22 Medi 2020

 

Bydd yr argymhellion yn adroddiad Iaith y Pridd, a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Cyswllt Ffermio, yn cael eu rhannu â Llywodraeth Cymru a'u hystyried fel rhan o'r cynigion ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd Llywodraeth Cymru. 

Bydd y cynllun newydd yn helpu i gefnogi gwydnwch hirdymor cymunedau Cymraeg gwledig drwy sicrhau y gellir parhau i ffermio'r tir yn gynaliadwy yn y dyfodol.

Heddiw, dywedodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr gwasanaethau gwledig Menter a Busnes, sydd, ynghyd â Lantra Cymru, yn darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig,

"Mae adroddiad 'Iaith y Pridd' yn cynnwys rhai o'r mesurau a allai helpu'r gymuned amaethyddol yng Nghymru i gyfrannu tuag at strategaeth iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr."

Dywedodd Mrs Williams fod tystiolaeth ar lawr gwlad yn cael ei chasglu gan siaradwyr Cymraeg a'r di-Gymraeg o ardaloedd gwledig ledled Cymru. 

"Ein nod oedd cynnwys cynifer o unigolion a theuluoedd sy'n byw, yn gweithio ac yn astudio mewn ardaloedd gwledig â phosibl gan ei bod yn ffaith gydnabyddedig bod ffermydd teuluol yn rhan bwysig o gymdeithas a diwylliant Cymru, a dyna pam mae angen eu diogelu.

"Gofynnwyd i bawb beth roedden nhw'n ei wneud ar lefel bersonol i gefnogi'r Gymraeg ac am eu barn ynglŷn â gweithgareddau a chyfleoedd Cymraeg sy'n digwydd yn eu cymunedau." 

Roedd yr ymchwil yn cynnwys ffermwyr a choedwigwyr oedd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio yn ogystal â chynrychiolwyr o rai o'r prif sefydliadau rhanddeiliaid amaethyddol yng Nghymru gan gynnwys Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Undeb Amaethwyr Cymru, CFfI Cymru a'r colegau amaethyddol.   

"Cafodd pob unigolyn gyfle i leisio'i farn, i ateb cwestiynau'n onest ac yn agored ac mewn llawer o achosion yn gyfrinachol. Mae wedi bod yn brosiect casglu gwybodaeth gwerthfawr iawn," meddai Mrs Williams. 

Sicrhawyd y canfyddiadau drwy nifer o ddulliau ymchwil, yn amrywio o holiadur ar-lein i gyfarfodydd wyneb yn wyneb, mynychu sioeau amaethyddol, grwpiau ffocws wedi'u hwyluso a 'bwth amaeth' a sefydlwyd yn Sioe Frenhinol Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru y llynedd. Canolbwyntiodd yr arolwg ar weithgareddau sy'n cefnogi ffermydd, yr amgylchedd a chymunedau gwledig sydd i gyd â rôl bwysig i ddiogelu a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg.

Roedd llawer o ymatebwyr yn credu bod strwythur a gweithredu cymorthdaliadau fferm yn hanfodol bwysig er mwyn cefnogi a datblygu'r Gymraeg. Roedd consensws cyffredinol bod darparu cymorth i fusnesau fferm teuluol yn galluogi teuluoedd a phobl ifanc i aros mewn ardaloedd gwledig sy'n arwain yn awtomatig at ysgolion, busnesau a chymunedau ffyniannus a hynny yn ei dro’n cefnogi cynaliadwyedd y Gymraeg yn y tymor hir.

Roedd y system gynllunio yn bwnc trafod allweddol i lawer o gyfranogwyr. Teimlwyd bod angen cefnogaeth ar gyfer mentrau arallgyfeirio ar ffermydd a mentrau gwledig. Gallai hwyluso'r gwaith o adeiladu cartrefi newydd ar ffermydd, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae galw am ail gartrefi wedi codi prisiau eiddo, wneud llawer i helpu i atal llif pobl ifanc o gymunedau gwledig. Dadleuwyd hefyd bod angen i'r system gynllunio ddiogelu pwysigrwydd hanesyddol enwau lleoedd Cymraeg, gan sicrhau bod yr iaith a'r dreftadaeth leol yn parhau i fod yn weladwy i drigolion lleol ac ymwelwyr. 

Cydnabuwyd bod Mudiad CFfI ar flaen y gad o ran cefnogi'r Gymraeg mewn cymunedau gwledig ac am fynd â'r iaith hefyd i gymunedau di-Gymraeg drwy glybiau a strwythurau sydd eisoes ar waith. Teimlwyd bod angen cymorth ychwanegol ar gyfer gweithgareddau hamdden Cymraeg eu hiaith i'r rhai y tu allan i ystod oedran CFfI. 

Wrth ystyried sut y gallai addysg Gymraeg gyfrannu at yr agenda cyffredinol o hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg, tynnwyd sylw at amryw o gyfleoedd, gan gynnwys darparu gwersi Cymraeg gyda themâu amaethyddol a sefydlu 'grwpiau sgwrsio' i annog dysgwyr Cymraeg i ddatblygu system 'gefeillio', cefnogi ysgolion gwledig a darparu addysg amaethyddol ôl-16 drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd Mrs Williams fod adroddiad Iaith y Pridd yn rhoi cyd-destun clir a chadarn i'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r Gymraeg a'r diwydiant sy'n gwneud cymaint i'w gefnogi. 

"Drwy fwrw'r rhwyd yn bell, daethpwyd â nifer o leisiau gwahanol at ei gilydd o bob rhan o Gymru, o wahanol gefndiroedd gwledig a grwpiau oedran.  

"Gwir gyfoeth yr adroddiad hwn yw'r lleisiau unigol sydd wedi cyfuno i greu, dilysu ac atgyfnerthu'r canfyddiadau a'r argymhellion sydd ynddo. 

"Nid diwedd y daith yw'r adroddiad hwn, yn hytrach, os ydym am helpu i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae'n sail gadarn ar gyfer trafodaeth ehangach fyth o fewn y diwydiant amaethyddol a'i chymunedau."

I lawrlwytho'r adroddiad llawn, cliciwch yma.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd