27 Ionawr 2021

 

Gall ffermwyr bîff y mae eu dadansoddiadau silwair glaswellt ymysg y 25% uchaf yng Nghymru yn gallu cael cyfraddau pesgi dyddiol o 400g y pen yn fwy nag anifeiliaid sy’n cael yr un faint o borthiant o ansawdd cymedrol, ac mae hyn yn cyfateb i fantais cost o £24 y pen y mis.

I ffermwyr llaeth yn y band uchaf hwnnw o wneuthurwyr silwair yng Nghymru, ceir mantais o 2.2 litr o laeth y fuwch y dydd. 

Mae data o bron 2,000 o samplau silwair glaswellt a ariannwyd drwy Cyswllt Ffermio rhwng 2015-2020 yn amlygu pwysigrwydd cynhyrchu’r silwair gorau posibl er mwyn lleihau’r costau porthi a gwella cynhyrchiant.

Dywedodd Dr Dave Davies, o Silage Solutions, a fu’n archwilio’r data ar ran Cyswllt Ffermio, ei fod yn dangos bod y gwneuthurwyr silwair gorau yn gyson yn cynhyrchu porthiant sy’n llawer gwell na chynnyrch o ansawdd cymedrol.

Roedd gan samplau’r 25% gorau ME o 11.39 MJ/kg DM a phrotein crai o 157g/kg DM tra bod yr ME ar gyfer silwair cymedrol yn 10.17 MJ/kg DM a’r protein crai yn 126g/kg DM.

Drwy anelu am ME o 11.5MJ/kg DM a phrotein crai o 170g/kg DM, gall silwair ar ei ben ei hun ddarparu’r rhan fwyaf, os nad yr holl, ofynion maeth ar gyfer gwartheg biff a mamogiaid beichiog, cynghora Dr Davies.

Mae’r manteision hyn yn cael effaith ar yr amser y mae gwartheg pesgi yn ei dreulio ar y fferm – tri diwrnod yr anifail yn llai sydd, gyda’i gilydd ar gyfer 50 o wartheg, yn gwneud 150 diwrnod.

Dengys y data hefyd y gallwch wneud arbedion mawr ar brotein a brynir i mewn pan fo ansawdd y silwair yn uwch.

Ar gyfer gwartheg biff, byddai angen bwydo 0.305kg y pen y dydd yn ychwanegol am ben y silwair yn y categori cymedrol; ar gyfer gwartheg llaeth byddai’n 0.457kg y pen y dydd yn fwy.

Ar sail 300t o silwair DM, mae gan y 25% gorau a samplwyd yn y pum mlynedd diwethaf brotein ychwanegol o 9.15t ar gael ynghyd â 360,000 megajoule o egni y gellir ei fetaboleiddio o’i gymharu â samplau yn y categori cymedrol.

I gynhyrchwyr cig eidion mae hyn yn trosi’n gynnydd mewn cyfraddau pesgi o 12,000kg ac i ffermwyr llaeth 67,925 o litrau yn fwy o laeth.

I gynhyrchu cymaint â hyn yn ychwanegol gyda silwair o ansawdd gwael, byddai gofyn rhoi 45.75 tunnell o atchwanegiad protein 20%, cyfrifa Dr Davies.

Mae cynhyrchu silwair o ansawdd gwell hefyd yn rhoi chi fanteision amgylcheddol pwysig.

Mae’r methan a gynhyrchir gan dda byw sy’n bwyta silwair yn y 25% gorau hwnnw yn llawer is - 1.1 miliwn litr yn llai ym mhob fferm yn seiliedig ar fwydo 300 tunnell (t) o ddeunydd sych (DM).

“Po waelaf yw’r treuliadwyedd (gwerth D), y mwyaf o fethan sy’n cael ei gynhyrchu o fwyta’r porthiant,” meddai Dr Davies.

“Wrth ystyried allyriadau methan y kg o gig neu laeth a fwyteir gan bobl, mae gan silwair o ansawdd gwell rôl bwysig i’w chwarae i leihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr yn gyffredinol.”

Tynnodd y data sylw hefyd at y ffaith bod silwair yn awr yn cael ei wneud ar draws cyfnod ehangach – cafodd samplau eu dadansoddi o silwair a dorrwyd mor gynnar â Chwefror 10 ac mor hwyr â Rhagfyr 18, gyda rhai ffermwyr yn cynhyrchu chwe chnwd.

“Mae cynhyrchu silwair wedi dod yn llai tymhorol nag yr oedd 10-15 mlynedd yn ôl,” meddai Dr Davies.

Credai fod y rhesymau’n cynnwys oherwydd bod glaswellt yn dal i dyfu yn yr hydref a’r gaeaf oherwydd patrymau tywydd newidiol, bod mathau gwell o laswellt i’w cael ac oherwydd bod rhai ffermydd llaeth yn cadw eu gwartheg i mewn am gyfnodau hirach.

Dywed Dewi Hughes, Rheolwr Technegol yn Cyswllt Ffermio, fod yr adroddiad yn amlygu pwysigrwydd cynhyrchu’r silwair gorau posibl, er mwyn lleihau costau porthi a gwella cynhyrchiant. 

Mae Cyswllt Ffermio yn gweithio â ffermwyr ar draws Cymru. I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael, ewch i wefan Cyswllt Ffermio neu cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei
gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig
Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop
ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi
Bwydo glaswellt trwy'r dail yn rhoi hwb i borthiant india-corn mewn cyfnod o sychder, yn ôl arbrawf fferm
Bu i ddefnyddio’r dull bwydo drwy’r dail ar india-corn a oedd yn