Diweddariad Prosiect (Ebrill 2020) - Cefnllan: Rheoli'r newid; buchod sugno i gig eidion o'r fuches odro

Pwyswyd 36 o loi Angus a'u troi allan i bori, ac roeddent yn pwyso 260 cilogram ar gyfartaledd. 

 

 

 

Gosodwyd ffens trydan tua 1 rhan o 3 o'r ffordd i mewn i'r cae lle y rhoddwyd y lloi i bori, er mwyn dechrau cyflwyno ffens trydan iddynt.  Prynwyd y lloi hyn, 36 ohonynt, llynedd, fel prawf cyn i 100 o loi eraill gyrraedd y fferm ymhen ychydig wythnosau.

 

Cyrhaeddodd 100 o loi croesfrid Angus diddwyn Cefnllan ddiwedd fis Ebrill 2020, ac roeddent yn pwyso 140 cilogram ar gyfartaledd.  Rhoddwyd tag electronig ar y lloi ar ôl iddynt gyrraedd Cefnllan, er mwyn sicrhau gwaith monitro manwl o bob llo unigol wrth eu pwyso bob mis.

 

Y newydd-ddyfodiaid yng Nghefnllan (fideo yn dangos lloi yn rhedeg ar draws pont).

 

 

Defnyddir meddalwedd megis AgriNet, Farmax a FarmIT er mwyn sicrhau y caiff yr holl ddata gesglir (cyfraddau tyfiant, mesuriadau porfa ac ati) eu cofnodi a'u defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon.  Mae'r lloi wedi mynd i'r platfform pori mewn cylchdro newydd a sefydlwyd trwy'r prosiect.  Mae Neil yn mesur holl orchudd y fferm bob pythefnos, a'r gorchudd cyfartalog ar gyfer y fferm gyfan ar 19 Mai oedd 1741kgDM/Ha.  Mae'r diffyg porfa o ganlyniad i'r diffyg glaw a lleithder yn y pridd a welwyd yn ddiweddar, felly rydym yn croesi bysedd am rywfaint o law cyn bo hir.

 

Fideo – is-raniad caeau yng Nghefnllan ar gyfer pori lloi mewn cylchdro.

 

 

Camau nesaf?

  • Pwyso lloi bob mis er mwyn monitro'r enillion dyddiol mewn pwysau byw (DLWG).
  • Mesur holl orchudd y fferm ar draws y fferm bob pythefnos er mwyn sicrhau y defnyddir porfa yn y ffordd orau ar hyd y platfform pori mewn cylchdro.