26 Mehefin 2020

 

Mae ffermwr o Gymru sy’n cynhyrchu cig oen yn anelu at gynnydd cyfartalog o 300g/dydd mewn pwysau byw dyddiol (DLWG) drwy gynnwys ysgall y meirch yn ei system pori cylchdro.

Mae Hugh Jones yn cadw diadell gaeedig o 350 o famogiaid ar Fferm Pentre, safle arddangos Cyswllt Ffermio ym Mhentrecelyn, Rhuthun.

Mae ei waith prosiect gyda Cyswllt Ffermio yn cynnwys gwerthuso pa mor effeithiol yw ysgall y meirch mewn systemau defaid ar ffermydd Cymru.

Defnyddir ysgall y meirch yn helaeth mewn systemau pori yn Seland Newydd ac mae'n dod yn fwy poblogaidd yn y DU wrth i fwy o sylw gael ei roi i systemau pori dwys.

Mae Mr Jones yn tyfu 1.76 hectar (ha) o gymysgedd glaswellt safonol gyda ysgall y meirch ynddo a 1.82 hectar o gymysgedd glaswellt safonol.

Bydd dau grŵp o 100 o ŵyn wedi'u diddyfnu yn cael eu pesgi ar y borfa yma ar system pori cylchdro.

Trwy ddefnyddio’r borfa i gynyddu DLWG yr ŵyn, mae Mr Jones yn gobeithio lleihau costau cynhyrchu drwy ddibynnu llai ar ddwysfwydydd neu borthiant arall a brynir.

"Rydym yn tyfu mwy o borfa o ganlyniad i’r system gylchdro a ddefnyddir ar gyfer y defaid a’r gwartheg a nawr rydym am ganolbwyntio ar ansawdd y borfa honno er mwyn gallu pesgi mwy o ŵyn cyn yr Hydref,” meddai.

Mae ysgall y meirch yn gallu gwrthsefyll lefel uchel o sychder gan fod ganddo brif wreiddyn mawr sy’n gwreiddio’n ddwfn, ac mae wedi profi ei fod yn lleihau effaith parasitiaid mewnol.

Mae gwndwn amlrywogaeth hefyd yn gwella ansawdd y pridd ac yn dal a storio carbon oherwydd y patrymau gwreiddio gwahanol, gan greu sianeli dŵr ac aer a gwella deunydd organig y pridd.

Dywed Gwion Parry, Swyddog Technegol Cig Coch Gogledd Cymru ar ran Cyswllt Ffermio, sy'n goruchwylio'r prosiect, fod gwndwn cymysg hefyd yn gwella bioamrywiaeth ar y fferm.

Gallai hefyd ymestyn y cyfnod pori, meddai.

"Gan fod tymor tyfu annibynadwy ar Fferm Pentre, gallai cyflwyno rhywogaeth arall o blanhigyn ymestyn y cyfnod pori, yn enwedig os cawn ni haf sych arall gan y bydd ysgall y meirch yn  ffynnu yn yr amgylchiadau yma,” meddai.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Astudiaeth Cyswllt Ffermio yn taflu goleuni newydd ar statws iechyd y pridd mewn caeau tir âr
03 Mawrth 2026 Mae nifer o gaeau sy'n cael eu ffermio mewn
Mae profion genomig yn datgloi potensial llawn buches groesfrid yng Nghymru
26 Chwefror 2026 Mae profi heffrod croesfrid a buchod sy’n
Da i’r blaned, i’r da byw ac i’r busnes
Mae’r ffermwr pedwaredd genhedlaeth, Dylan Jones, yn glir nad oes