23 Medi 2020

 

Mae Arfon James yn godro 100 o fuchod Friesian Prydeinig ar ôl sicrhau Tenantiaeth Busnes Fferm (FBT) gyda David Brooke. Fel rhan o’r cytundeb manteisiodd ar gynllun busnes wedi’i ariannu’n llawn drwy raglen Mentro Cyswllt Ffermio.

Daeth y ddau at ei gilydd pan oedd Arfon yn ennill ei fywoliaeth drwy odro ar dair fferm laeth tra bod David yn ystyried lleihau ei ymrwymiadau ffermio ar fferm Tanycoed, fferm 160 erw, ger pentref Pentrecwrt yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd ar fin cael gwared ar ei fuches odro. "Roedd Arfon wedi clywed bod y gwartheg yn cael eu hysbysebu a’u bod ar werth a mentrodd i’r iard un diwrnod, gan ofyn a allai brynu'r gwartheg a rhentu'r tir,'' meddai David.

"Roeddwn i'n credu y gallai weithio gan fy mod i'n adnabod Arfon a dydw i erioed wedi bod ofn mentro.''

Er mwyn helpu i lywio'r broses, gofynnodd David am gyngor un-i-un mewn cymhorthfa fusnes Cyswllt Ffermio wedi ei chyllido’n llawn.

Cafodd ei gyfeirio at raglen Mentro, gwasanaeth paru sy'n paru newydd-ddyfodiaid â pherchnogion tir sy'n ystyried cymryd cam yn ôl o'r diwydiant.

Sicrhaodd David ac Arfon £1,500 o gyllid yr un ar gyfer cynllunio busnes.

Treialwyd y cynllun am flwyddyn gan ddechrau ym mis Hydref 2018 a sefydlwyd Tenantiaeth Busnes Fferm am bum mlynedd yn 2019. 

Erbyn hyn, bron i flwyddyn yn ddiweddarach, mae'r cynllun yn cyflawni'r hyn yr oedd y ddwy ochr wedi gobeithio amdano.

Mae gan David fwy o amser rhydd i wneud ei waith gwirfoddol, gan gynnwys yn yr elusen wledig Tir Dewi, tra bod Arfon wedi mwy na dyblu'r arwynebedd tir y mae bellach yn ei ffermio i 400 erw.

Mae Arfon yn briod ag Emma, sy'n swyddog gweinyddol yn yr ysgol gynradd leol, ac mae gan y ddau ohonynt dri o blant. Fel mab i ffermwr, roedd bob amser wedi gobeithio ffermio yn ei le ei hun ac erbyn hyn mae'n gwneud hynny yn yr ardal lle mae wedi byw a gweithio erioed.

Mae eisoes yn rhoi ei stamp ei hun ar y fferm, gan sefydlu system pori padogau i sicrhau bod y fuches sy’n lloia yn yr hydref yn cynhyrchu cymaint â phosibl o laeth o laswellt.

Mae lefelau cynhyrchu llaeth blynyddol yn 5,500 litr ar gyfartaledd, 3.98% yn fenyn a 3.43% yn brotein.

Mae gwartheg yn pori yn bennaf rhwng 1 Mawrth a chanol mis Hydref os bydd y tywydd yn caniatáu, gyda’r cyfnod lloia'n dechrau ar 1 Awst.  

Mae'n parhau i redeg y fferm ar system organig, gan gyflenwi'r llaeth i OMSCo.

Mae Arfon wedi manteisio ar y cyfle i rentu mwy o dir wrth i nifer y buchod gynyddu ac, yn ogystal â'r fenter laeth, mae'n magu ac yn gorffen lloi bîff British Blue o'r fuches laeth.

Roedd David wedi bod yn ffermio yn fferm Tanycoed ers 18 mlynedd. Dechreuodd ffermio ar fân-ddaliad Cyngor Sir Henffordd a Chyngor Sir Caerwrangon cyn symud i orllewin Cymru 27 mlynedd yn ôl.

Bellach ac yntau’n 62 oed, dywed mai dyma'r adeg iawn i gamu'n ôl o ofynion ffermio llaeth o ddydd i ddydd. Mae ganddo bedwar o blant ond mae gan bob un ohonynt yrfaoedd mewn diwydiannau eraill.

"Mae llawer o ffermwyr yn cyrraedd oedran penodol ac yn methu â gwybod beth i'w wneud â'r fferm. Mae ffermio wedi bod yn dda iawn wrtha i ac roeddwn i'n meddwl beth am roi'r cyfle i rywun arall sydd am fentro,'' meddai David.

Dim ond un amod oedd pan gynigiodd y cyfle hwnnw i Arfon. "Roeddwn i eisiau godro unwaith y dydd am y flwyddyn gyntaf.''

Yn naturiol, roedd cynnig pâr ychwanegol o ddwylo i helpu gyda'r gwaith godro yn amod yr oedd Arfon ond yn fwy na pharod i’w dderbyn.

David sy'n godro'r bore sy'n rhyddhau Arfon i wneud gwaith arall ar y fferm.

Yn ôl y ddau ohonynt, mae’r gefnogaeth a gawsant drwy Mentro wedi helpu i symleiddio'r broses o sefydlu'r cytundeb newydd.

"Roedd y cymorth ariannol a gawsom ar gyfer y cynllun busnes yn dderbyniol iawn,'' meddai Arfon.

Mae'n optimistaidd ynglŷn â dyfodol ffermio llaeth ac mae David yn hyderus y bydd yn llwyddo yn y diwydiant, yn wir mae’r arian y mae wedi’i fenthyg i Arfon yn brawf o hynny. 

Ar ddiwedd pum mlynedd y Denantiaeth Busnes Fferm, efallai y bydd cyfle hyd yn oed i fynd â'u cytundeb i'r lefel nesaf, meddai – os yw Arfon yn hel digon o gyfalaf, efallai y caiff y cyfle i brynu'r fferm.

Mae rhaglen Mentro Cyswllt Ffermio yn unigryw i Gymru. Gall unrhyw un yng Nghymru sydd â diddordeb mewn darganfod sut i gymryd rhan glicio yma neu ffoniwch 08456 000 813. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter
Ffermwr yn cael y gorau o’i gnydau gyda chymorth cwrs agronomeg wedi’i gefnogi gan Cyswllt Ffermio
29 Awst 2024 Gall poblogaethau chwyn, plâu a chlefydau effeithio