Gall defnyddio technoleg enynnol newydd gynnig potensial mawr i wella cynhyrchiant a phroffidioldeb busnesau bîff trwy benderfyniadau bridio ar sail gwybodaeth well. Mae Gwerthoedd Bridio Tybiedig Genomig (GEBV) yn defnyddio technoleg DNA i ddynodi’r genynnau gorau o ran nodweddion carcas, a all gael effaith sylweddol o ran cynhyrchwyr pedigri a masnachol.

heffrod pencraig pencraig heifers
Mae GEBV ar gyfer nodweddion carcas wedi bod ar gael ar gyfer gwartheg Limousin ers blwyddyn ac maent yn cael eu cyfrifo yn wahanol i Werthoedd Bridio Tybiedig (EBV) confensiynol sy’n seiliedig ar berfformiad wedi ei fesur ar y fferm a gwybodaeth am anifeiliaid eraill sy’n cyd-oesi. Mae GEBV yn defnyddio cofnodion pedigri a BCMS, data perfformiad, profi DNA a mesuriadau Dadansoddi Delweddau Fideo (VIA) o ladd-dai ar gyfer chwe thoriad carcas gwahanol. Cyfunir y data carcas VIA a’r DNA i greu allwedd ‘SNP’ i’r brîd a llunio llyfrgell o wybodaeth am berfformiad. Yna gall samplau DNA o anifeiliaid byw eraill gael eu cymharu â’r llyfrgell i ddynodi nodweddion perfformiad da.

“Geneteg yw’r adnodd mwyaf sydd heb ei ddefnyddio ar gyfer gwella buchesi ac mae’n un sy’n cael effaith eithaf mawr o ran a yw buches yn cynhyrchu elw neu beidio. Mae GEBV yn gywir iawn ac yn cynnig ffynhonnell bwerus iawn o wybodaeth i greu gwerthoedd bridio a all helpu bridwyr i ymateb yn gyflym i newidiadau yn y farchnad,” dywedodd Alison Glasgow, Rheolwraig Dechnegol Cymdeithas Wartheg Limousin Prydain wrth ffermwyr mewn cyfarfod ym Mhencraig, Trelech, Caerfyrddin, lle mae rhai o’r fuches Reddragon bedigri wedi cael eu profi am eu DNA fel rhan o brosiect Safle Ffocws Cyswllt Ffermio.

“Nid yw geneteg yn tynnu oddi ar yr hwsmonaeth a’r rheolaeth sydd yn angenrheidiol hefyd i gynhyrchu anifeiliaid da, ond rydym yn ceisio cynnig yr offer i fridwyr ymateb i unrhyw newidiadau pan fydd ar y farchnad fasnachol angen hynny.”

Cynhyrchir rhestrau GEBV dair gwaith y flwyddyn gyda gwerthoedd ar gyfer pwysau’r carcas, oedran wrth eu lladd a chwe phrif doriad - ystlys las, ffolen, stribed lwyn, ochr orau’r forddwyd, coesgyn a ffiled.

“Wrth asesu pa nodweddion sy’n bwysig mae’n dibynnu am beth yr ydych yn chwilio, ond mae dyddiau hyd ladd a phwysau’r carcas yn ffactorau economaidd pwysig yn y fuches. Ar gyfartaledd cost o £1.80-£2 i bob anifail y dydd, mae hynny’n llawer o arian os bydd yr anifail yn cymryd mwy o amser i’w orffen,” ychwanegodd Alison.

“Daw gwir werth y wybodaeth yn amlwg pan fyddwch yn dechrau edrych ble i fynd nesaf, gan ddefnyddio’r wybodaeth i ddewis eich teirw a’r heffrod i’w cadw.”

Ym Mhencraig, mae Thomas Price yn awr yn ystyried y ffordd orau o ddefnyddio’r wybodaeth newydd a gasglwyd o brofion DNA ar 40 o anifeiliaid yn ei fuches. Dywedodd: “Diolch i’r profi yr ydym wedi ei wneud trwy brosiect Safle Ffocws Cyswllt Ffermio rydym yn awr yn gwybod beth yw geneteg ein buchod a’n tarw, yn hytrach na chael dim ond rhyw syniad o sut y gallant berfformio. Nawr mae’n ymwneud â sut y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i wella ein buches.”

Gall profi DNA hefyd roi gwybodaeth am myostatin - y genyn sy’n gyfrifol am gyhyrau dwbl. Mae mwtadiadau naturiol ar y genyn yn llai effeithiol wrth reoli datblygiad cyhyrau sy’n arwain at gynyddu’r cyhyrau. Er y gall hyn fod yn fanteisiol o ran cynyddu’r cynnyrch cig, effeithlonrwydd porthiant ac ansawdd y cig, gall copïau dwbl o rai genynnau arwain at broblemau fel anawsterau wrth loea.

Ychwanegodd Alison: “Er yr holl fanteision o gael y genynnau yma mae’n rhaid eu rheoli. Gall y problemau sy’n gysylltiedig â chael copïau dwbl o enynnau waethygu yn gyflym iawn mewn un genhedlaeth os nad ydych yn cynllunio ymlaen am y math o darw y byddwch yn ei ddefnyddio.”

Mae statws Myostatin ei stoc yn agwedd bwysig o dechnoleg DNA i Thomas. “Yn y dyfodol byddwn yn bendant yn cadw llygad ar yr amrywiadau myostatin fel na fyddwn yn cael unrhyw broblemau lloea. Mae’r cyfan yn dibynnu ble yr ydym yn mynd nesaf o ran y merched oherwydd nad ydym am gopïau dwbl o rai amrywiadau,” ychwanegodd.

Gobeithir datblygu GEBV ar gyfer nodweddion ffrwythlondeb, nodweddion cynhyrchu fel effeithlonrwydd porthiant a nodweddion afiechyd yn y dyfodol.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites