Cyflwyniad Prosiect: Gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd oddi ar y borfa

Safle: Rhiwaedog, Rhos-y-Gwaliau, Bala, LL23 7EU

Swyddog Technegol: Gwawr Hughes

Teitl y prosiect: Gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd oddi ar y borfa 

 

Cyflwyniad i’r prosiect: 

Prif nod y prosiect hwn yw gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd oddi ar y borfa ar fferm fynydd. Gwneir hyn drwy asesu gwahanol agweddau o reolaeth glaswellt ar fferm Rhiwaedog, a’u haddasu fel bo’r angen yn ystod y prosiect i gynyddu cynhyrchiant oddi ar y borfa. Glaswellt yw’r porthiant rhataf sydd ar gael, a thrwy wneud y defnydd gorau ohono, gellir lleihau mewnbynnau’n sylweddol, gan arwain at fusnes fferm fwy proffidiol a chynaliadwy. Bydd yr elfennau dan sylw yn ystod y prosiect hwn yn cynnwys: potensial gwyndonnydd aml-rywogaeth, effeithiolrwydd gwasgaru gwrtaith nitrogen gydag atalyddion, opsiynau effeithiol ar gyfer ychwanegu calch (wedi’i falu’n fân neu ar ffurf pelenni) a hau meillion dros ben y porfeydd presennol.

 

Amcanion y prosiect:

  • Cynyddu ansawdd y glaswelltir
  • Cynyddu faint o laswellt sy’n cael ei dyfu
  • Lleihau faint o ddwysfwyd a brynir 
  • Lleihau’r defnydd o wrtaith artiffisial
  • Gwella iechyd y pridd
  • Gwella’r defnydd o laswelltir

Prif Ddangosyddion Perfformiad a osodwyd:

  • Sicrhau lleihad o 40% o leiaf yn y dwysfwyd a brynir
  • Sicrhau cynnydd o 15% o leiaf mewn cynnyrch glaswellt
  • Sicrhau cynnydd o 20% o ran meillion
  • Cynyddu’r kg/ha a gynhyrchir