Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif presenoldeb yn cael ei chyhoeddi ar ôl cyflawni’r gweithdy. Caiff y gweithdai eu darparu gan filfeddygfeydd lleol ledled Cymru. 

Bydd y rhai sy’n bresennol yn dysgu am y prif resymau dros golli ŵyn cyn wyna; erthylu, prolaps ac anghydbwysedd maeth. Bydd y gweithdy’n canolbwyntio ar sut y caiff erthyliad Ensootig (EAE) a Tocsoplasmosis (y ddau brif beth sy’n achosi erthylu yn y DU) eu trosglwyddo a’u diagnosio, a'r camau bioddiogelwch a biogaethiwo y gellir eu cymryd i leihau colledion oherwydd y heintiau hyn. Bydd y gweithdy hefyd yn amlinellu mor bwysig yw sgorio cyflwr y corff a maethiad cywir i leihau colledion oherwydd clefyd metabolig, prolaps a dystocia.

 

I weld dyddiadau nesaf y gweithdy hwn, cliciwch yma i fynd i’r dudalen ‘Digwyddiadau’. 


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Lleihau Cloffni mewn Gwartheg Llaeth
Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif
Rheoli Parasitiaid mewn Defaid – Rhan 2: Y clafr, Llau a Llyngyr yr iau
Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif
Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD)
Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif