12 Ionawr 2023

 

Mae fferm ddefaid yn Sir Ddinbych wedi haneru nifer yr achosion o fwrw’r llawes goch adeg ŵyna drwy fynd i'r afael â ffactorau risg hysbys mewn mamogiaid beichiog.

Roedd bwrw’r llawes goch yn un o’r heriau mwyaf yn y ddiadell gaeedig o 350 o ddefaid Lleyn pedigri a Suffolk x Lleyn a redwyd gan Hugh Jones a’i fam, Glenys, ar Fferm Pentre, Pentrecelyn. Roedd 32 o achosion yn 2020.

Trwy eu gwaith fel Safle Arddangos Cyswllt Ffermio, maent wedi bod yn gweithio gyda’r ymgynghorydd milfeddygol Fiona Lovatt i leihau’r nifer hwnnw.

Mae eu hymdrechion wedi talu ar ei ganfed: yn ystod tymor ŵyna 2022, roedd nifer yr achosion wedi gostwng i 14, ac mae gwaith yn parhau i leihau’r nifer hwnnw ymhellach.

Yn ystod diwrnod agored Cyswllt Ffermio diweddar ar Fferm Pentre, dywedodd Dr Lovatt fod nifer o ffactorau sy’n rhoi mamogiaid mewn perygl o fwrw’r llawes goch – gan gynnwys gor-gyflyru yn ystod beichiogrwydd cynnar, geneteg, a thocio cynffonnau’n fyr, sy’n gwanhau gewynnau.

Gall rhedeg mamogiaid beichiog ar dir serth hefyd eu rhoi mewn perygl, yn ogystal â'r cydbwysedd anghywir o fwynau yn y diet ar ddiwedd beichiogrwydd.

“Does dim un peth penodol yn gyfrifol, a dyna pam rydyn ni wedi bod trwy bopeth gyda chrib mân,” meddai Dr Lovatt, o Flock Health Ltd.

“Mae bwrw’r llawes goch yn benodol iawn i’r ddiadell a mamogiaid sy'n cario gefeilliaid a thripledi sy'n wynebu'r perygl mwyaf, oherwydd eu bod yn cario llwyth trwm o ŵyn.''

Cafodd sgôr cyflwr corff a phwysau mamogiaid eu monitro a'u dadansoddi adeg diddyfnu, cyn hyrdda, sganio (diwedd Ionawr), yn ystod brechu (ddiwedd Chwefror), ac adeg wyna.

Gall geneteg chwarae ffactor, gyda rhai teuluoedd o famogiaid yn fwy tebygol o fwrw’r llawes goch nag eraill.

Pwysleisiodd Dr Lovatt bwysigrwydd cadw cofnodion da er mwyn osgoi cadw ŵyn benyw o famau sydd wedi bwrw’r llawes goch.

“Yn y rhan fwyaf o ddiadelloedd, mae mamogiaid sydd wedi’u gor-gyflyru yn ystod eu beichiogrwydd yn fwy tebygol o fwrw’r llawes goch,” meddai.

“Roedden ni'n cadw llygad barcud ar gyflwr corff diadell Pentre, ac yn anarferol, fe wnaethon ni ddarganfod nad y mamogiaid tewach oedd yn bwrw’r llawes goch – roedd rhywbeth arall yn digwydd.''

Dadansoddwyd cyfansoddiad maethol y deiet trwy feichiogrwydd a llaethiad, a chynhaliwyd archwiliad mwynau llawn, gan gofnodi’r holl fewnbynnau mwynol yn fanwl – o bori, porthiant, atchwanegiadau, cyflenwad dŵr a thriniaethau – i nodi cyfanswm y cyflenwad ac i gael arwydd o orgyflenwad, tangyflenwad a mannau gwan.

“Nid mater syml yn unig ydyw o 'wneud yr un peth hwn, a bydd yn datrys y broblem'. Gyda mamogiaid sy'n bwrw’r llawes goch, mae'n rhaid ichi ystyried ychydig o wahanol feysydd,'' meddai Dr Lovatt.

