Gate Farm, Llandysul, Trefaldwyn

Prosiect Safle Ffocws: Gwahanol ddulliau sefydlu o dros-hadu gan ddefnyddio cymysgeddau aml-rywogaeth a lleiafswm o driniaeth tir fel dull sefydlu ar gyfer defnyddio cnydau bresych fel cnwd toriad mewn gwyndonnydd

Nodau’r prosiect:

Nod y prosiect yw cyflwyno cymysgedd o amrywiaethau newydd o laswellt, codlysiau a pherlysiau i wella bioamrywiaeth porfa a strwythur a ffrwythlondeb y pridd, er mwyn cynyddu cynhyrchiant a defnydd proteinau porthiant cartref yn y platform pori organig.

Bydd y prosiect yn cymharu tri dull adfywio gwahanol. 

Bydd y prosiect hefyd yn pwyso a mesur y potensial i ddefnyddio cnydau bresych hybrid (hybrid rêp/cêl) fel cnwd toriad wrth adnewyddu glaswelltiroedd drwy ddefnyddio lleiafswm o driniaeth tir fel dull sefydlu.  

  • Archwilio tair techneg sefydlu tros-hadu gwahanol gan ddefnyddio cymysgeddau aml-rywogaethol (perlysiau, codlysiau a glaswelltau) i wella ansawdd ac amrywiaeth y borfa yn ogystal â gwead a strwythur y pridd mewn platform pori glaswelltir organig.
  • Archwilio dull sefydlu lleiafswm o driniaeth tir ar gyfer defnyddio cnydau bresych fel cnwd toriad er mwyn ymestyn y tymor pori a chadw stoc ifanc trwy’r gaeaf.

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Dolygarn
James Powell Dolygarn, Llanbadarn Fynydd, Llandrindod Wells
Bryn
Huw a Meinir Jones Bryn, Ferwig, Aberteifi Meysydd allweddol yr
Marian Mawr
Aled Morris Marian Mawr, Dyserth, Rhyl Prif Amcanion Gwella