6 Hydref 2020
Dr David Cutress, Prifysgol Aberystwyth.
- Nid yw mynediad i'r rhyngrwyd yn gydradd ledled y Deyrnas Unedig gyda thystiolaeth glir o raniad trefol/gwledig
- Mae amaethyddiaeth, ynghyd â phob sector arall, yn nesáu at ddyfodol lle mae presenoldeb digidol yn fwyfwy pwysig
- Mae dulliau amgen i wella mynediad i'r rhyngrwyd gwledig ar gael ond nid yw’r rhain heb eu rhwystrau eu hunain chwaith
Y sefyllfa bresennol
Mae mynediad i'r rhyngrwyd wedi symud fwyfwy oddi wrth fod yn gynwydd i fod yn anghenraid, gydag awgrymiadau y dylai mynediad iddo ddod yn hawl ddynol sylfaenol yn y dyfodol. Mae gwelliannau cyson yn y seilwaith sy’n rhoi mynediad i'r rhyngrwyd ledled y Deyrnas Unedig yn golygu bod gan 96% o aelwydydd y Deyrnas Unedig fynediad i'r rhyngrwyd ym mis Chwefror 2020. Er bod trafod ffigurau fel hyn yn ymddangos yn gadarnhaol, ar sail ffigurau nifer yr aelwydydd yn 2019, mae'r 4% arall yn cyfateb i 1.1 miliwn o aelwydydd sy’n dal heb unrhyw fath o fynediad i'r rhyngrwyd. Yn ddiddorol ddigon, cafodd y ffigurau ar gyfer lefelau mor uchel o fynediad i'r rhyngrwyd ymysg aelwydydd eu cywain wrth gasglu data mewn arolygon ar-lein (gyda chyfweliadau ffôn yn eilaidd), ac fe allai hynny ynddo'i hun greu bias yn yr amcangyfrifon, er bod yr 'Arolwg Barn a Ffordd o Fyw' yn awgrymu mai dim ond ychydig iawn o effaith y mae’n ei chael. Ochr yn ochr â bylchau mewn mynediad i'r rhyngrwyd drwy’r seilwaith traddodiadol, lle mae mynediad i'r rhyngrwyd ar gael, mae Ofcom o'r farn bod cyflymder rhyngrwyd 'dechau’ yn golygu o leiaf 10 Mbps wrth lawrlwytho ac 1 Mbps wrth uwchlwytho sydd ond ychydig yn gynt na’r cyflymder a gynigid yn flaenorol gan ryngrwyd symudol 3G, sef technoleg a gafodd ei disodli dros 8 mlynedd yn ôl. Ar ben hynny, mae cryn dipyn o dystiolaeth yn awgrymu bod yna raniad clir mewn mynediad digidol rhwng ardaloedd gwledig ac ardaloedd eraill er gwaethaf yr angen am ddulliau cyfathrebu modern sydd at ei gilydd yn fwy yn yr ardaloedd hyn am fod yno nifer uwch o fusnesau bach/cartrefi anghysbell.
Gan ddefnyddio Ceredigion fel enghraifft o etholaeth wledig, mae'r rhan fwyaf o'i hardaloedd yn y 10% gwaethaf o holl ardaloedd y Deyrnas Unedig o ran cysylltedd, gan fod 13.2% o'i ardaloedd, ar gyfartaledd, yn methu cael cyflymder band eang dechau o’i gymharu â chyfartaledd y Deyrnas Unedig o 2%. Byddai llawer yn awgrymu mai'r ateb i gael signal llawn ledled y Deyrnas Unedig yw defnyddio rhyngrwyd symudol, ac ar hyn o bryd, mae 92% o dir y Deyrnas Unedig yn dod o dan o leiaf 1 gweithredwr ffonau symudol ac mae’r ardaloedd sydd heb signal wedi gostwng o 21% yn 2017 i 8% adeg yr asesiad diwethaf. Hyd yn oed lle mae derbyniad drwy 4G ar gael, nodir bod y defnyddwyr yn ei chael hi'n anodd cynnal cysylltiad tua hanner yr amser. Yn ychwanegol, mae rhyngrwyd symudol yn ddrutach o lawer am y data a ddarperir, sy'n rhwystr arwyddocaol sy’n ei atal rhag cael ei fabwysiadu ar gyfer llawer o gymwysiadau. At hynny, mae yna raniad gwledig arwyddocaol, fel yn achos band eang, o ran darparu ar gyfer y gwledydd mwyaf gwledig fel Cymru a’r Alban sydd heb wasanaeth 4G mewn 8% a 18% o'u hardal ddaearyddol o'i gymharu â dim ond 2% yn Lloegr. Gan fod dyfeisiau sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd yn fwyfwy presennol a defnyddiol, sef rhywbeth y cyfeirir ato yn aml fel y 'Rhyngrwyd Pethau' (IoT), ac yn sgil y gwasanaethau sydd ar gael i wella systemau a chynhyrchiant mewn amaethyddiaeth, mae’r anghysondeb hwn o ran hygyrchedd yn fwyfwy o broblem.
Mynediad i’r rhyngrwyd mewn amaethyddiaeth
Rydym yn symud tuag at fyd sydd wedi'i integreiddio'n ddigidol ar draws pob sector a maes, ac nid yw amaethyddiaeth yn eithriad, er ei bod yn arafach o bosibl nag ambell faes arall. Lle arferai gwerthiant amaethyddol ddigwydd yn uniongyrchol i’r defnyddwyr drwy siopau fferm, stondinau wrth ochr y ffordd a marchnadoedd ffermwyr, mae gwerthiant ar-lein a marchnadoedd ar-lein yn cynnig dewis arall i ffermwyr gystadlu am gwsmeriaid dros ardal ddaearyddol fawr. Mae ymchwil flaenorol hyd yn oed yn awgrymu y gall ffermydd sy'n defnyddio'r systemau hyn sicrhau lefelau gwerthu uwch. Mae materion ynglŷn â COVID-19 yn amlygu potensial systemau o'r fath o ran lleihau cyffyrddiadau â phobl ac anifeiliaid (gan leihau lledaeniad feirysau/clefydau). Ar ben hynny, disgwylir i ffermwyr contract fwydo data ar eu harferion ffermio (cyfraddau twf, cynnyrch, mewnbynnau porthiant etc) i gronfeydd data ar-lein i gael eu dadansoddi ac er mwyn olrhain deiliaid y contract yn ogystal â chyfleu genedigaethau a symudiadau da byw a llawer o fathau eraill o waith papur fferm sydd bellach yn cael eu diweddaru drwy systemau ar-lein. Mae hyn wedi dod yn ffactor mor gyffredin fel y gall cosbau ariannol godi mewn llawer o achosion bellach ar ffermydd sydd heb y rhyngrwyd am fod yna gostau gweinyddu ychwanegol ynghlwm wrth brosesu ffurflenni analog.
Mae angen cysylltiad â’r rhyngrwyd ar gyfer sawl system dechnolegol newydd mewn amaethyddiaeth fanwl gywir a’r Rhyngrwyd Pethau er mwyn rhyngweithio â gweinyddion ar-lein, sydd yn gyffredinol yn gwneud y gwaith dadansoddi data i leihau'r gofynion ar gyfer grym cyfrifiadura ar y fferm. Mae sawl system eisoes wedi'u trafod mewn erthyglau technegol eraill gan Cyswllt Ffermio, gan gynnwys: mapio priddoedd, synwyryddion pridd, synwyryddion tywydd, synwyryddion amgylcheddol, synwyryddion monitro anifeiliaid, technolegau cyfraddau amrywiol, cerbydau â GPS integredig, robotiaid fferm a nifer aruthrol o apiau i’r ffôn symudol.
Mae mwyfwy o angen cyflymder data arwyddocaol gyda rhaglenni penodol, fel monitro CCTV wedi'i ffrydio, lle gallai fod yn anodd sicrhau ffeiliau cydraniad uchel neu ffrydio â’r cyflymder 'dechau’ presennol. Gall maint ffeiliau delweddau ar gyfer dronau UAV ar gyfer monitro cnydau'n well hefyd fod yn fawr iawn oherwydd eu cydraniad uchel. Nododd cynhyrchwyr mawr yn yr Unol Daleithiau fod eu defnydd nhw ar y rhyngrwyd wedi cynyddu bron ddwywaith rhwng 2013 a 2016 i hyd at 30GB y mis yn ystod y tymhorau prysuraf. Os bydd tuedd debyg yn digwydd yn y dyfodol, bydd galwadau o'r fath yn ormod ar gyfer llawer o'r capiau yn y pecynnau presennol ar gyfer rhyngrwyd lloeren a rhyngrwyd symudol. Yn y bôn, mae systemau presennol y rhyngrwyd yn tueddu i gynnig cyflymder lawrlwytho gwell na’r cyflymder uwchlwytho, ac fe allai hynny ynddo'i hun greu problemau gyda rhaglenni manwl gywir sydd yn aml yn drymach o ran uwchlwytho’r data a gasglwyd i weinyddion ar-lein yn y cwmwl i gael ei ddadansoddi ymhellach.
Signal amgen
Y dewis amgen sy'n dod i'r cof ar unwaith yn lle band eang â gwifrau yw rhyngrwyd symudol, ond nid yw hynny heb ei anawsterau ei hun o ran ei rychwant, fel y nodwyd uchod. Mae strategaethau ar gael a allai helpu i wella'r sefyllfa hon yng nghefn gwlad, ond mae'r rhain yn gofyn i’r darparwyr gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig gydweithredu. Un ffordd syml i wella’r rhychwant fyddai caniatáu crwydro rhwng rhwydweithiau fel sy'n digwydd pan fyddwch chi dros y môr, a byddai hyn yn caniatáu i unrhyw signal gael ei ddefnyddio ni waeth pwy yw’ch darparwr presennol. Ffordd 'syml' ond gostus arall o wella’r signal fyddai darparu mastiau strategol i wasanaethu mannau sydd heb signal, ac roedd hyn yn gynllun cychwynnol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn 2013. Yn anffodus, o'r 600 o fastiau arfaethedig dim ond 75 a godwyd cyn i'r prosiect gau. Byddai manteision ychwanegol cynyddu nifer y mastiau yn cynnwys galw is am fynediad fesul mast (nifer y bobl sy'n gysylltiedig â nhw) a fyddai'n golygu bod y cyflymder yn well ac yn fwy sefydlog. Yn olaf, mae yna allu i ddefnyddio lefelau sbectrwm ychwanegol o fewn systemau’r rhwydwaith 4G drwy ddefnyddio 700MHz neu 800MHz. Mae hyn yn arafach ond mae ar gael yn ehangach sy’n golygu y gallai gynyddu'r arwynebedd lle mae signal ar gael gan godi ardaloedd gwledig i fyny i'r lleiafswm o 10 Mbps.
Er mai 5G yw'r dechnoleg ddeniadol nesaf sy'n cyrraedd y penawdau ar hyn o bryd, bydd ei rôl mewn rhaglenni yng nghefn gwlad yn debygol o greu llawer llai o effaith. Mewn astudiaeth ddiweddar yn dadansoddi cyflwyniad 5G, nodwyd mai ardaloedd gwledig fydd yr olaf i weld y manteision hyn (tua diwedd y targed o 2030) ac unwaith y cyrhaeddir y targed o 90% o'r boblogaeth gyda’r buddsoddiadau cychwynnol o £6 biliwn byddai'r 10% olaf yn cymryd dwbl hynny, sef £12 biliwn, ac felly rhanbarthau gwledig fydd y 10% sy'n debygol o gael eu hepgor.
Mae mentrau band eang cymunedol yn ffordd arall o sicrhau gwell cysylltedd â'r rhyngrwyd yng nghefn gwlad. Mae'r rhain yn golygu dull cymunedol cyfunol naill ai i fynnu gwell band eang gan ddarparwyr lleol yn uniongyrchol neu i godi arian (a all gynnwys cyllid grant penodol) ar gyfer un o'r dulliau a ganlyn:
- Cyfrannu at ymestyn y rhwydweithiau masnachol presennol
- Ymestyn cynllun cyflwyno rhwydwaith o dan reolaeth yr awdurdodau lleol
- Creu prosiect i ddod o hyd i gyflenwr i adeiladu seilwaith ar gyfer eich ardal
- Adeiladu seilwaith cymunedol sy'n cael ei redeg gan gyflenwr
- Adeiladu seilwaith sy'n eiddo i'r gymuned ac yn cael ei gweithredu ganddi
Serch hynny, fel gyda'r sefyllfa ddigidol fyd-eang, mae hyn unwaith eto'n amlygu rhaniad trefol/gwledig clir lle mae gan gymunedau gwledig rwystrau a chyfrifoldebau ychwanegol nad ydynt yn bodoli bron mewn ardaloedd trefol.
Mae band eang lloeren yn ateb posibl arall, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig anghysbell gyda phellter arwyddocaol i'r seilwaith agosaf o ran darparu gwasanaethau. Mae gan fand eang lloeren fanteision o ran cael ei ddarparu’n gyflym ac mae'n faes y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi gyda grantiau i dalu hyd at 90% o'r costau gosod os ydych chi ar hyn o bryd yn derbyn llai na 2Mbs. Er y gall grantiau helpu gyda’r gwaith gosod, y problemau ynglŷn â chynlluniau rhyngrwyd lloeren presennol yw eu bod yn gynlluniau cymharol ddrud o gofio’r cyflymderau a'r capiau data sy'n gysylltiedig â nhw o’u cymharu â band eang gwifrau.
Gallai cerbydau awyr di-griw (UAVs) hefyd chwarae rhan fel llestrau cyfathrebu diwifr mewn gwahanol raglenni. Gall gosod systemau hyb cyfathrebu diwifr ar y rhain fod yn ffordd amgen i gasglu neu drosglwyddo gwybodaeth yn lleol er enghraifft drwy hedfan ar draws dir fferm. Er hynny, nid yw'r gweithgarwch hwn yn cynnig manteision ar ffermydd sydd heb ddigon o fynediad i'r rhyngrwyd i fynd ati wedyn i fwydo data o'r fath i systemau dadansoddi yn y cwmwl. Ond, mae systemau fel prosiect internet.org Facebook wedi edrych ar ddefnyddio trosglwyddiadau o UAVs yn cael eu pweru gan yr haul a all hedfan am fisoedd ar y tro i ddarparu rhyngrwyd mewn ardaloedd sy’n methu ei gael fel arall. Yn yr un modd, mae prosiect Loon gan Google yn ceisio defnyddio balwnau heliwm a lansiwyd i'r stratosffer i gyfathrebu â systemau ar y ddaear i ddod â’r rhyngrwyd i ardaloedd sydd heb fynediad iddo ar hyn o bryd.
Cysyniad cysylltedd rhyngrwyd Loon ar sail Katikala (2014)
Dewis amgen arall sy’n cael ei ddefnyddio’n gyffredin i gyfeirio cyfathrebiadau uniongyrchol ar y rhyngrwyd mewn amaethyddiaeth yw rhwydweithiau synwyryddion diwifr (WSNs). Ar hyn o bryd, y tri phrif opsiwn ar gyfer hyn yw’r rhyngrwyd pethau band cul (NB-IoT), rhwydweithiau ardal ddiwifr amrediad hir (LoRaWAN) a systemau ZigBee (technoleg bluetooth). Mae'r systemau hyn yn dibynnu ar dŵr/porth canolog sy'n gallu anfon a derbyn data o ddyfeisiau o fewn amrediad penodol (gweler y tabl isod) a gallant gael eu defnyddio i gasglu data o wahanol systemau technoleg manwl gywir ar draws ffermydd. Gallwch weld un enghraifft o hyn drwy brosiect LoRaWAN Cyswllt Ffermio sy’n gobeithio rhoi 18 o byrth ar waith ledled Cymru i greu cysylltiad â thechnolegau ar ffermydd arddangos yn ogystal â’r posibilrwydd yn y dyfodol o fynediad agored i ffermwyr eraill yn yr ardaloedd lle bydd y signal ar gael. Gall y rhain fod o fudd mawr i systemau awtomeiddio a chasglu data lle nad oes angen trosglwyddo'r data ymhellach drwy'r rhyngrwyd ond dydyn nhw ddim yn goresgyn anawsterau mynediad i'r rhyngrwyd eu hunain.
Mae WiMax yn dechnoleg sy’n debyg i Wi-Fi ac sy’n cael ei ddefnyddio i roi mynediad i’r rhyngrwyd. Lle mae Wi-Fi yn pontio’r bwlch rhwng eich cysylltiad band eang/ffôn ffisegol a gweddill eich tŷ, cafodd WiMax ei ddylunio i bontio bylchau o hyd at 80Km ac felly fe allai gael ei ddefnyddio i bontio mannau sydd heb y rhyngrwyd mewn cymunedau gwledig. Mae’r cyflymder yn well na band eang ‘dechau’, ond gall cost tyrau a seilwaith fod yn ddrud.
WiMAX |
LoRaWAN |
Zigbee |
NB-IoT |
||
Amrediad Normal |
50-80 km |
Trefol (3-6 km) Gwledig (15 km) |
100 metr |
<35 Km |
|
Cyflymder data |
~70 Mbit/s |
hyd at 50 Kbit/s |
250 kbps |
250 kbps |
|
Defnydd Ynni |
Canolig-Uchel |
Isel |
Isel |
Isel |
|
Cost |
Uchel (≥80$) |
Isel (≥20$) |
Canolig |
Canolig-Uchel |
Crynodeb
Mae angen symud oddi wrth yr argraff y dylai ardaloedd trefol gael eu datblygu’n gyntaf cyn ehangu allan i ardaloedd gwledig sydd wedyn yn ceisio "dal i fyny" o hyd. Mae’r angen digidol yng nghefn gwlad yn aml yn uchel er gwaethaf y boblogaeth gymharol isel ac mae angen ystyried hyn: mae'n hollbwysig ar gyfer diogelu datblygu gwledig yn y dyfodol. Mae angen defnyddio cynlluniau fel cynllun R100 Llywodraeth yr Alban ledled y Deyrnas Unedig gan fod y rhain yn anelu at fynediad 100% i fwy na lefelau cyflymder ‘dechau’. Pan fo cynlluniau'n darparu grantiau ar gyfer sefydlu seilwaith, megis cynllun Band Eang yng Nghymru, mae’r atebion ar gyfer ardaloedd anodd eu cyrraedd, gan gynnwys rhyngrwyd lloeren, yn cynnwys rhwystrau sy'n gysylltiedig â chostau rhy uchel ar gyfer rhedeg y gwasanaethau a ddarperir o’u cymharu â'r rhai cyfatebol mewn trefi ac mae angen mynd i'r afael â hyn, neu roi cymhorthdal o bosibl. O ran y rhyngrwyd symudol, mae angen gwthio tuag at ddarpariaeth i bawb cyn codi’r cyflymder gan nad yw'r mwyafrif o ddefnyddwyr yn defnyddio'r cyflymderau llawn sydd ar gael. Mae sawl erthygl ymchwil yn dangos manteision ar gyfer cynhyrchiant a chynaliadwyedd sy'n gysylltiedig â mabwysiadu technolegau amaethyddol manwl gywir ar sail y Rhyngrwyd Pethau, a chynnydd yn y niferoedd sy’n mabwysiadu'r rhain ar ffermydd sydd â mynediad i'r rhyngrwyd o’u cymharu â ffermydd sydd heb fynediad iddo. Mae hyn yn awgrymu y gallai gwella darpariaeth y rhyngrwyd yng nghefn gwlad helpu i ddileu'r rhwystr penodol hwn gan ganiatáu i’r ffermydd mwyaf gwledig ddefnyddio technolegau'n haws ac yn fwy effeithlon.