Ymunwch â Cyswllt Ffermio a Jeremy Bowen Rees, Lansker i glywed pa effaith all Cofid-19 gael ar arallgyfeirio ar y fferm yng Nghymru.
Beth gall fod yr effaith ar Cofid 19 ar ffermydd arallgyfeirio yng Nghymru? Mae Cofid-19 wedi newid bywydau pawb. Mae'r weminar yma yn trafod beth sydd yn debygol o ddigwydd, beth all ddigwydd a beth na all ddigwydd. Mae’r darlun o fywyd ar ôl Cofid-19 yn aneglur ond mae rhai tueddiadau newydd ac ymddygiad defnyddwyr a masnachwyr yn dod i’r amlwg yn barod. Bydd sut mae ffermwyr yn ymateb i’r heriau a’r cyfloedd hyn yn penderfynu pwy fydd yn ffynnu neu bwy fydd mewn perygl. Y nod allweddol yw hysbysu ffermwyr o'r opsiynau arallgyfeirio posibl sydd ar gael a sut y gallant elwa ohonynt.