Ffermwyr Glaswellt Arbenigol
Prosiect Porfa Cymru: Andrew Giles, Maesllwch, Clas-ar-Wy
'Rydym yn ffermio yn un o ardaloedd sychaf Cymru. Un o’r pethau rydym wedi ei ddysgu dros y 20 mlynedd diwethaf yw pwysigrwydd rhagfynegi ac edrych am dywydd sych. Pan fydd cyfraddau twf yn gostwng tu hwnt i gyfraddau cyfartalog ar gyfer adeg o’r flwyddyn, ac yn enwedig os na ragwelir glaw, byddem yn cychwyn rhoi pethau ar waith ac hynny cyn gynted â phosib, ac mae hynny’n hanfodol gan fod modd newid yr effaith caiff sychder ar eich glaswelltir.'
Prosiect Porfa Cymru: Bleddyn Davies, Blaenglowon Fawr
Mae Bleddyn Davies, Blaenglowon Fawr, Talgarreg wedi gwneud datblygiadau aruthrol yn ei reolaeth porfa yn ddiweddar. Edrychwn ymlaen i dderbyn cyfraddau tyfiant y fferm ar arfordir y gorllewin drwy gydol y tymor.
Prosiect Porfa Cymru: Rhys Wiliams, Trygarn
Ry' ni'n hynod o gyffrous i gael y rheolwr porfa profiadol Rhys Williams, Trygarn, Sarn Meyllteyrn fel un o ffermwyr #ProsiectPorfaCymru eleni.
Bydd Rhys yn rhannu eu strategaethau rheoli porfa yn ystod tymor, ac yn rhannu cyfraddau tyfiant y fferm yn wythnosol. Dyma gefndir y fferm ac ei system bori: