14 Gorffennaf 2021

 

Mae digwyddiadau byw Cyswllt Ffermio wedi ailddechrau a chynhaliwyd y cyntaf o’r rhain mewn gardd fasnachol yn Aberteifi ym mis Gorffennaf.

Aeth bron i 18 mis heibio ers i’r pandemig orfodi Cyswllt Ffermio i fynd â’i ddigwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth ar-lein.

Ond, gyda chanllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru yn awr yn caniatáu digwyddiadau tu allan trwy gadw pellter cymdeithasol, mae Cyswllt Ffermio yn ailgychwyn ei ddigwyddiadau ar safleoedd unwaith eto.

Cychwynnodd y rhain gyda digwyddiad agored ar safle Gardd Fasnachol Glebelands, Aberteifi, i drafod dulliau rheoli chwyn.

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu yn barod ar draws Cymru ar gyfer yr wythnosau nesaf ac mae’r calendr digwyddiadau yn cael ei ddiweddaru’n gyson wrth i ragor gael eu hychwanegu.

Rhoddodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig Menter a Busnes, sy’n darparu rhaglen Cyswllt Ffermio, anogaeth i ffermwyr a thyfwyr ymweld â gwefan Cyswllt Ffermio i wirio pa ddigwyddiadau sy’n dod ar llyw.cymru/cyswlltffermiodigwyddiadau.

Roedd y ffurf gweminar a’r digwyddiadau byw o ffermydd arddangos wedi bod yn boblogaidd iawn yn ystod y cyfnodau clo Covid-19 a thra bu’r cyfyngiadau ar gyswllt cymdeithasol yn eu lle, dywedodd.

Felly bydd y rhaglen wrth symud ymlaen yn cynnwys cymysgedd o ddigwyddiadau ar y safle ac ar-lein.

“Gwyddom bod pobl wedi gweld colli’r digwyddiadau ar safleoedd a’r cyfle i ddysgu o’n prosiectau a’n gwaith treialu mewn lleoliad byw, felly rydym yn falch iawn ein bod ni mewn sefyllfa erbyn hyn i gynnig y cyfle hwnnw eto,” dywedodd Mrs Williams.

Cynhelir yr holl ddigwyddiadau ar safleoedd yn unol â’r canllawiau Covid-19 presennol, ac mae archebu lle yn orfodol, ychwanegodd.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Astudiaeth Cyswllt Ffermio yn taflu goleuni newydd ar statws iechyd y pridd mewn caeau tir âr
03 Mawrth 2026 Mae nifer o gaeau sy'n cael eu ffermio mewn
Mae profion genomig yn datgloi potensial llawn buches groesfrid yng Nghymru
26 Chwefror 2026 Mae profi heffrod croesfrid a buchod sy’n
Da i’r blaned, i’r da byw ac i’r busnes
Mae’r ffermwr pedwaredd genhedlaeth, Dylan Jones, yn glir nad oes