1 Tachwedd 2022

 

Mae addasu siediau a chymeriant porthiant o amgylch diddyfnu wedi helpu ffermwr o Gymru sy'n magu lloi i leihau'r achosion o niwmonia yn sylweddol.

Mae Hugh Jones a'i fam, Glenys, sy'n ffermio yn Fferm Pentre, Pentrecelyn, yn prynu lloi gwryw Aberdeen Angus o Buitelaar ar gyfartaledd o 36 diwrnod, pan maen nhw'n pwyso 65-85kg.

Roedd niwmonia wedi bod yn broblem fawr, gan effeithio ar tua hanner yr holl loi; effeithiodd hyn ar dwf ac, o ganlyniad, ar broffidioldeb.

Trwy eu gwaith fel Safle Arddangos Cyswllt Ffermio, mae’r teulu Jones wedi bod yn gweithio gyda’r arbenigwr milfeddygol buchol Owen Atkinson, o Dairy Veterinary Consultancy, i ddatrys y mater hwn.

Drwy gyflwyno newidiadau sy’n canolbwyntio ar gynhesrwydd, bwydo a datblygiad y rwmen, bu gwelliant mawr, gydag achosion niwmonia yn gostwng i tua 10%.

Gydag arweiniad Mr Atkinson a'r arbenigwr siediau Jamie Robertson, mae newidiadau wedi'u gwneud i'r sied fagu cyn diddyfnu yn Fferm Pentre, er mwyn cadw'r amgylchedd mor sych a chynnes â phosib.

Mae haen ddwbl o fyrddau Efrog wedi disodli waliau solet ar ddwy ochr y sied sydd ag wyneb agored, i roi'r amddiffyniad mwyaf posibl i loi rhag drafftiau –cam a gostiodd tua £400; bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i ddisodli'r drydedd wal hefyd.

Mae offer dal dŵr sy’n llenwi eu hunain sy'n costio £850 wedi'u hail-leoli ac wedi cymryd lle cafnau dŵr, er mwyn atal lleithder rhag gollwng ar wasarn gwellt.

Mae silff 0.75m o led wedi’i gwneud o haearn bocs 40mm a dalennau ‘stockblock’ plastig wedi’i ailgylchu wedi’u gosod yn erbyn hyd gyfan cefn y sied i loi swatio oddi tani er mwyn osgoi unrhyw ddrafft oer.

Mae sianel 150mm wedi'i chreu o flaen y sied hefyd, i ganiatáu i leithder ddraenio i mewn iddi o'r graddiant 5° yn y llawr concrit.

Mae gosod gwasarn yn amlach gyda gwellt ar flaen y sied yn fesur pellach i gadw'r corlannau yn lân ac yn sych.

Yn ystod diwrnod agored Cyswllt Ffermio yn Fferm Pentre yn ddiweddar, dywedodd Mr Atkinson fod blaen agored y sied yn darparu awyriad – nid yw awyru'r to i fanteisio ar yr effaith stacio yn berthnasol i loi ifanc.

“Nid yw lloi yn cynhyrchu digon o wres nes eu bod yn bump neu chwe mis oed i’r effaith stacio weithio,’’ meddai.

Mae angen i sied fod yn gynhesach ar y tu mewn na'r tu allan i sbarduno'r effaith stacio; gydag anifeiliaid mwy, byddai hyn yn cael ei yrru gan aer cynhesach o wres eu corff yn gadael allfa yn y to, gan greu pwysau negyddol sy'n tynnu awyr iach i mewn o'r tu allan, yn debyg i simnai.

Dewisiadau eraill yw sied gydag wyneb agored i ganiatáu i lifau gwynt ac aer arferol yrru awyr iach i mewn, neu osod tiwb awyru. Gellir defnyddio bomiau mwg i ganfod drafftiau a llif aer.

“Rheol gyffredinol yw y dylai’r mwg o beled mwg safonol gael ei glirio o sied o fewn tua munud,” meddai Mr Atkinson.

Defnyddir synhwyrydd LoRaWAN nos a dydd i fonitro tymheredd, lleithder a golau i fesur a oes angen cotiau lloi i leihau straen oerfel.

Mae'r strategaeth fwydo ynghylch diddyfnu wedi newid ar Fferm Pentre.

Dywedodd Mr Atkinson fod polisi diddyfnu fesul cam, sy’n lleihau cymeriant powdr llaeth dair wythnos cyn diddyfnu, yn annog lloi i fwyta mwy o ddwysfwydydd, gan leihau’r risg o ‘fol gwair’ ar ôl diddyfnu.

Mae lloi bellach yn derbyn 375g o bowdr llaeth, wedi'i wanhau i dri litr, unwaith y dydd ar y pwynt tair wythnos hwnnw, yn lle'r swm hwnnw ddwywaith y dydd, ac yn parhau i gael cynnig dwysfwyd ad-lib a dŵr ffres.

Caiff lloi eu diddyfnu pan fyddant tua naw wythnos oed, ac ar yr adeg honno maent yn bwyta 2kg o ddwysfwyd y pen y dydd yn gyfforddus.

Dywed Mr Jones fod y newidiadau wedi gwneud gwahaniaeth mawr i iechyd lloi, gyda dim marwolaethau ers iddyn nhw gael eu rhoi yn eu lle.

“Mae wir wedi gwneud magu lloi yn bleserus eto,’’ meddai.

Y gaeaf hwn, mae'n bwriadu gwneud mwy o newidiadau i'r sied, trwy insiwleiddio'r to.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut gwnaeth sicrhau mentor rymuso tyddynwyr gydag arweiniad a gwybodaeth
27 Mawrth 2024 Fel recriwtiaid newydd i amaeth-goedwigaeth a
Fferm Laeth Cwmcowddu yn Gwella Effeithlonrwydd Porthiant, gan Hybu Proffidioldeb a Chynaliadwyedd
25 Mawrth 2024 Mae Cwmcowddu, fferm gymysg yn Llangadog yng
Gall cyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio helpu i gyflawni datblygiad personol a chryfhau arferion fferm
21 Mawrth 2024 Enillodd Julie Davies, sy’n bartner gweithredol yn