Diweddariad Prosiect: Rhiwaedog
Mawrth 2021
Nod y prosiect yn Rhiwaedog yw tynhau’r cyfnodau lloea i ddau floc wyth wythnos (Chwefror-Mawrth a Mai-Mehefin) a lleihau’r bwlch rhwng lloeau i ‘un llo byw’ bob 365-375 diwrnod.
Yn gyntaf, rhoddwyd prawf ffrwythlondeb i’r teirw. Dangosodd y canlyniadau eu bod yn iach ac yn gallu cynhyrchu sampl hyfyw o semen. Yna defnyddiwyd coleri Moocall ar ddau darw ac fe wnaeth y rhain ganfod pa fuchod oedd wedi cael eu gweld yn gofyn tarw. Pan gawsant eu sganio, roedd mwyafrif y buchod wedi eu dynodi yn gyflo ers 35 diwrnod neu fwy. Roedd buchod na welwyd eu bod yn gofyn tarw o fewn mis yn cael eu harchwilio; rhoddwyd triniaeth gyd-amseru i bedair gyda dwy wedi eu cadarnhau yn gyflo hyd yn hyn. Mae rhai buchod wedi cael eu trin am syst ar yr ofari na fyddai wedi cael ei ganfod heb ddefnyddio’r dechnoleg yma.
Yn gyffredinol mae’r buchod wedi mynd yn gyflo yn fuan ac mae’r rhai sy’n lloea’n hwyrach wedi cael eu tynnu i mewn pan oedd hynny’n bosibl. Mae rhai o’r buchod wedi cael eu cadw’n ôl rhag cael tarw tan fis Ebrill i’w dwyn i batrwm gweddill y fuches. Efallai y bydd angen cael gwared ar rai o’r buchod yma, yn arbennig os bydd yn heriol i’w cael yn gyflo, neu os bydd ganddynt broblemau eraill ar yr un pryd.
Ar ddechrau’r prosiect, nodwyd bod yr ap Moocall yn cofnodi gweithgaredd pan oedd y tarw a’r buchod yn bwyta wrth y cylch porthi ac yn y sied, gan roi darlleniadau ffug. Llwyddwyd i ddatrys hyn yn rhwydd trwy ddefnyddio tagiau ychwanegol a osodwyd mewn ardaloedd lle mae’r tarw yn cofnodi gweithgaredd ffug i greu ‘Parth Caeedig’, er enghraifft wrth borthwyr crwn a chafnau dŵr. Os bydd y tarw yn mynd yn agos at y tagiau yma, bydd yn atal y goler rhag darllen am gyfnod o 30 munud ar ôl iddo fod yn agos at y tag hwnnw.
Isod mae’r mynegai lloea a ragwelir ar ôl sganio mewn cymhariaeth â blynyddoedd blaenorol.
Mynegai lloea blaenorol |
376 (yn amrywio rhwng 339 a 450 diwrnod) |
Y mynegai lloea a ragwelir ar gyfer 2021 |
363 (yn amrywio rhwng 310 a 451 diwrnod) |
Gwelwyd hefyd bod rhai o’r rhai oedd yn lloea yn gynnar ychydig yn hwyrach, efallai oherwydd y sychder ym Mai 2020, a arweiniodd at gymryd llai o borthiant yn y cyfnod hwnnw.
Bydd y prosiect yn parhau i bennu a ellir cael mwy o enillion yn y dyfodol.