Cyflwyniad Prosiect: Gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd oddi ar y borfa
Safle: Rhiwaedog, Rhos-y-Gwaliau, Bala, LL23 7EU
Swyddog Technegol: Gwawr Hughes
Teitl y prosiect: Gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd oddi ar y borfa
Cyflwyniad i’r prosiect:
Prif nod y prosiect hwn yw gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd oddi ar y borfa ar fferm fynydd. Gwneir hyn drwy asesu gwahanol agweddau o reolaeth glaswellt ar fferm Rhiwaedog, a’u haddasu fel bo’r angen yn ystod y prosiect i gynyddu cynhyrchiant oddi ar y borfa. Glaswellt yw’r porthiant rhataf sydd ar gael, a thrwy wneud y defnydd gorau ohono, gellir lleihau mewnbynnau’n sylweddol, gan arwain at fusnes fferm fwy proffidiol a chynaliadwy. Bydd yr elfennau dan sylw yn ystod y prosiect hwn yn cynnwys: potensial gwyndonnydd aml-rywogaeth, effeithiolrwydd gwasgaru gwrtaith nitrogen gydag atalyddion, opsiynau effeithiol ar gyfer ychwanegu calch (wedi’i falu’n fân neu ar ffurf pelenni) a hau meillion dros ben y porfeydd presennol.
Amcanion y prosiect:
- Cynyddu ansawdd y glaswelltir
- Cynyddu faint o laswellt sy’n cael ei dyfu
- Lleihau faint o ddwysfwyd a brynir
- Lleihau’r defnydd o wrtaith artiffisial
- Gwella iechyd y pridd
- Gwella’r defnydd o laswelltir
Prif Ddangosyddion Perfformiad a osodwyd:
- Sicrhau lleihad o 40% o leiaf yn y dwysfwyd a brynir
- Sicrhau cynnydd o 15% o leiaf mewn cynnyrch glaswellt
- Sicrhau cynnydd o 20% o ran meillion
- Cynyddu’r kg/ha a gynhyrchir