24 Ebrill 2020

 

“Mae coronafeirws wedi newid y ffordd yr ydym ni’n byw ac yn gweithio, ond nid yw hynny’n golygu na ddylem gynllunio ar gyfer y dyfodol nawr er mwyn parhau i ddysgu a gwella ein sgiliau personol a’n sgiliau busnes.”  

Dyma’r neges gan Kevin Thomas, cyfarwyddwr Lantra Cymru, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar y cyd â Menter a Busnes ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.  

Mae Mr Thomas yn annog pob unigolyn cymwys i gyflwyno cais am hyfforddiant yn ystod y cyfnod ymgeisio nesaf ar gyfer sgiliau a fydd ar agor rhwng 9am ddydd Llun 4 Mai hyd 5pm ddydd Gwener 26 Mehefin.

Mae ystod eang o gyrsiau achrededig, sydd ar gael i bob unigolyn sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, wedi’u hariannu hyd at 80%.

“Rydym ni’n gweithio’n agos gyda rhwydwaith darparwyr hyfforddiant Cyswllt Ffermio a’n cyrff dyfarnu - y sefydliadau sy’n gyfrifol am fonitro asesiadau ac ansawdd hyfforddiant - i adolygu pa gyrsiau hyfforddiant sy’n cael eu darparu wyneb yn wyneb fel arfer y gellir eu darparu gan ddefnyddio technoleg, yn ddigidol neu ar-lein yn ystod y cyfnod hwn o ynysu o ganlyniad i’r coronafeirws. 

“Mae nifer fechan o’n darparwyr cymeradwy eisoes yn darparu cyrsiau digidol yn ymwneud â busnes ar gyfer eu cleientiaid, ond wrth i’r sefyllfa ddatblygu, byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda’r diwydiant ehangach. 

“Yn amlwg, mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd i ddysgwyr a darparwyr hyfforddiant fel ei gilydd, ond byddem yn annog cyflogwyr a gweithwyr i barhau i fuddsoddi mewn sgiliau a datblygiad ac i ymgeisio am gefnogaeth gyda hyfforddiant yn ystod y cyfnod ymgeisio nesaf, gan obeithio y bydd dulliau darparu arferol yn gallu ail-ddechrau cyn gynted â phosibl,” meddai Mr Thomas.

Mae hyfforddiant wyneb i wyneb yn cael ei gategoreiddio’n eang dan benawdau busnes, tir a da byw. Mae rhestr fanwl o oddeutu 80 o gyrsiau o fewn y categorïau hyn ar gael yma, ynghyd â rhestr o ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy Cyswllt Ffermio, sydd wedi’u lleoli ledled Cymru.  

Cyn gallu cyflwyno cais ar lein ar gyfer cyllid, mae’n rhaid i chi fod wedi eich cofrestru’n bersonol gyda Cyswllt Ffermio. Mae angen i chi gofrestru gyda’ch cyfeiriad e-bost unigol eich hunain. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd modd i chi gael mynediad i wefan Busnes Cymru i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (PDP) ac ymgeisio am y cwrs hyfforddiant a dewis eich darparwr hyfforddiant.

Mae cwblhau PDP a ffurflen gais yn broses fer a syml, ond mae cymorth ar gael naill ai gan eich swyddog datblygu Cyswllt Ffermio rhanbarthol neu eich darparwyr hyfforddiant. Ceir hefyd canllawiau ar-lein ynghyd â fideo’n dangos sut i gwblhau’r broses ar wefan Cyswllt Ffermio.

Bydd angen i ffermwyr a choedwigwyr sy’n dymuno ymgeisio am gyllid ar gyfer hyfforddiant yn ystod y cyfnod ymgeisio nesaf sydd heb gofrestru gyda Cyswllt Ffermio hyd yma gysylltu gyda Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813 i gofrestru cyn 5pm dydd Llun 22 Mehefin 2020.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r hyfforddiant ac wedi ei hawlio, bydd copi o’ch tystysgrif yn cael ei uwch lwytho i’ch cofnod diogel a phersonol ar y Storfa Sgiliau ar-lein. Bydd unrhyw wasanaethau, gweithdai a chymorthfeydd sydd yn dal i fod ar gael i chi drwy Cyswllt Ffermio hefyd yn cael eu llwytho ar y system ar eich rhan.

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch ynglŷn â hyfforddiant Cyswllt Ffermio a’r holl wasanaethau ar-lein sydd ar gael yn ystod y cyfnod presennol, gan gynnwys y Storfa Sgiliau, cysylltwch â’ch swyddog datblygu Cyswllt Ffermio rhanbarthol neu ffoniwch Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813. Fel arall, cliciwch yma. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu