11 Mehefin 2020
Er y bydd llawer o ffermwyr yn croesawu tywydd poeth a sych wrth gynhyrchu eu silwair, daw heriau gwahanol yn sgil hynny. Pan fydd sychder, bydd yn rhaid i ni ganolbwyntio ar sicrhau y bydd ansawdd ein silwair yn uchel, gan dderbyn y bydd pwysau’r cnwd yn debygol o gael ei effeithio.
Cyn penderfynu torri’r borfa, bydd yn bwysig iawn archwilio’r glaswellt yn ofalus i weld i ba raddau y bydd wedi aeddfedu. Bydd unrhyw gnwd sydd o dan straen, gan gynnwys straen gwres a sychder, yn pontio’n gyflym iawn o’r cyfnod twf llystyfiannol i’r cyfnod atgynhyrchiol, yn enwedig pan fydd y tywydd yn boeth. Yn ystod y cam llystyfiannol, bydd y cnwd yn doreithiog a bydd y dail yn wyrdd, a bydd yn darparu llawer o egni a lefel uchel o dreuliadwyedd, a phrotein yn aml, pan gaiff ei dorri i gynhyrchu silwair. Yn ystod y cam atgynhyrchiol, bydd y cnwd yn goesog a bydd y planhigion yn hedeg, ni fydd y cnwd mor dreuliadwy a bydd lefelau’r egni a phrotein yn isel. Mae’r ail fath o silwair yn ddelfrydol ar gyfer gwartheg sych, ond mae anifeiliaid cynhyrchiol, gan gynnwys buchod godro, gwartheg bîff neu ddefaid, angen y math cyntaf. Yn ogystal, wrth i’r cnwd fynd o’r cam llystyfiannol i’r cam atgynhyrchu, bydd dau beth arall yn digwydd. Bydd angen mwy o amser i’r glaswellt aildyfu, felly bydd hynny’n effeithio ar bwysau blynyddol cnydau porthi fesul erw, ac wrth i’r cnwd gychwyn dirywio, bydd yn fwy agored i heintiau yn sgil micro-organebau niweidiol, yn enwedig burumau a llwydni, a bydd yn fwy tebygol o gynhyrchu silwair a fydd wedi llwydo a fydd yn ansefydlog o safbwynt aerobig erbyn yr adeg y caiff ei borthi i dda byw.
Ar ôl penderfynu torri’r borfa, cofiwch am reolau cynhyrchu silwair; gwasgarwch y cnwd a sicrhewch ei fod yn gwywo’n gyflym. Mantais fawr tywydd poeth yw’r ffaith y bydd angen llai o amser i wywo. Mae hynny’n golygu bod llai o faetholion a mas yn cael eu colli yn y cae, a gall gwerth maethol silwair fod yn uwch. Ond cofiwch ‘fod yn effro’ pan fydd y tywydd yn boeth, ac yn enwedig os bydd cyfanswm y cnwd yn llai oherwydd sychder, efallai bydd angen cyn lleied â 2-6 awr i wywo.
Felly, cofiwch wneud y canlynol:
- Cadwch lygad ar y cnwd i weld pa mor gyflym y bydd yn sychu.
- Trefnwch y contractwr cyn i chi dorri’r borfa i sicrhau y bydd yn barod i gychwyn pan fyddwch ei angen.
Er bod y tywydd yn dda, peidiwch â chynyddu eich targedau canran y deunydd sych (%DM). Nid yw silwair sy’n rhy sych yn ddelfrydol i’w gadw mewn cyflwr da. 30-32% yw’r canran deunydd sych delfrydol ar gyfer clamp a 35-45% sy’n ddelfrydol yn achos byrnau. Beth bynnag a wnewch chi, sicrhewch fod y silwair yn cael ei gywasgu’n dda, oherwydd mae pocedi o aer yn risg gwaeth o lawer yn achos silwair sych na silwair sy’n wlypach.
Bydd silwair sydd â chanran deunydd sych sy’n rhy uchel yn ei gwneud hi’n anodd i’r bacteria da sydd mewn asid lactig eplesu’r cnwd yn drylwyr. Bydd hefyd yn golygu y bydd llai o asid mewn byrnau pan fyddant yn cael eu hagor, felly bydd hi’n anoddach cynnal ansawdd byrnau wrth eu porthi i dda byw. Yn ychwanegol, pan fydd y tywydd yn boeth, bydd byrnau sydd â chanran deunydd sych uchel yn fwy tebygol o boethi yn ystod camau cyntaf eplesu yn sgil ynni gwres yr haul, oherwydd ceir llai o ddŵr yn y silwair nag yn achos byrnau sydd â chanran deunydd sych is. Gallwn ni gymharu hyn â berwi tegell; bydd llai o ddŵr yn golygu y gwnaiff y tegell ferwi’n gyflymach. Mae’r un peth yn wir yn achos silwair; i ryw raddau, bydd y dŵr yn amddiffyn y byrnau rhag gorboethi.
Ychwanegion silwair
Tua 30oC yw’r tymheredd delfrydol ar gyfer ychwanegion silwair. Pan fydd tymheredd ychwanegion yn fwy na 38oC, bydd llawer ohonynt yn dechrau marw, a bydd hyd yn oed y mathau a all dyfu pan fydd y tymereddau’n uwch yn methu tyfu’n dda pan fyddant yn uwch na 42oC. Fodd bynnag, bydd yr Enterobacteria digroeso yn fodlon iawn eu byd pan fydd y tymheredd yn 39oC a bydd y Clostridia hyd yn oed yn fodlon ar dymheredd o 45oC, felly gall tymereddau cynhesach gynnig amgylchedd sy’n ffafrio’r eplesu digroeso. Dyna un rheswm dros beidio rhagori ar darged o ran canran deunydd sych y cynnwys. Os byddwch chi’n prynu ychwanegion silwair, peidiwch â’u gadael yn eich cerbyd ar ddiwrnod cynnes. Os bydd y tymheredd yn eich car yn 60oC am 30 munud, byddwch chi wedi lladd 50% o’r bacteria yn eich ychwanegion; ychydig wedi hynny, bydd pob un ohonynt wedi marw. Mae’r un peth yn wir yn achos y chwistrellydd ar y byrnwr neu’r cynaeafwr porthiant; cofiwch sicrhau ei fod yn ddigon pell oddi wrth ffynonellau gwres. Os mae’n agored i olau’r haul, ystyriwch sut gallwch chi ei amddiffyn.
Mae’r ysbeidiau heulog di-baid yn herio cnydau grawn, hyd yn oed yn gynnar yn y tymor fel hyn. Nid oes gan lawer o ffermydd da byw adnoddau i ddyfrhau eu tir, felly mae’n debygol na wnaiff y cnydau hyn gyflawni’r targedau arfaethedig o ran cyfanswm ac ansawdd. Yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd o ran cyfanswm cnydau silwair glaswellt a heriau i gnydau grawn, buaswn i’n eich cynghori i asesu’r cnydau grawn yn rheolaidd. Os gwelwch chi arwyddion fod y cnwd yn marw, cynaeafwch yn syth, gan adael i’r cnwd wywo cyn lleied ag y bo modd, a silweiriwch y cnwd yn union fel y byddech chi’n ei wneud yn achos glaswellt. Os gwnewch chi gynaeafu pan welwch chi’r arwyddion cyntaf fod y cnwd yn marw, fe gewch chi ansawdd uchel o safbwynt protein crai a threuliadwyedd (ac yn sgil hynny, ME). Efallai bydd pwysau’r cnwd yn wael, ond fe wnaiff y cynhaeaf cynnar sicrhau ansawdd gwell i chi. Os gwnewch chi ddisgwyl i weld a ddaw’r glaw a mentro gadael i’r cnwd farw yn y cae, bydd hynny’n effeithio ar yr ansawdd ac yn lleihau pwysau’r cnwd, a bydd risgiau gwenwynau ffwng yn cynyddu. Yn ogystal, bydd torri’n gynnar yn rhoi cyfle i’r cnwd aildyfu a chynhyrchu ail gynhaeaf os daw glaw. Neu gallwch chi fynd ati i ddyfrhau, hyd yn oed os byddwch chi’n defnyddio tancer slyri i wneud hyn. Yr ateb yw addasu yn unol â’r amgylchiadau.
Pob lwc!
Dave Davies, Silage Solutions Ltd