4 Mai 2020

 

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn galw ar y diwydiant ffermio i gadw eu plant yn ddiogel tra byddant yn aros gartref yn ystod cyfyngiadau COVID-19.

Gydag ysgolion wedi cau, bydd mwy o blant yn aros gartref ar y ffermydd ac mae Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn atgoffa ffermwyr y dylid cadw plant yn ddiogel i ffwrdd o unrhyw weithgareddau gwaith. Mae’r HSE yn gweithio gydag adrannau eraill y Llywodraeth fel rhan o'r ymateb cenedlaethol i goronafeirws (COVID-19) ac, er bod llawer o weithwyr amaethyddol ar y rhestr ‘gweithwyr allweddol hanfodol’ fel bod eu plant yn gallu mynd i'r ysgol, bydd llawer ohonynt gartref am gyfnodau hirach.

Rhaid i ffermwyr hefyd gymryd sylw o gyngor y Llywodraeth ar hunan-ynysu a chadw pellter cymdeithasol, a chymhwyso hyn ar eu fferm.

 

Beth mae angen i chi ei wybod:

  • Cadwch blant allan o fannau gwaith, dylai ardaloedd chwarae fod yn ddiogel ac i ffwrdd o'r mannau gwaith
  • Os yw plant mewn man gwaith, rhaid iddynt gael eu goruchwylio'n ofalus gan oedolyn nad yw'n ymwneud ag unrhyw waith 
  • Gwaherddir yn benodol blant o dan 13 oed rhag gyrru neu fynd ar unrhyw beiriant amaethyddol 
  • Cadwch blant allan o gorlannau, allan o gyfleusterau trin anifeiliaid ac ymhell i ffwrdd pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud neu eu trin.

 

Bob blwyddyn caiff plant eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yn ystod gweithgareddau amaethyddol, y rhan fwyaf ohonynt yn aelodau o'r teulu. Y llynedd, cafodd dau blentyn (3 oed) eu lladd ar ffermydd mewn digwyddiadau y gellid bod wedi'u hosgoi.

Dywedodd Adrian Hodkinson, Pennaeth Amaethyddiaeth Dros Dro yr HSE: "Dylem bob amser gadw ein bywyd gwaith ar wahân i fywyd y cartref ac ni ddylai ffermio fod yn wahanol i unrhyw swydd arall. Mae ffermydd yn llawn peryglon – cerbydau a pheiriannau eraill, anifeiliaid mawr, lagwnau dwfn, gwahanol gemegau a llwch peryglus – nid ydynt yn lle i blant, oni bai bod risg yn cael ei reoli'n ofalus iawn.
"Byddai achosi niwed i blentyn nid yn unig yn drychinebus i'r teulu, rhan o'r rheswm y mae'n rhaid i ni aros adref yn ystod pandemig y coronafeirws yw er mwyn amddiffyn y GIG ac osgoi gosod baich ychwanegol ar wasanaethau oherwydd anafiadau a phroblemau y gellir eu hosgoi. Dylai gwaith fferm stopio ar unwaith os bydd plentyn heb oruchwyliaeth yn ymddangos mewn unrhyw fan gwaith."

Mae gan yr HSE amrywiaeth o adnoddau a chanllawiau ar gael i helpu'r rhai sy'n gweithio ar ffermydd i reoli risgiau'n briodol. Ceir rhagor o wybodaeth am gadw plant yn ddiogel ar y fferm ar www.hse.gov.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites