif