25 Tachwedd 2021

 

Mae busnes o Gymru, sy’n defnyddio systemau chwistrellu awtomataidd sydd wedi arwain at welliannau sylweddol yn amgylchedd siediau ieir ar safle arddangos Cyswllt Ffermio, wedi ennill gwobr newydd o bwys am arloesedd.

Cydnabuwyd gwaith Pruex yn Safle Arddangos Wern, ger y Trallwng, ac mewn busnesau fferm eraill ar draws ystod o sectorau, yng ngwobrau technoleg amaethyddol agoriadol diweddar y Ganolfan Agri-EPI. 

Mae'r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Dyfarnwyd gwobr Rhagoriaeth Agri-Tech i'r cwmni, sy'n cydnabod y datrysiad technoleg amaethyddol gorau sy’n cael ei weithredu ar fferm yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

“Rydyn ni ar ben ein digon; mae’n dangos bod y diwydiant yn cydnabod yr hyn rydyn ni wedi’i ddysgu o’n hymchwil,’’ dywedodd sylfaenydd Pruex, Aled Davies.

“Heb amheuaeth, mae ein cydweithrediad â Cyswllt Ffermio ar ei waith prosiect yn Wern wedi bod yn hanfodol wrth ddatblygu ein dealltwriaeth o sut i wella iechyd a lles anifeiliaid.”

Mae synwyryddion wedi'u gosod trwy'r sied 32,000 o adar yn Wern i fesur lefelau amonia a charbon deuocsid, yn ogystal â thymheredd a lleithder. Mae'r rhain yn ysgogi niwlwyr awtomatig i chwistrellu bacteria nad ydynt yn heintus ar amseroedd penodol, a phan fydd eithafion yn cael eu canfod o’r data a gesglir o’r synwyryddion. 

“Mae’n dangos pa mor bwysig yw casglu data a buddsoddi mewn LoraWan,” dywedodd Mr Davies.

Mae bacteria Pruex yn sychu'r sarn ieir; mae profion wedi datgelu bod cynnwys lleithder yn y baw ar y beltiau tail yn Wern wedi gostwng dros 50%. Mae hyn wedi lleihau pa mor aml mae’n rhaid carthu, o bob tri diwrnod i ddim ond unwaith bob pythefnos.

Mae lefelau amonia y tu mewn i'r adeilad ac yn y tail sydd wedi'i storio wedi gostwng, gan ddangos potensial enfawr i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â rheoli llygredd amaethyddol.

“Yn ogystal â lleihau’r risg y bydd bacteria heintus yn dominyddu, mae’r system hon yn cynnig y budd ychwanegol o wella ansawdd aer ar gyfer adar a staff”, dywedodd Mr Davies.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o