Diweddariad Prosiect (Ebrill 2020) - Cefnllan: Rheoli'r newid; buchod sugno i gig eidion o'r fuches odro
Pwyswyd 36 o loi Angus a'u troi allan i bori, ac roeddent yn pwyso 260 cilogram ar gyfartaledd.
Gosodwyd ffens trydan tua 1 rhan o 3 o'r ffordd i mewn i'r cae lle y rhoddwyd y lloi i bori, er mwyn dechrau cyflwyno ffens trydan iddynt. Prynwyd y lloi hyn, 36 ohonynt, llynedd, fel prawf cyn i 100 o loi eraill gyrraedd y fferm ymhen ychydig wythnosau.
Cyrhaeddodd 100 o loi croesfrid Angus diddwyn Cefnllan ddiwedd fis Ebrill 2020, ac roeddent yn pwyso 140 cilogram ar gyfartaledd. Rhoddwyd tag electronig ar y lloi ar ôl iddynt gyrraedd Cefnllan, er mwyn sicrhau gwaith monitro manwl o bob llo unigol wrth eu pwyso bob mis.
Y newydd-ddyfodiaid yng Nghefnllan (fideo yn dangos lloi yn rhedeg ar draws pont).
Defnyddir meddalwedd megis AgriNet, Farmax a FarmIT er mwyn sicrhau y caiff yr holl ddata gesglir (cyfraddau tyfiant, mesuriadau porfa ac ati) eu cofnodi a'u defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon. Mae'r lloi wedi mynd i'r platfform pori mewn cylchdro newydd a sefydlwyd trwy'r prosiect. Mae Neil yn mesur holl orchudd y fferm bob pythefnos, a'r gorchudd cyfartalog ar gyfer y fferm gyfan ar 19 Mai oedd 1741kgDM/Ha. Mae'r diffyg porfa o ganlyniad i'r diffyg glaw a lleithder yn y pridd a welwyd yn ddiweddar, felly rydym yn croesi bysedd am rywfaint o law cyn bo hir.
Fideo – is-raniad caeau yng Nghefnllan ar gyfer pori lloi mewn cylchdro.
Camau nesaf?
- Pwyso lloi bob mis er mwyn monitro'r enillion dyddiol mewn pwysau byw (DLWG).
- Mesur holl orchudd y fferm ar draws y fferm bob pythefnos er mwyn sicrhau y defnyddir porfa yn y ffordd orau ar hyd y platfform pori mewn cylchdro.