Trefeglwys, Caersws

Prosiect Safle Ffocws: Deall ffactorau ymarferol defnyddio Gwerthoedd Bridio Genomig newydd ar gyfer nodweddion carcas

Nodau'r prosiect:

  • Nod y prosiect yw codi ymwybyddiaeth o'r gwerthoedd bridio genomig (GEBV) cyntaf sydd ar gael ar gyfer y diwydiant bîff.
  • Mae GEBV yn cyfuno canlyniadau dadansoddiad o ddelweddau fideo gyda gwybodaeth genomig o'r DNA i greu allwedd SNP ar gyfer y brîd. Gall cynhyrchwyr wedyn gymhrau DNA eu hanifeiliaid byw gyda’r allwedd a chanfod eu gwerth bridio ar gyfer naw nodwedd carcas newydd.
  • Gallai’r dechnoleg gynorthwyo bridwyr pedigri i farchnata teirw gyda nodweddion carcas uwchraddol; gallai ffermwyr bîff sugno gynhyrchu lloeau gyda nodweddion carcas wedi'u gwella; a gallai ffermwyr sy'n pesgi anifeiliaid bîff brynu anifeiliaid a fydd yn ymateb yn well i ofynion y farchnad.
  • Bydd y fuches Limousin pedigri hon yn cyflwyno DNA o 50 anifail ar gyfer nodweddion carcas. Bydd y samplau DNA yn cael eu cymharu gyda’r ‘allwedd SNP’ ar gyfer y brîd Limousin a bydd GEBV yn cael eu cynhyrchu ar gyfer pob anifail a samplwyd a’u cymharu gyda siart ganrannol GEBV y brîd.
  • Bydd amrywiadau Myostatin pob anifail hefyd yn cael eu pennu a’u gosod ochr yn ochr â rhwyddineb geni lloeau, hyd cyfnod beichigrwydd ac EBV pwysau geni. Mae ambell fwtaniad o’r genyn myostatin ‘cyhyr dwbl’ yn cael eu cysylltu â phwysau trymach ar enedigaeth a’r potensial ar gyfer mwy o anawsterau wrth eni lloeau.
  • Bydd yr wybodaeth yn cael ei ddefnyddio i ganfod y llinellau bridio gorau posib ar gyfer nodweddion carcas ac yn ymchwilio i unrhyw berthynas posib rhwng nodweddion carcas, myostatin ac anawsterau geni lloeau.
  • Y nod fydd i'r fuches gynhyrchu mwy o deirw gyda gwerthoedd uwchraddol ar gyfer GEBV Nodweddion Carcas i'w gwerthu i fuchesi pedigri eraill a buchesi bîff a llaeth masnachol.   

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Wern
Osian Williams Wern, Y Foel, Y Trallwng, Powys Meysydd allweddol
Mountjoy
William Hannah Mountjoy, Trefgarn, Sir Benfro, Meysydd allweddol
Great Tre-rhew Farm
Jim a Kate Beavan Fferm Great Tre-rhew, Llanvetherine, Y Fenni