15 Ebrill 2020

 

Mae Cyswllt Ffermio wedi gweld cynnydd yn nifer y rhai sy’n gwrando ar bodlediad Clust i’r Ddaear. Cafodd y podlediad ei lansio ym mis Medi 2019, a dyma’r tro cyntaf i bodlediad ffermio o’r fath fod ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ei nod yw rhannu cyngor, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth gyda’r gymuned amaethyddol yng Nghymru, ac mae bellach yn denu cynulleidfaoedd o dros 1,000 o wrandawyr y mis, ac mae’r niferoedd ar gynnydd.

Mae’r cyflwynwyr, Aled Rhys Jones a Jim Ellis yn falch iawn o lwyddiant y podlediad. “Mae podlediadau’n cynnig ffordd wych o ddysgu pethau newydd wrth fynd, p’un a ydych chi’n gwrando yn y tractor, yn y ‘pick-up’ neu hyd yn oed yn y bath!” meddai Aled.

“Gyda’r sefyllfa ynysu bresennol yn effeithio ar fywydau pobl bob dydd, mae gwrando ar bodlediad yn ddihangfa ac yn cynnig cwmni a chysur yn ystod cyfnod sy’n gallu bod yn unig ac yn anodd,” ychwanegodd.

Mae ystadegau’n dangos bod nifer gwrandawyr podlediad Clust i’r Ddaear wedi cynyddu’n sylweddol ym mis Mawrth, gan ddangos bod awydd cryf am wybodaeth yn ystod yr argyfwng Coronafeirws. Y rhifyn diweddaraf a oedd yn trafod gwneud y defnydd gorau o borfa’r gwanwyn oedd y rhifyn mwyaf poblogaidd hyd yma. 

“Mae’r gwaith ffermio o ddydd i ddydd yn parhau, er  gwaetha’r feirws,” yn ôl y cyd-gyflwynydd, Jim Ellis.

“Rydym ni wedi trafod trawstoriad o bynciau’n ymwneud â ffermio dros y chwe mis diwethaf, gan gynnwys cyngor ar bori cylchdro. Technoleg newydd, teithiau astudio rhyngwladol i’r Iseldiroedd a Gwlad yr Iâ, eitemau’n trafod digwyddiadau ar ffermydd arddangos a phodlediad ar dyfu coed Nadolig.”

Gyda dros 7 awr o gynnwys, mae pob rhifyn yn seiliedig ar gyfweliadau gyda ffermwyr ac arbenigwyr o’r diwydiant. Mae eu harddull sgyrsiol a hamddenol wedi bod yn boblogaidd er mwyn denu a chadw gwrandawyr, ynghyd â thrafod pynciau a allai fod yn drwm mewn modd ysgafn a dealladwy.

“Mae digonedd o bynciau i’w trafod a straeon i’w hadrodd,” meddai Aled, “ac rydym ni’n falch iawn bod pobl mor agored a pharod i rannu eu profiadau - y da a’r drwg - er mwyn helpu eraill.”

I Jim, yr uchafbwynt hyd yma oedd y rhifyn yn trafod pori cylchdro gyda Rhidian Glyn a James Daniel, Precision Grazing Ltd.

“Roedd derbyn cyngor defnyddiol ac ymarferol gan James ynghyd â’r ffermwr, Rhidian, sydd wedi gwneud defnydd o’r cyngor yn ddefnyddiol iawn,” meddai Jim.

Mae Rhodri Jones, Swyddog Amaeth Cyswllt Ffermio yn credu bod y podlediad yn blatfform effeithiol iawn er mwyn trosglwyddo gwybodaeth i’r diwydiant amaeth. 

“Mae podlediadau wedi bod o gwmpas er blynyddoedd, ond maen nhw’n amlwg yn dod yn fwy a mwy poblogaidd. Bydd tanysgrifio i’r podlediad hwn yn eich galluogi i ddewis o ystod o bynciau eang a fydd yn cyfoethogi eich gwybodaeth mewn meysydd allweddol o’ch busnes,” meddai Rhodri. 

“Byddwn hefyd yn eich cyfeirio at wasanaethau Cyswllt Ffermio eraill ym mhob rhifyn”.
Mae rhifyn newydd yn cael ei ryddhau bob pythefnos (ar ddydd Sul am 5pm) a gall pobl ddod o hyd i’r podlediad Clust i’r Ddaear ar bob un o’r prif lwyfannau gan gynnwys Apple a Spotify yn ogystal â gwefan Cyswllt Ffermio. 

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd