9 Chwefror 2021

 

“Mae pob un a enwebwyd ar gyfer cynllun Gwobrau Lantra Cymru eleni wedi dangos eu hymrwymiad i ddysgu gydol oes, i gynyddu effeithlonrwydd, cyflwyno arloesi a chynnal y safonau uchaf ar draws pob maes gwaith,” dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

O ganlyniad i gyfyngiadau Covid 19, a oedd yn golygu y bu'n rhaid trefnu a beirniadu'r cynllun gwobrwyo o bell, roedd y Gweinidog wedi recordio neges ymlaen llaw, a ryddhawyd heddiw (dydd Mawrth, 9 Chwefror), lle yr enwodd holl enillwyr gwobrau eleni, gan longyfarch a diolch i'r holl rai a enwebwyd, yn ogystal â chyfranogwyr o flynyddoedd blaenorol.

Mr Peter Rees, amaethwr blaenllaw yng Nghymru a chadeirydd Lantra Cymru oedd cadeirydd panel dethol eleni, a oedd yn cynnwys Athro Wynne Jones, academydd a ffigwr blaenllaw yn y byd amaeth, a’r newyddiadurwraig, Gaina Morgan.

Dywedodd Mr Rees bod y digwyddiad bob amser yn un o uchafbwyntiau'r calendr amaethyddol blynyddol yng Nghymru, gan ychwanegu ei bod yn tystio i holl randdeiliaid gwledig y diwydiant, gan gynnwys colegau a darparwyr hyfforddiant, eu bod wedi nodi ac enwebu nifer o unigolion rhagorol er gwaethaf y pandemig.

Sefydlwyd cynllun Gwobrau Lantra Cymru 26 mlynedd yn ôl, ac mae'n gwobrwyo cyflawniadau dysgu gydol oes y gweithwyr niferus, y maent trwy eu sgiliau a'u galluoedd, yn cyfrannu nid yn unig i fyd amaeth ond i'r agenda gwledig ehangach yng Nghymru, ein heconomi wledig a'r cymunedau lle y maent yn byw ac yn gweithio.

“Mae ymrwymiad clir pob un a enwebwyd i ddatblygiad proffesiynol parhaus a chyflawniadau yn y sectorau tir ac amgylcheddol yn gwneud cymaint i gynnal y safonau proffesiynol diweddaraf yn ein diwydiant.

“Mae pob un ohonynt yn gwneud cyfraniad arwyddocaol, nid yn unig yn eu maes gwaith penodol, ond at gynaladwyedd a moderneiddio byd amaeth yng Nghymru yn y tymor hir,” dywedodd Mr Rees. 

Darperir rhaglen Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru ac fe'i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

 

Gwobrau Lantra Cymru 2021 – categorïau ac enillwyr

 

Gwobr Cyflawniad Oes – sy'n cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad 'rhagorol ac arwyddocaol' i fyd amaeth yng Nghymru.

Enillydd:  Brian Rees, Llandrindod

Mae Brian Rees yn ymgynghorydd ac yn hyfforddwr diogelwch fferm proffesiynol, yn ffermwr, yn ffrind ac yn fentor i nifer.  Mae wedi cysegru ei fywyd i wella iechyd a diogelwch yn y sectorau tir. Mae'n gyn gadeirydd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru ac yn fentor iechyd a diogelwch cymeradwy Cyswllt Ffermio, ac mae wedi bod yn wir lysgennad ar gyfer yr achos pwysig hwn.

Dywedodd y panel beirniadu bod Mr Rees wedi codi ymwybyddiaeth o'r hyn a fu yn record diogelwch gwael ym myd amaeth ers amser rhy hir, gan ddarparu hyfforddiant i gannoedd o ffermwyr dros nifer o flynyddoedd hefyd.  Dywedont fod gwybodaeth a dealltwriaeth Mr Rees o hyfforddiant a diogelwch fferm yn eang iawn ac roeddent yn unfrydol wrth gytuno ei fod yn enillydd rhagorol a haeddiannol iawn o'r Wobr Cyflawniad Oes eleni.

 

Gwobr Brynle Williams – sefydlwyd y wobr hon yn 2011 er anrhydedd i gyfraniad sylweddol y diweddar Mr Williams i fyd amaeth yng Nghymru fel AC ac fel ffermwr uchel ei barch.  Mae'n cydnabod cyflawniadau ffermwr ifanc sydd wedi cychwyn ar ei daith mewn busnes ffermio trwy gyfrwng rhaglen Mentro Cyswllt Ffermio.

Enillydd:  Emyr Owen, Bodrach, Pandy Tudur, Gogledd Cymru. 

