13 Medi 2021
Mae fferm laeth yn Sir Ddinbych yn addasu ei strategaeth rheoli a bwydo gwartheg sych er mwyn ceisio lleihau lloia dros nos.
Mae Bryn Farm, Tremeirchon, yn symud y patrwm lloia yn ei buches 90 buwch o system gydol y flwyddyn i floc hydref a gallai hynny fod yn heriol ar y system sy’n cael ei rhedeg gan y teulu os oes cyfran uchel o wartheg sy’n lloia dros nos.
Mae Aled Potts, sy’n ffermio gyda’i ewythr, Dilwyn Hughes, yn gweithio gyda Cyswllt Ffermio ar brosiect safle ffocws i ystyried a all newidiadau a wneir i ddulliau rheoli a diet yn ystod y cyfnod trosi gynyddu nifer y gwartheg sy’n lloia yn ystod y dydd, pan fo llafur ar gael yn fwy parod a phan ellir rhoi mwy o sylw i’r fuwch ac i roi colostrwm i’r llo newydd-anedig.
Mewn gweminar ddiweddar, dywedodd swyddog technegol llaeth Cyswllt Ffermio ar gyfer gogledd Cymru, Rhys Davies, fod sawl budd o gael cyfran uchel o’r fuches yn lloia yn ystod y dydd.
Gellir rhoi gwartheg sydd newydd fwrw lloi mewn llociau unigol yn gynt, gan ganiatáu i fwydo ddigwydd yn brydlon a thrwy hynny leihau problemau metabolaidd wedi geni.
Mae mantais hefyd y caiff y colostrwm ei gymryd o’r fuwch a’i roi i’r llo yn gyflym a bod y colostrwm o ansawdd uwch.
Mae llai o bwysau ar ffermwyr am fod llai o darfu ar eu cwsg ac mae mwy o gyfleoedd i bobl fod yn bresennol yn ystod y dydd i sylwi ar broblemau.
Yn Bryn Farm mae gwartheg sydd dair wythnos o’r dyddiad lloia yn cael cynnig porthiant ffres rhwng canol a diwedd y prynhawn tra bod y grŵp sydd i loia cyn pen tair wythnos yn cael ei atal rhag bwydo rhwng 12:00 a 18.30, ac yn cael mynediad i fuarth gwellt a dŵr yn unig. Caiff rholiau ar gyfer gwartheg sych eu cynnig ynghyd â mynediad ad-lib i borthiant o 18.30 ymlaen. Mae gofod bwydo digonol yn hanfodol yn ystod y cyfnod bwydo hwn a dylai o leiaf 85cm y fuwch o ofod bwydo fod ar gael ar draws y ffens fwydo.
Bydd gwartheg yn cael eu dilyn drwy gydol y cyfnod llaetha i gymharu eu cynnyrch, eu ffrwythlondeb ac unrhyw ystyriaethau metabolaidd rhwng gwartheg a fwrodd eu lloi ar wahanol adegau.
Mae’r arbenigwr ar faetheg anifeiliaid cnoi cil, William McNiece o Massey Feeds, sy’n rhoi cyngor ar faetheg yn Bryn Farm ers pedair blynedd, yn cyfrannu at reoli’r gwaith o drosi.
Dywedodd Mr McNiece yn ystod y weminar fod pwysau enfawr ar y fuwch adeg lloia, o gyfuniad o newid i’w diet, rhoi genedigaeth i lo a chynhyrchu llaeth.
“Pan mae buwch yn cynhyrchu 30-35 litr o laeth y dydd mae hi’n defnyddio gwerth cyfatebol o ynni y mae person yn rhedeg marathon yn ei ddefnyddio, ac mae hi’n gwneud hynny bob dydd,’’ meddai.
Er mwyn paratoi’r fuwch ar gyfer hyn, rhaid cynnal sgôr cyflwr y corff (BCS) o 3.25-3.5 am 100 diwrnod cyn ei sychu.
“Peth ffôl ydy ceisio gwella’i chyflwr yn ystod y cyfnod sych am fod gwartheg yn dyddodi braster o amgylch yr organau mewnol,’’ meddai Mr McNiece.
Roedd yn annog ffermwyr i beidio ag anghofio’r rhai sy’n rhoi cynnyrch isel. “Gall fod tuedd i roi gwair a 2kg o ddwysfwyd iddyn nhw a’u gadael i fwrw ymlaen â phethau ond mae angen rheoli’n fwy gofalus na hynny.’’
Mae gwirio statws mwynau yn hanfodol oherwydd wrth i gymeriant o ddwysfwyd gael ei leihau felly hefyd y gwnaiff y mwynau a roddir drwy’r llwybr porthiant hwn.
“Cymerwch waed a gwirio statws mwynau’r fuwch i addasu ei chymeriant o fwynau ar gyfer y cyfnod llaetha nesaf,’’ meddai Mr McNiece.
Mae sicrhau’r cymeriant gorau posib o ddeunydd sych (DMI) yn y cyfnod sych yn bwysig oherwydd po fwyaf y mae buwch yn ei fwyta y mwyaf y bydd yn cynnal ei BCS a’r mwyaf o laeth y bydd yn ei gynhyrchu ar ôl lloia.
“Mae cysylltiadau enfawr rhwng DMI yn y cyfnod lloia a DMI ar ôl lloia,’’ esboniodd Mr McNiece.
“Mae cymeriant DMI o 13-14kg yn y cyfnod trosi yn werth 1-2 litr ychwanegol ar frig y cyfnod llaetha. Mae hynny’n gynnydd ariannol rhwydd.’’
Roedd yn argymell gwahanu gwartheg dan risg cyn lloia a’u bwydo’n briodol – gallai’r rhain fod yn wartheg sy’n gloff neu wedi’u cyflyru’n ormodol. “Tynnwch y straen oddi arnyn nhw,’’ ychwanegodd.
Diet yn y cyfnod sych sy’n cael y dylanwad mwyaf ar atal twymyn llaeth.
Mae Mr McNiece yn ffafrio bwydo diet cymhareb catïon i anion dietegol (DCAD) negyddol yn y tair wythnos cyn lloia neu rwymwyr calsiwm.
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.