Hugh Jones

Fferm Pentre, Pentrecelyn, Rhuthun, Sir Ddinbych

 

Meysydd allweddol yr hoffech chi ganolbwyntio arnyn nhw fel ffermwr arddangos?

Gwella ansawdd y glaswellt drwy bori cylchdro: rydym yn tyfu mwy o laswellt drwy bori defaid a gwartheg ar system gylchdro ac rydym yn awr am ganolbwyntio ar ansawdd y glaswellt er mwyn cael pesgi mwy o ŵyn cyn yr hydref a lleihau’n dibyniaeth ar brynu bwyd yn y fenter gwartheg.

Ystyried ffrydiau incwm o goetir: rydym wedi plannu coed ac wedi creu llawer o wrychoedd drwy gynlluniau grant ac mi hoffem ystyried opsiynau ar gyfer y coetiroedd yma.

Ymchwilio i’r cyfleoedd i fanteisio ar ddal carbon: un diwrnod fe allai dal carbon fod yn un o’r gofynion o ran sicrwydd fferm felly os gallen ni gynnwys hyn ar ein labeli ni, mi allai hynny helpu i ychwanegu gwerth.

Ffeithiau Fferm Pentre

Huw Jones 4 0

“Allwn ni ddim disgwyl i bethau aros yr un fath mewn ffermio yn y dyfodol, mae’n rhaid i ni feddwl yn greadigol ac mae hynny’n gallu dod drwy ddysgu gan bobl eraill. Rydw i’n edrych ymlaen at glywed barn onest y bobl fydd yn dod i'n diwrnod agored a dysgu o'r profiad hwnnw.’’

– Hugh Jones.

 

Farming Connect Technical Officer:
Non Williams
Technical Officer Phone
07960 261226
/
Technical Officer Email

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Dolygarn
James Powell Dolygarn, Llanbadarn Fynydd, Llandrindod Wells
Bryn
Huw a Meinir Jones Bryn, Ferwig, Aberteifi Meysydd allweddol yr
Marian Mawr
Aled Morris Marian Mawr, Dyserth, Rhyl Prif Amcanion Gwella