Helpodd y data hyn i lywio newidiadau yn Fferm Pentre.

Mae mamogiaid beichiog bellach yn cael eu hannog i fwyta gwair ochr yn ochr â glaswellt i gynyddu cymeriant ffeibr, i greu amgylchedd rwmen da a gwella amseroedd cludo yn y perfedd. 

Pan fydd dwysfwydydd yn cael eu bwydo i'r mamogiaid ar dir bryniog, maen nhw'n cael eu gosod ar ben y bryn, i annog mamogiaid i gerdded i fyny i wella eu ffitrwydd. 

Mae blociau halen hefyd wedi'u cyflwyno, gan fod y dadansoddiad yn dangos lefelau uchel o botasiwm.

“Rydym yn gobeithio y bydd cymeriant halen yn helpu i ail-gydbwyso'r gymhareb rhwng sodiwm a photasiwm,'' meddai Dr Lovatt.

Os caiff slyri neu wrtaith potash ei wasgaru yn gynnar yn y flwyddyn, gall arwain at lefelau uchel o botasiwm, a all roi pwysau ar gyflenwad magnesiwm i'r mamogiaid sy’n pori ar laswellt.

Mae newidiadau hefyd wedi’u gwneud ar gyfer y dyfodol, gyda sylw gofalus ar amser tocio i sicrhau bod cynffonau ŵyn benyw yn cael eu cadw’n ddigon hir i orchuddio’r fwlfa’n hawdd.

Mae mastitis wedi bod yn her arall yn niadell Mr Jones; aethpwyd i'r afael â hyn hefyd drwy waith prosiect Cyswllt Ffermio.

Mae mamogiaid mewn perygl o gael mastitis pan na fydd cyflenwad a galw am laeth yn cyfateb; mae gan gydffurfiad a siâp cadair a theth rôl i'w chwarae hefyd.

“Mae'n bwysig dewis ŵyn benyw gyda'r gadair berffaith a thethau ar ongl 'ugain munud i bedwar' ar wyneb cloc,'' meddai Dr Lovatt.

“Nid yw'n ateb cyflym, ond yn ystyriaeth bwysig wrth symud ymlaen.''

Cymerwyd samplau llaeth yn 2021 i nodi’r organebau sy’n achosi mastitis, a dangoswyd mai Staph aureus oedd y prif achos. Mae’n bosibl brechu yn erbyn y clefyd hwn, ond nid oedd hyn o reidrwydd yn cael ei ystyried yn gost-effeithiol ar gyfer y ddiadell hon.  

Rhoddwyd sylw gofalus i faethiad mamogiaid ac iechyd a hylendid, yn ogystal â rheoli diddyfnu. O ganlyniad, yn 2022, gostyngodd nifer yr achosion o naw i ddau.

“Mae’n dal i fod yn waith ar fynd. Mae angen troi pob carreg, ond rydym yn symud i'r cyfeiriad cywir,'' meddai Dr Lovatt.

 

FFEITHIAU FFERM

Yn berchen ar 49ha ac yn rhentu 28ha o dir

Hyrddod Lleyn pur a ddefnyddir ar hanner diadell Lleyn i fridio anifeiliaid cyfnewid; mamogiaid sy'n weddill a mamogiaid Suffolk x Lleyn wedi'u paru â defaid Suffolk a fagwyd yn Seland Newydd 

Ŵyn yn cael eu bwydo â phorfa - dim ond ychydig o ddwysfwyd a roddir i’r rhai sy’n gorffen yn hwyr yn y gaeaf

Gwerthu ŵyn a mamogiaid difa ym marchnad dda byw yr Wyddgrug o ddiwedd mis Mai

Lloi tarw cig eidion Aberdeen Angus a brynwyd o Buitelaar ac a werthwyd i Dawn Meats ar ôl eu pesgi

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o