Eglwysbach, Bae Colwyn
Prosiect Safle Ffocws: Lleihau Afiechyd Resbiradol Buchol mewn lloeau ifanc dan do
Nodau’r prosiect:
- Gwella cynnydd pwysau dyddiol a phroffidioldeb y fenter fagu lloeau ddwys dan do trwy bennu gwir raddfa achosion niwmonia mewn lloeau ifanc.
- Bydd y broses archwilio unigol yn pennu sgôr Niwmonia pob anifail, a fydd yn lleihau’r defnydd o wrthfiotig, ynghyd â chanfod Afiechyd Resbiradol Buchol (BRD) yn gynnar. Dylai hyn hefyd helpu i ganfod lloeau sydd wedi eu heintio yn ysgafn sydd yn mynd heb eu canfod ar hyn o bryd ac felly nid ydynt yn perfformio cystal o ran cynnydd pwysau dyddiol.
- Bydd y defnydd o brofiotig wedi ei ychwanegu at y llaeth fel dull o leihau dibyniaeth ar wrthfiotig trwy gamau ataliol yn hytrach na thriniaeth yn cael ei werthuso hefyd.
- Gwelwyd cynnydd sylweddol o ran amlygrwydd niwmonia trwy ddylunio adeiladau yn well a newidiadau bychain i reolaeth ac ystyrir bod defnyddio profiotig yn ychwanegiad fydd yn lleihau’r broblem eto. Mae’r addasiadau amgylcheddol eraill sydd i’w cwblhau yn cynnwys gosod systemau awyru positif.
- Bydd y lloeau yn cael eu pwyso wrth gyrraedd y fferm, wrth eu diddyfnu ac yna wrth eu gwerthu er mwyn monitro eu twf yn ystod y prosiect.