Ar ddiwedd 2018, sylweddolodd Emyr Owen a'i gymydog, Gwydion Jones, y byddai'n gwneud synnwyr masnachol i ddod ynghyd i ffurfio partneriaeth busnes llaeth newydd ar y cyd, yn cynnwys aelodau eu teuluoedd.  Diolch i gymorth busnes a chyfreithiol a oedd ar gael trwy gyfrwng rhaglen Mentro Cyswllt Ffermio, mae Emyr bellach yn bartner mewn menter laeth newydd ar y cyd.  Mae hon yn cynnwys parlwr godro tro newydd wedi'i leoli mewn man canolog rhwng y ddwy fferm, ac mae cynnydd a chynaladwyedd y fenter yn ddiogel dros y tymor hwy.

Dywedodd y panel beirniadu bod Emyr wedi dangos cymhelliant, uchelgais a ffocws ac mae'n enillydd haeddiannol Gwobr Goffa Brynle Williams eleni.

 

Gwobrau Cyswllt Ffermio – yn agored i’r rhai sydd wedi datblygu eu sgiliau personol a'u heffeithlonrwydd ym maes busnes, diolch i hyfforddiant a gawsant trwy raglen dysgu a datblygu gydol oes Cyswllt Ffermio.

Gwobr Arloesi ar Fferm Cyswllt Ffermio – mae'r wobr hon yn dathlu ymdrechion unigolyn sydd wedi dangos arloesedd a hyblygrwydd mewn system ffermio trwy ymgysylltu gyda chymorth Cyswllt Ffermio.

Enillydd:  Osian Williams, Y Trallwng. 

Mae Osian yn ffermwr modern a blaengar sydd wedi llwyddo i gynnwys technegau newydd ac arferion gorau yn y fenter ddofednod ac ochr cynhyrchu ynni adnewyddadwy'r busnes.  Dywedodd y panel beirniadu bod Osian wedi profi ei fod yn ffermwr amryddawn a blaengar sy'n teimlo'n angerddol ynghylch sicrhau perfformiad uchel.  Mae ei barodrwydd i dreialu a gweithredu systemau neu gynhyrchion newydd, sydd wedi ei alluogi i ddod yn fwy effeithlon a chynaliadwy, yn ei wneud yn enillydd teilwng iawn y wobr hon.

 

Gwobr Dysgwr Ifanc Cyswllt Ffermio ar gyfer unigolion dan 40 oed - dyfernir y wobr hon i unigolyn sy'n dangos sut y mae datblygiad proffesiynol parhaus wedi helpu ei sgiliau personol a'i effeithlonrwydd ym myd busnes.  

Yn agos at y brig:  Marged Siân Simons. 

Mae Marged yn gweithio ar fferm laeth ei theulu yn Coxlake, ger Arberth.  Mae Marged yn defnyddio ei sgiliau technegol a dadansoddi wedi'u seilio ar wyddoniaeth mewn ffordd lwyddiannus, ynghyd â'i gwybodaeth newydd, ar fferm ei theulu ac yn ei phrosiect arallgyfeirio sy'n ymwneud â cheffylau.  Mae Marged yn teimlo'n angerddol am ei gwaith gyda LEAF hefyd, gan gyfleu negeseuon i blant ifanc mewn ysgolion am darddiad eu bwyd.

Roedd y panel beirniadu yn teimlo y bydd ffocws a phenderfyniad Marged yn ei gwneud yn ased sylweddol i'r diwydiant amaeth.

 

Enillydd:  Gerallt Hughes, Ffridd Nantlle, Caernarfon. 

Mae gan Gerallt a'i deulu ddaliad defaid bîff ucheldir 2,500 erw sy'n cynnwys menter ceirw coch newydd a sefydlwyd gan Gerallt, a dau safle cynhyrchu hydro mawr.

O blith grŵp mawr o ymgeiswyr gwych, yr oeddent oll yn dangos ymrwymiad enfawr i'w sector dethol, roedd Gerallt yn dangos lefel o wybodaeth dechnegol a brwdfrydedd a oedd yn sicrhau ei fod yn sefyll allan ymhlith ei gymheiriaid.

Gyda dymuniad i barhau gyda'i ddatblygiad personol, mae'n amlwg ei fod yn coleddu datblygiadau newydd ac roedd y panel yn hyderus ei fod yn cynrychioli safon y newydd-ddyfodiad y mae ei angen ar y diwydiant. 

Dywedodd y panel bod Gerallt yn llysgennad gwych ar gyfer y diwydiannau tir a phwysigrwydd addysg a hyfforddiant.  Dywedont fod ei egni a'i ymrwymiad wedi helpu i symud busnes llwyddiannus sy'n tyfu a menter arallgyfeirio gyda cheirw coch ac ynni adnewyddadwy, yn eu blaen, gan barhau i fod yn ymroddedig i arferion ffermio cynaliadwy.

 

Gwobr Dysgwr Gydol Oes y Flwyddyn ar gyfer unigolion dros 40 oed

Yn agos at y brig:  Helen Hall, Rhydlewis, Ceredigion 

Mae Helen Hall yn newydd-ddyfodiad i fyd ffermio, ac mae'n rhedeg menter ddefaid yn Rhydlewis, Ceredigion.  Mae Helen wedi dilyn cyrsiau byr achrededig niferus a hefyd, pob cwrs e-ddysgu am iechyd a hwsmonaeth defaid sydd ar gael trwy raglen Cyswllt Ffermio.

Er bod ffermio yn faes newydd iddi, dywedodd y beirniaid bod Helen wedi dangos penderfyniad sylweddol i sicrhau'r sgiliau a'r wybodaeth hanfodol y mae hi'n eu defnyddio bob dydd er mwyn rhedeg ei thyddyn mewn ffordd effeithlon a chynaliadwy.

 

Enillydd:  Debbie Morgan, Y Fenni

Mae Debbie yn gweithio fel gofalwr y fuches ar uned laeth Holstein o 200 o wartheg cynhyrchiol gyda pheiriannau godro robotig, ac mae'n ffermio ei thyddyn ei hun hefyd ger Y Fenni, sy'n cynnwys buchod sugno.  Eleni, mae Debbie wedi cwblhau cyrsiau ynghylch rheoli lloi, Ymgymryd ag AI eich hun a thrimio traed gwartheg.

Roedd ymagwedd a brwdfrydedd Debbie ynghylch dysgu amrediad o sgiliau gwerthfawr, y maent wedi helpu i gynnal cynhyrchiant, iechyd a symudedd y fuches odro gynhyrchiol gadarn o 200, y stoc ifanc a'r lloi y mae hi'n gofalu amdanynt, wedi gwneud argraff ar y beirniaid.

 

Gwobr Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio – Mae'r wobr hon yn un newydd eleni ac mae'n cydnabod unigolion sydd wedi gweithredu'r hyn a ddysgont trwy gyfrwng rhaglen Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio mewn ffordd effeithiol yn eu lleoliad gwaith.

Yn agos at y brig

Christine Vaughan, Crymych, Sir Benfro

Mae Christine yn ffermwr defaid a bîff.  Ar ôl mynychu amrediad o weithdai iechyd a lles anifeiliaid Cyswllt Ffermio, mae bellach yn cydweithio'n agos gyda'i milfeddyg lleol ac mae'n gwneud newidiadau sy'n ei helpu i nodi, lleihau'r risg a rheoli unrhyw broblemau iechyd anifeiliaid.  Roedd diddordeb brwd Christine mewn mynychu gweithdai am y diwydiant llaeth a chig coch, gan fanteisio ar y cyfle i weithio gyda'i milfeddyg lleol i gael arweiniad ymarferol ynghylch sut i wneud newidiadau i leihau risg problemau iechyd anifeiliaid amrywiol, wedi gwneud argraff ar y beirniaid.  Mae ei sgiliau newydd wedi ei helpu i wneud newidiadau bychain sydd wedi gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd ar draws sawl maes.

Yn agos at y brig, Angharad Bennett, Cil-y-cwm, Llanymddyfri. 

Mae Angharad yn ffermwr defaid a bîff, sydd wedi cymryd rhan mewn nifer o weithdai iechyd a lles anifeiliaid am y sectorau llaeth a chig coch.  Mae wedi cynyddu ei hadnabyddiaeth o broblemau iechyd anifeiliaid, gan ddefnyddio ei gwybodaeth newydd ac addasu protocolau fferm i leihau trosglwyddiad clefydau.  Roedd ei hymrwymiad cryf i wella effeithlonrwydd a'r ffaith bod y fferm bellach yn brechu ar gyfer BVD yn gyson ac yn profi gwaed am Glefyd Johne o fewn y fuches bîff wedi gwneud argraff ar y panel beirniadu.

 

Gwobr Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio

Enillydd:  Bridget Barnes, Pwll Glo Fforest, Y Fenni. 

Mae Bridget Barnes yn ffermwr defaid a bîff ac mae wedi mynychu chwe gweithdy iechyd a lles anifeiliaid Cyswllt Ffermio, ac mae'n gweithredu popeth y mae hi wedi'i ddysgu.  Bellach, mae'n adnabod arwyddion clinigol clefydau ac mae'n gweithredu mesurau trin a rheoli priodol.  Roedd ymrwymiad a brwdfrydedd Bridget tuag at ehangu ei sgiliau a'i phenderfyniad i gyflawni'r safonau uchaf o ran iechyd a lles anifeiliaid wedi gwneud argraff ar y panel beirniadu.  Bellach, mae'n rhan o gynlluniau iechyd gwartheg amrywiol ac mae'n gallu gweld manteision gwneud newidiadau bychain ar y fferm, er mwyn lleihau risg lledaenu clefydau a chael problemau iechyd anifeiliaid yn cael effaith negyddol ar y busnes.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu